Dysgu yn Amgueddfa Lechi Cymru

Dysgwch am y diwydiant a roddodd do ar y byd! Daw Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis â hanes y diwydiant llechi yn fyw o flaen eich llygaid. Teithiwch nôl mewn amser yng ngweithdai gwreiddiol y chwarel, wedi eu gadael fel roeddent pan gaeodd y chwarel yn 1969. Darganfyddwch sut roedd y chwarelwyr a’u teuluoedd yn byw yn nhai teras Fron Haul. Syllwch mewn rhyfeddod ar yr olwyn ddŵr anferthol a chymrwch ran mewn dewis eang o weithdai wedi eu hwyluso.

Amgueddfa Lechi Cymru

Llanberis
Caernarfon
LL55 4TY

Manylion Mynediad

Anghenion Ychwanegol

Gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch

Polisi a Gweithdrefnau Diogelu Plant