Cysur Mewn Casglu

Mae adnoddau Cysur mewn Casglu wedi’u datblygu i gysylltu pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal, pobl sydd yn wynebu ynysu cymdeithasol, a phobl sydd yn edrych am gweithgareddau i’w gwneud mewn sesiynau grŵp, â chasgliadau cenedlaethol Cymru. Mae modd lawrlwytho’r adnoddau hyn a’u defnyddio ar gyfer gweithgareddau, neu i sbarduno sgyrsiau ac atgofion.

Gallwch ddefnyddio’r gweithgareddau thema hyn gyda grŵp, ar gyfer trafodaethau un-i-un, neu fel sbardun ar gyfer sgyrsiau hanes bywyd. Maent yn addas i bawb, ond yn rhoi cyfle i ddysgu rhywbeth newydd drwy archwilio casgliadau Amgueddfa Cymru.

Cliciwch o dan y rhagolwg i lawrlwytho pob adnodd. Gallwch eu defnyddio ar sgrin neu eu hargraffu.

Mae pob canllaw gweithgaredd yn cynnwys cwestiynau a syniadau am weithgareddau synhwyraidd i annog sgwrs ac ymgysylltu.

Gwylio

Cyfres o ffilmiau wedi’u hysbrydoli gan gasgliadau Amgueddfa Cymru, a dyluniwyd i gysuro, ymlacio, ysgogi ac ysbrydoli.

Diolch i gyllid gan Ymddiriedolaeth Austin a Hope Pilkington ac Ymddiriedolaeth Elusennol D’Oyly Carte, mae cyfres o ffilmiau wedi’u creu gan artistiaid a phobl greadigol o bob cwr o Gymru i wella lles pobl sydd yn wynebu ynysu cymdeithasol.

Mae’r holl ffilmiau wedi cael eu creu er mwyn i bawb eu mwynhau – boed hynny yn bobl mewn gofal, adref, neu unrhyw grŵp sy’n cwrdd yn rheolaidd ac yn chwilio am weithgareddau ystyrlon a hwyliog i wella lles y rheini sy’n cymryd rhan.

Caiff y project ei gefnogi gan dîm sy’n cynnwys Amgueddfa Cymru, Llywodraeth Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Cymdeithas Alzheimers, Innovate Trust a Bwrdd Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Gwent Fwyaf.

Mae datblygiad y canllawiau gweithgaredd Cysur mewn Casglu yn cael ei wneud yn gyfochrog â rhaglen Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion, sydd yn ffocysu ar ddefnyddio safleoedd a gwrthrychau’r amgueddfa i wella iechyd a lles pobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia.