Hyfforddiant doethurol yn
Amgueddfa Cymru
Consortiwm Diwylliant a Threftadaeth Cymru
Yr haf hwn, rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at lansio ein gwobr tirwedd ddoethurol gydweithredol newydd. Mae’r wobr hon yn datblygu ar ein partneriaeth CDP4 flaenorol gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac yn dod â ni ynghyd â Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i gyflwyno rhaglen hyfforddi ymchwil ddoethurol gydweithredol estynedig a chydlynol yng Nghymru.
Mae ein 12 canolfan ymchwil yn cadw ac yn gofalu am gasgliad cenedlaethol amrywiol o arteffactau a sbesimenau hanes natur, llyfrau, cyfnodolion, archifau, mapiau, sain, ffilm, gwaith celf, darlledu, ffotograffau (gan gynnwys casgliad hanesyddol o luniau o’r awyr), setiau data digidol, dros 2.5 PB o ddaliadau archifol digidol anedig, a thros 6 miliwn o eitemau wedi’u digideiddio.
Mae ein safleoedd yn cynnwys tirwedd treftadaeth o 400 erw, amgueddfa awyr agored, gofod oriel mewn amgueddfeydd, amgueddfeydd diwydiannol sydd ar waith, eiddo hanesyddol o feddrodau cynhanesyddol, cestyll adfeiliedig a thai sydd ar waith, crefftwaith traddodiadol byw a llyfrgell adnau cyfreithiol.
Mae gennym bedwar maes ymchwil sy’n flaenoriaeth:
1. Cynrychioli pawb: sut gallwn ni ddehongli casgliadau ac ennyn diddordeb cynulleidfaoedd newydd i adrodd straeon newydd ac ailadrodd straeon cyfarwydd drwy leisiau newydd?
2. Lleoedd iach: sut gall treftadaeth ddiwylliannol gefnogi pobl, lleoedd a natur i ffynnu?
3. Mynediad digidol at gasgliadau: sut gall adnoddau a dulliau digidol wella creadigaeth, hygyrchedd ac argaeledd data a chasgliadau yn ogystal â’r gwaith o’u dehongli a’r mathau o straeon sy’n cael eu hadrodd?
4. Cadwraeth: sut gallwn ni reoli penderfyniadau am gadwraeth mewn cyd-destunau o ehangu cyfranogiad a’r defnydd o gasgliadau, addasu i newid hinsawdd a newid ar raddfa tirwedd?
Rydyn ni’n chwilio am brojectau ymchwil sy’n mynd i’r afael â’r themâu hyn ac sy’n cyd-fynd yn gryf â’n meysydd gwaith a’n gwerthoedd fel sefydliad. Fel arfer, byddwn yn disgwyl i’r tîm goruchwylio ar gyfer pob project gynnwys cyfanswm o 4 goruchwylydd: 2 o brifysgol a 2 o’n consortiwm ni.
Drwy ein partneriaeth, pynciau ymchwil, cynllun gweithredu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer carfannau myfyrwyr, rydyn ni’n ceisio cefnogi diwylliant hyfforddiant ymchwil doethurol bywiog, amrywiol a chysylltiedig yng Nghymru.
Byddwn yn dyfarnu 18 ysgoloriaeth PhD ar draws pedair galwad am gyllid yn ystod haf 2026, 2027, 2028 a 2029 ar gyfer projectau sy’n dechrau ym mis Hydref 2027, 2028, 2029 a 2030.
Mynegiadau o Ddiddordeb
Os ydych chi'n academydd sydd wedi'i leoli mewn Sefydliad Addysg Uwch, mae mynegiadau o ddiddordeb bellach ar agor ar gyfer y Wobr Tirwedd Doethurol Gydweithredol. Byddwn yn dyfarnu 5 ysgoloriaeth, gan ddechrau ym mis Hydref 2026, yn y rownd gyntaf hon.
Cyflwynwch eich mynegiant o ddiddordeb trwy ein ffurflen ar-lein erbyn dydd Gwener 9 Hydref 2026.
Ffurflen Datganiad o Ddiddordeb
Digwyddiadau briffio
Byddwn yn cynnal digwyddiadau briffio ar:
Bydd y digwyddiadau briffio yn gyfle i staff ym mhob un o’n sefydliadau, ac ymchwilwyr prifysgol sydd â diddordeb mewn cyd-ddatblygu projectau PhD, ddysgu mwy am ein consortiwm a’i nodau yn ogystal â dechrau datblygu cyfleoedd posibl i gydweithio.
Er mwyn cofrestru ar gyfer y digwyddiad briffio, defnyddiwch y dolenni uchod.
Amserlen ar gyfer cyllid
- Gorffennaf 2026: Briffio
- Dydd Gwener 9 Hydref 2026: Dyddiad cau datganiadau o ddiddordeb
- Dydd Gwener 27 Tachwedd 2026: Dyddiad cau ar gyfer y cynigion llawn
- Ionawr 2027: Adolygiad panel
- Chwefror – Mai 2027: Hysbysebu
- Mehefin 2027: Cyfweliadau
- Hydref 2027: Dechrau ysgoloriaethau ymchwil