Fforwm Ieuenctid (14-25)



Ydych chi rhwng 14 a 25? Allwch chi ein helpu i ddenu pobl ifanc i’n hamgueddfeydd? Rydyn ni’n chwilio am greadigrwydd a syniadau newydd, ond yn fwy na dim am eich llais chi i gyfrannu at benderfyniadau yn Amgueddfa Cymru.
Mae Fforwm Ieuenctid ym mhob un o’n Hamgueddfeydd ar draws Cymru. Rydyn ni’n annog pobl ifanc rhwng 14 a 25 i fod yn bartneriaid i ni a’n helpu i wneud penderfyniadau a threfnu gweithgareddau. Bydd y fforymau yn gwrando ar farn pobl ifanc ac yn canolbwyntio ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw.
Mae Fforymau Ieuenctid Amgueddfa Cymru wedi cymryd rhan mewn sawl arddangosfa a gweithgaredd, er enghraifft:
- Diwrnod Meddiannu Kids in Museums a Teen Twitter Takeover
- Ysgrifennu
- Ysgrifennu llyfryn dehongli amgen ar gyfer arddangosfa Bregus? yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston)
- Paratoi map cartŵn, Ein Caerdydd, i gyd-fynd ag arddangosfa Trysorau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gyda’r artist Huw Aaron
- Ffilmio a chynhyrchu fideo o ddigwyddiad opera yn gysylltiedig ag arddangosfa ‘Uffern rhyfel!’ Brwydr Coed Mametz a’r Celfyddydau, (mewn partneriaeth ag Opera Cenedlaethol Cymru, Prifysgol Caerdydd a Firing Line: Amgueddfa’r Milwr Cymreig, Castell Caerdydd)
- Adeiladu popty bara ym Mryn Eryr, fferm Oes yr Haearn, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
- Paratoi ac arddangos project Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, Bwyd o bedwar ban (ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri), yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Os oes gennych chi ddiddordeb ymuno â Fforwm Ieuenctid, lawrlwythwch y Ffurflen Gofrestru a’i chwblhau:

Gallwch chi ddychwelyd ffurflenni wedi’u cwblhau aton ni drwy e-bostio fforwm.ieuenctid@amgueddfacymru.ac.uk neu eu postio at Fforymau Ieuenctid, Adran Addysg, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NP.
Byddwn ni’n ceisio eich cofrestru’n aelod o Fforwm Ieuenctid cyn gynted â phosibl. Os nad oes lle yn eich Fforwm ddelfrydol, byddwn ni’n rhoi eich enw ar restr aros ac yn rhoi gwybod pan fydd lle ar gael.
Anfonwch unrhyw ymholiadau eraill am y Fforymau Ieuenctid at yr adran drwy
e-bostneu ffonio (029) 2057 3002. Mae croeso i chi gysylltu â ni yn Gymraeg neu'n Saesneg.
