Bloedd – Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru

  • Grŵp o bobl yn sefyll o amgylch bwrdd, lle mae casgliadau papur yn cael eu harddangos.
  • Unigolyn yn canu, yn sefyll o flaen tapestri lliwgar.
  • Tri o bobl mewn arddangosfa amgueddfa yn edrych lawr ar gas arddangos.
  • Rhywun yn sefyll gyda'u cefn at y camera, yn edrych ar ddarn o waith celf.
  • Dau berson yn edrych yn agos ar luniadau neu arteffactau papur.
  • Grŵp o bobl ifanc yn sefyll mewn oriel gelf.
  • Dau berson yn edrych ar ddarlun o Syr Thomas Picton.
Logo ar gyfer rhydwaith Bloedd Amgueddfa Cymru.

Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yw grwp pobl ifanc rhwng 16 – 25 oed sy’n byw yng Nghymru a chydweithio gyda’r Amgueddfa drwy gyfleoedd cyfranogol a chyflogedig.

Hwn yw lle i ddyfnhau gwybodaeth a sicrhau bod mannau treftadaeth a diwyllianol yn fwy cynrychioliadol o’r bobl ifanc a’u diwylliannai niferus sy’n byw yng Nghymru neu o Gymru. Rydyn ni yma i wneud treftadaeth yn berthnasol.

Rydyn yn edrych ar gelf, treftadaeth a hunaniaeth, amgylcheddaeth, gwyddorau naturiol, hanes cymdeithasol ac archaeoleg drwy ein casgliadau a chyd-cynhyrchu digwyddiadau, gweithdai, arddangosfeydd, cyfryngau digidol cyhoeddiadau, grwpiau datblygu a mwy! Mae ein Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yn gweithio’n agos gydag adrannau ar draws yr Amgueddfa i'n helpu ni ddyfnhau cynrychiolaeth yn ein casgliadau a rhaglenni, i adlewyrchu pob cymuned yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ehangu ein casgliadau LHDTC+, dad-drefedigaethu ein casgliadau a chasglu hanesion llafar ar hanes dosbarth gweithiol. Gall Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru hefyd ddod â’u syniadau neu bynciau y hoffen nhw archwilio trwy ein casgliadau!

Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bost i glywed am gyfleoedd ar draws yr Amgueddfa yma.

Cewch gysylltu drwy e-bostio bloedd.ac@amgueddfacymru.ac.uk. Dilynwch ni ar Instagram i gael y wybodaeth ddiweddaraf am Bloedd!

Cyfleon Cyfredol

Dim Cyfleoedd

Does dim cyfleoedd ar hyn o bryd. Beth am gofrestru i dderbyn ein rhestr bostio i glywed y diweddaraf am gyfleoedd newydd? Neu gallwch chi ein dilyn ar Instragram

Blog

gan Kate Woodward
5 Mawrth 2025
gan Kate Woodward
5 Chwefror 2025