Hafan y Blog

GRAFT Chwefror

Josh David-Read, 21 Mawrth 2024

 

“Does dim camgymeriadau wrth arddio – dim ond arbrofion.” Janet Kilburn Phillips

Yw Chwefror yn rhy gynnar i ddechrau plannu? Nawr mae hwn yn bwnc dadleuol yn y byd garddio… Ond fe wnaethon ni roi cynnig ar blannu cynnar.

Ddiwedd Ionawr a dechrau Chwefror dyma ni’n plannu winwns a phannas (hadau) yn uniongyrchol, plannu ffa a hau tomatos, planhigion wy, tsili, puprunnau a phys pêr cynnar. Dyma ni hefyd yn plannu llawrwydden mewn pot wrth y gegin a dau goesyn mwyar duon yng ngwely'r goedwig. Mae dechrau'n gynnar yn golygu proses egino arafach ond cnwd cynharach. 

 

 

Byddwn ni’n hau mathau gwahanol yn ddiweddarach i sicrhau rhagor o gnwd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. [Cyngor Craff] Dim ond os oes gennych chi ffrâm dyfu wedi'i chynhesu neu silff uwchben rheiddiadur y dylech chi ddechrau'n gynnar. 

Dyma ni’n arwain gweithdy ar greu cymysgedd potio. Eleni rydyn ni’n defnyddio dwy ran o’n compost ein hunain, dwy ran coir (rhisgl cnau coco), ac un rhan perlit. Mae hyn yn rhoi cyfle da i bob hedyn newydd. Yr unig anfantais o ddefnyddio eich compost eich hun yw'r chwyn ... rydyn ni wedi darganfod bod egino gyda'ch compost eich hun yn annog chwyn. Oes gennych chi gymysgedd potio arall rydych chi'n taeru sy'n ddelfrydol? Rhowch wybod i ni! 

Yn ddiweddarach yn y mis aeth Ian ati i atgyweirio'r gwelyau pren, gan ddysgu'r broses i ddau o wirfoddolwyr GRAFT. Dyma ni hefyd yn adeiladu chwe gwely uchel arall o haearn rhychiog, fydd yn dilyn ymyl wydr yr Amgueddfa. Gan fod hon yn rhan fwy cysgodol o'r ardd, rhaid i ni gynllunio'n ofalus beth i'w blannu. Dewch i gael golwg pan fyddwch chi’n ymweld nesaf, maen nhw'n edrych yn wych! I lenwi'r gwelyau dyma ni’n pacio’r gwaelod gyda chardfwrdd a llawer o doriadau a changhennau, cyn ychwanegu uwchbridd. Pan fydd y deunydd organig hwn yn dadelfennu bydd yn rhoi maetholion i'r pridd.

 

 

       

Ddiwedd Chwefror dyma ni’n plannu sbigoglys, ac amrywiaeth o berlysiau (teim, oregano, penrhudd, basil) yn y twnelau polythen. Dyma ni hefyd yn blaen-blannu ein tatws mewn bocsys wyau gyda'r 'llygaid' wyneb i fyny (chitting yn Saesneg). Pan fyddan nhw’n egino byddan nhw'n barod i’w plannu yn y ddaear. Does dim rhaid blaen-blannu wrth gwrs, gallwch chi eu rhoi nhw’n syth yn y gwely tyfu. [Cyngor Craff] Tyfu tatws gartref! Sawl gwaith ydych chi wedi dechrau ar y tatws stwns a chanfod taten yn egino? Gallwch chi dorri’r rhain yn hanner a'u gosod mewn pridd i gael cnwd mawr o datws cartref. Rhowch gynnig arni a rhoi gwybod sut hwyl gewch chi! 

 

Pwmpen wedi'i rhostio gyda thahini wedi'i chwipio

 

Digon i 4 person

 

Cynhwysion

1.2 k pwmpen o'ch dewis, wedi tynnu’r hadu a'i dorri'n dalpiau

3 llwy fwrdd o olew

1 winwnsyn coch, wedi'i dorri'n fân

Ychydig o finegr gwin coch

200g tahini

Ychydig o sudd lemwn

Llond llaw o ddail mintys

Halen a phupur

 

Dull

Cynheswch y ffwrn i 180 gradd

Rhostiwch y bwmpen (gydag ychydig o olew a halen) am 40 munud, gan ei droi hanner ffordd

Rhowch winwnsyn mewn powlen gyda finegr a phinsiad o halen a’i gymysgu’n dda

Mewn powlen arall, ychwanegwch 125ml o ddŵr oer at y tahini a’i chwisgio’n dda

Ychwanegwch sudd lemwn a halen at eich dant

I’w weini, rhowch y tahini ar y plât, a’r bwmpen, winwns picls, dail mintys wedi’u rhwygo a halen a phupur ar ei ben

 

Bob mis neu ddau bydda i’n rhannu’r newyddion diweddaraf am ein gwaith yn yr ardd. Byddwn ni’n rhannu unrhyw beth rydyn ni’n ei ddysgu, beth sydd wedi gweithio’n dda (a ddim cystal) ac unrhyw awgrymiadau i arddwyr (hen a newydd) eu defnyddio yn eich mannau gwyrdd eich hun. Bydda i hefyd yn cynnwys rysáit tymhorol o The Shared Plate gan ddefnyddio cynhwysion GRAFT.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.