Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion: Spring Bulbs

Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion

Cyfle i adael y dosbarth!

Ymunwch â’r miloedd o wyddonwyr ysgol sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil cyffrous hwn. Mabwysiadwch fylbiau’r gwanwyn eich hun er mwyn helpu Athro’r Ardd i ddarganfod sut mae’r newid yn y tymhorau yn effeithio ar flodau’r gwanwyn.

Ers mis Hydref 2005, mae gwyddonwyr ysgol o bob cwr o Gymru wedi bod yn cofnodi’r tywydd ac yn nodi pryd mae’r planhigion yn blodeuo fel rhan o’r astudiaeth hirdymor hon sy’n edrych ar effeithiau tymheredd ar fylbiau’r gwanwyn.

Rydym yn parhau i weithio gydag Ymddiriedolaeth Edina, sy’n cefnogi ac yn ariannu’r project. Mae Ymddiriedolaeth Edina wedi cynnal estyniad o’r project ers 2011, gan ehangu project gwreiddiol Amgueddfa Cymru i gynnwys ysgolion yn Lloegr a’r Alban. Yn 2016 cafodd yr estyniad hwn ei ehangu i rai ysgolion yn Gymru, ac yn 2017 wnaeth Ymddiriedolaeth Edina ehangu’r project eto, i gynnwys ysgolion yng Ngogledd Iwerddon.

Dyma beth sydd angen i chi wneud

1

Gwnewch gais i gymryd rhan yn ymchwiliad 2022-2023

2

Derbyn pecyn adnoddau ym mis Medi

3

Plannwch eich bylbiau ym mis Hydref a chymerwch gofnodion tywydd o fis Tachwedd i fis Mawrth

4

Rhannwch eich data tywydd a data blodau i'n gwefan

 

Crynodeb

Nifer yr ysgolion wnaeth gymryd rhan eleni:

176

Tymheredd cyfartalog yr holl ysgolion:

10 °C

Glawiad cyfartalog yr holl ysgolion:

7 mm

Cyfanswm y data a gasglwyd eleni:

9750

Dangos Lleoliadau a Chanlyniadau Ysgolion

Twitter

Calendr o wythnosau pan fydd ysgolion yn casglu data tywydd

2022
31 Hyd – 4 Tachwedd 2022
7 Tach – 11 Tachwedd 2022
14 Tach – 18 Tachwedd 2022
21 Tach – 25 Tachwedd 2022
28 Tach – 2 Rhagfyr 2022
5 Rha – 9 Rhagfyr 2022
12 Rha – 16 Rhagfyr 2022
2023
9 Ion – 13 Ionawr 2023
16 Ion – 20 Ionawr 2023
23 Ion – 27 Ionawr 2023
30 Ion – 3 Chwefror 2023
6 Chwe – 10 Chwefror 2023
13 Chwe – 17 Chwefror 2023
20 Chwe – 24 Chwefror 2023
27 Chwe – 3 Mawrth 2023
6 Maw – 10 Mawrth 2023
13 Maw – 17 Mawrth 2023
20 Maw – 24 Mawrth 2023
27 Maw – 31 Mawrth 2023
3 Ebr – 7 Ebrill 2023
Scan & Edina Trust logo