Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru

Gall amgueddfeydd helpu i wella ein hiechyd corfforol a meddyliol, boed hynny trwy ymweld â nhw neu trwy raglenni penodol. Ym mhob un o’n saith Amgueddfa, rydyn ni’n gweithio gyda gwahanol bartneriaid iechyd a lles i ddatblygu gweithgareddau pwrpasol a chyffrous ar gyfer pobl sydd ag ystod o anghenion.
Mae ein Hamgueddfeydd hefyd yn llefydd diogel sy’n lle i enaid gael llonydd neu ysbrydoliaeth. Cymerwch gip ar rai o’n hadnoddau a gwaith hyd yn hyn.

Ein hymgynghoriad yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, ym Mawrth 2023
Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion
Project tair blynedd yw Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion wedi'i arwain ar y cyd gan Amgueddfa Cymru a Chymdeithas Alzheimer’s Cymru, gyda nawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Dechreuodd y project ym mis Ebrill 2022 gan adeiladu ar ein rhaglen bresennol o ddigwyddiadau dementia-gyfeillgar, gyda’r nod o weithio gyda pobl sydd yn byw gyda dementia, gofalwyr di-dâl, staff y sector gofal, cydweithwyr y sector treftadaeth a chymunedau a sefyliadau oddi ledled Cymru i ddatblygu a darparu ffyrdd ymarferol i ymgysylltu â phobl sydd wedi’u heffeithio gan dementia ac i wella’u safon byw drwy wella mynediad i safleoedd ac adnoddau’r Amgueddfa.

Cysur Mewn Casglu
Mae ymgyrch digidol Cysur Mewn Casglu wedi gwahodd pobl i ymateb i eitemau o gasgliad ar-lein yr Amgueddfa ac i rannu eu gwrthrychau eu hunain - eitemau sy’n dod â chysur, sy’n gwella tymer, ac yn helpu lles ac iechyd meddwl o ddydd i ddydd, neu mewn cyfnodau anodd.

Lliain Bwrdd Ysbyty Whitchurch
Mae nifer fawr yn troi at grefft am noddfa ar hyn o bryd. Dyma blog am y cysylltiad rhwng iechyd meddwl a chrefft drwy gyfrwng rhai eitemau o'r casgliad tecstiliau

Bresychen anferth!
Ffa Dringo, Bresych a Cholslo
Cafodd y teuluoedd gyfle i fwynhau diwrnod o ddysgu yn ymarferol am dyfu bwyd a’i gynaeafu, cyn coginio pryd maethlon gyda chynnyrch wedi’i hel o erddi Sain Ffagan.

Taith Ymwybyddiaeth Ofalgar Sain Ffagan
We have just launched our self-guided mindful tour here at St Fagans National Museum of History. The tour is through the gardens around St Fagans Castle. Our new free fold-out map of the gardens encourages visitors to take in their surroundings and explore their different senses.

Arddangosfa Gobaith Amgueddfa Wlân Cymru
Dyma adeg hollol newydd a heriol i bawb, a gobeithiwn eich bod yn cadw’n ddiogel ac yn iach. Gall creadigrwydd a theimlad o gymuned ein cefnogi ni drwy’r amser caled hwn, ac felly mae’r Amgueddfa wedi lansio Arddangosfa Gobaith gyda’r nod o fod yn ffurf o obaith gweladwy i bawb.

Grŵp Cerdded Dementia Cynnar yn Sain Ffagan
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi sefydlu Gwasanaeth Dementia Cynnar sy’n cyfarfod yn rheolaidd, gan ddarparu gwahanol weithgareddau a chefnogaeth i unrhyw un sy’n cael diagnosis o ddementia cynyddol cyn cyrraedd 65 mlwydd oed.

Taith Danddaearol Gyfeillgar i Dementia yn Big Pit, Amgueddfa Lofaol Cymru
Ym mis Mai 2017 lansiwyd taith danddaearol newydd a ddatblygwyd gyda phobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr. Mae'r Daith Danddaearol Gyfeillgar i Dementia yn dilyn yr un egwyddorion a’r deithiau eraill, ond gydag ychydig o addasiadau.