Lleoliadau Gwaith Myfyrwyr


Oeddech chi'n gwybod y gallwch chi ddod ar Leoliad Gwaith Myfyriwr? Hoffech chi droi theori yn brofiad ymarferol?

Mae Lleoliadau Gwaith Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr 16 oed a hŷn. Dyma gyfle i chi fel myfyriwr ennill profiad gwaith, datblygu sgiliau ymarferol a chael blas ar opsiynau gyrfa.

Mae pob un o'n cyfleoedd Lleoliad Gwaith Myfyrwyr yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan. Dydyn ni ddim yn derbyn CV na llythyrau cyflwyno.

Beth am gofrestru i dderbyn ein rhestr bostio i glywed y diweddaraf am gyfleoedd newydd? Neu dilynwch ni ar X (Twitter) neu Facebook!

Cysylltwch â ni os ydych chi angen cymorth gyda'r broses ymgeisio.

Mae gwybodaeth ar gael hefyd am Ysgoloriaeth Ymchwil PhD yma.


"Diolch i fy lleoliad, dwi wedi elwa ar ddysgu amrywiaeth o sgiliau ymchwil a gwaith maes newydd fydd yn helpu fy nghynlluniau gyrfa yn y dyfodol... Fel darparwr addysg, mae awyrgylch yr Amgueddfa yn bendant yn ffafriol i ddysgu."

Lleoliad Gwaith Myfyrwyr


Cyfleodd Cyfredol

Does dim cyfleoedd ar hyn o bryd. Beth am gofrestru i dderbyn ein rhestr bostio i glywed y diweddaraf am gyfleoedd newydd? Neu gallwch chi ein dilyn ar X (Twitter) neu Facebook!.