Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Rhaid i ysgolion a grwpiau archebu dau wythnos ymlaen llaw.
Ffoniwch: (029) 2057 3702 E-bost: llechi@amgueddfacymru.ac.uk
Ein horiau archebu yw o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9.00yb a 4.00yp.
Dim ond un dosbarth, cyfanswm o 30 (plant a staff ysgol) fydd yn cael ymweld bob dydd.
Tra mae'r prif safle ar gau, mae cyllideb ein prosiect ailddatblygu yn galluogi i ni gynnal ein sesiynau addysg am ddim.
Os caiff ymweliad ei ganslo wedi 10am ar y diwrnod blaenorol, neu os yw grŵp yn hwyr yn cyrraedd ac yn colli eu sesiwn, bydd yn rhaid talu’r pris llawn. Gellir codi tâl trafod o £25 am ganslo neu newid archeb. Os yw eich amgylchiadau’n newid, cysylltwch â’r tîm Addysg cyn gynted â phosibl er mwyn i ni roi eich lle i grŵp arall. Ffôn (029) 2057 3702. Gadewch neges ar y peiriant ateb os yw’r llinell yn brysur.
Y Pasg-Hydref: 10am-5pm, bob dydd
Tachwedd-y Pasg: 10am-4pm, ar gau bob dydd Sadwrn.
Mae gwybodaeth iechyd a diogelwch i’ch helpu i gwblhau asesiad risg ar gael
Rhaid goruchwylio grwpiau 16 oed neu iau drwy’r amser.
Cymarebau oedolyn/plentyn:
Mae digonedd o le parcio am ddim i fysiau. Mae’r Amgueddfa ym Mharc Gwledig Padarn, Llanberis.
Mae modd defnyddio cadair olwyn ar y rhan fwyaf o’r safle, ar hyd pafin o lechi a llwybrau a chanddynt naddion llechi drostynt. Oherwydd natur yr Amgueddfa, mae’n bosib y bydd angen cymorth ychwanegol ar gyfer rhai rhannau o’r Amgueddfa.
Mae toiled i’r anabl yng Nghaffi’r Ffowntan.
Bydd y rhan fwyaf o’ch ymweliad yn yr awyr agored, felly dewch â dillad addas ar gyfer pob math o dywydd.
Dylai arweinydd y grŵp gofrestru yn y Siop. Bydd y staff yno’n cadarnhau manylion eich ymweliad ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Byddwn angen gwybod faint yn union o ymwelwyr sydd yn eich grŵp.
Dylai grwpiau aros yn y bws tan fod yr arweinydd wedi cofrestru – os yn bosibl.
O dan dô: Mae dwy ystafell ar wahân ar gael (Elidir ac Elidir Fach) ar gyfer grwpiau sydd am fwyta pecyn cinio. Dylid archebu amser yn yr ystafelloedd ymlaen llaw.
Y tu allan: Mae llefydd picnic awyr agored ar gael (mae rhai'n gysgodol). Gofynnwch i Gynorthwy-ydd Amgueddfa am gyfarwyddiadau. Mae pan picnic ar gael ym Mharc Padarn hefyd.
Caffi: Ffoniwch Gaffi’r Ffowntan ymlaen llaw i archebu pecynnau cinio ar (029) 2057 3715.
Mae tai bach ar gael yn y caffi. Mae bloc o dai bach hefyd ar gael ym maes marcio Parc Gwledig Padarn.
Mae ‘Uned Newid Lleoedd’ ar gael yn y caffi.
Mae map o’r Amgueddfa ar gael o’r siop.
Gofynnwch i aelod o staff yr Amgueddfa am le addas i gadw cotiau a bagiau.
Peidiwch â defnyddio’ch ffôn symudol wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp, er cwrteisi i ymwelwyr eraill.
Mae’r siop yn gwerthu pob math o nwyddau amrywiol fel teganau bach, llyfrau a chardiau post. Helpwch i oruchwylio’ch grŵp drwy sicrhau mai nifer fach o blant sydd yn y siop ar unrhyw adeg.
Rhaid i blant a phobl ifanc dan 16 oed fod dan oruchwyliaeth drwy’r amser.
Rhaid i ymwelwyr beidio â:
Ni chaniateir ysmygu ar y safle.
Caniateir cŵn ar y safle ond nid yn y tai ac mae’n rhaid eu cadw ar dennyn ar bob adeg. Mae bagiau pwrpasol ar gael yn y siop er mwyn i berchnogion godi baw eu ci.
Mae’r rhain ar gael i athrawon neu arweinwyr grwpiau sydd am gynefino â’r Amgueddfa. Ffoniwch i drefnu ymlaen llaw os ydych chi’n dymuno siarad ag aelod o’r tîm Addysg ar ddiwrnod eich ymweliad rhagflas.
Os bydd angen Cymorth Cyntaf, cysylltwch ag un o’r Cynorthwywyr Amgueddfa, a fydd yn galw am rywun sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf.
Dywedwch wrth blant am roi gwybod i aelod o’r staff os ydyn nhw ar goll. Yna bydd Cynorthwy-ydd Amgueddfa yn dod o hyd i un o arweinwyr y grŵp.
Os bydd arweinydd grŵp yn sylwi fod aelod o’r grŵp ar goll, dylai ddweud wrth aelod o staff yr Amgueddfa fydd yn gweithredu’n briodol.
Os bydd unrhyw fath arall o argyfwng, dywedwch wrth Gynorthwy-ydd Amgueddfa.
Mae polisi amddiffyn plant yr Amgueddfa ar gael yma .