Cymerwch Rhan gyda’r Ailddatblygu

Mae Amgueddfa Lechi Cymru ar gau ar hyn o bryd ar gyfer prosiect ailddatblygu mawr i roi bywyd newydd i'n Hamgueddfa boblogaidd ac i ddiogelu ein hadeiladau hanesyddol ysblennydd a'n casgliadau o bwysigrwydd byd-eang fel y gall cenedlaethau'r dyfodol brofi a mwynhau stori anhygoel llechi.


Mae angen pobl fel chi i wirfoddoli eich amser, mynegi barn, ein helpu i greu digwyddiadau ac arddangosfeydd, a sicrhau ein bod ni'n berthnasol i bobl Cymru heddiw. Gwelwch isod i weld y gwahanol ffyrdd o gymryd rhan.

Gwirfoddoli a Phrofiad Gwaith

Yda chi'n caru'r Amgueddfa ac eisiau cynrhychioli'r dreftadaeth arbennig yma? Yda chi eisiau gwneud cyfraniad pwysig i Amgueddfa Cymru a'n stori am Gymru?


Bydd gwirfoddolwyr ac unigolion ar bofiad gwaith yn cymryd rhan mewn pob math o brojectau dros gyfnod yr ailddatblygu. Gall eich cyfraniad chi gynnig persbectif newydd, ein helpu gyda gweithgareddau dysgu neu ein helpu i adrodd straeon newydd. Cewch yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd yma:

Gwirfoddoli Profiad Gwaith

Pobl Ifanc

Tra bod Amgueddfa Lechi Cymru ar gau, ein cam nesaf yw parhau â’n stori y tu hwnt i furiau’r amgueddfa. Rydym am gynnwys pobl ifanc yn y broses.


Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yw grwp pobl ifanc rhwng 16 – 25 oed sy’n byw yng Nghymru a chydweithio gyda’r Amgueddfa drwy gyfleoedd cyfranogol a chyflogedig. Hwn yw lle i ddyfnhau gwybodaeth a sicrhau bod mannau treftadaeth a diwyllianol yn fwy cynrychioliadol o’r bobl ifanc a’u diwylliannai niferus sy’n byw yng Nghymru neu o Gymru. Rydyn ni yma i wneud treftadaeth yn berthnasol.


Cewch y wybodaeth diweddaraf am gyfleoedd Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yr ailddatblygiad yma:

Cyfleoedd Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru

Eich Llais Chi

Dewch yn ôl yn fuan i ddarganfod sut y gall eich llais cael dylanwad ar ddyfodol Amgueddfa Lechi Cymru.