Ymunwch â'r miloedd o wyddonwyr ifanc sy'n ymchwilio i'r hinsawdd gydag Amgueddfa Cymru.
Mae gwyddonwyr ifanc o bob cwr o'r DU yn defnyddio bylbiau cennin Pedr a crocws i astudio effeithiau newid hinsawdd. Mae'r astudiaeth yn gwella sgiliau gwyddoniaeth a rhifedd tu allan i'r dosbarth drwy gael disgyblion i blannu, arsylwi, a chadw cofnodion tywydd.
Bob blwyddyn mae 175 o ysgolion ar draws y DU yn cymryd rhan. Mae'r project yn cael ei gynnal yn Gymraeg a Saesneg, ac yn addas ar gyfer ysgolion mewn dinasoedd, trefi, a chefn gwlad.
Dechreuodd yr astudiaeth hir-dymor yng Nghymru yn 2005, cyn ehangu i'r Alban a Lloegr yn 2011, ac i Ogledd Iwerddon yn 2017. Bydd Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion yn dathlu ei ben-blwydd yn 20 oed yn ystod blwyddyn academaidd 2025-26!
Athro’r Ardd a’r Bwlb Bychan yw'r cymeriadau cartŵn sy'n arwain yr ymchwiliad. Maen nhw'n gwahodd plant i gymryd rhan, yn ateb cwestiynau'r disgyblion ac yn rhannu adnoddau a blogiau drwy gydol y project.
Sut mae’n gweithio:
- Rhaid i ysgolion gofrestru yn ystod tymor yr haf – ar gyfer dechrau yn yr hydref.
- Bydd y bylbiau yn cael eu plannu ar ddiwrnod penodol ym mis Hydref.
- Rhwng Tachwedd a diwedd Mawrth bydd y disgyblion yn cadw cofnodion tywydd bob dydd.
- Rhwng Ionawr a diwedd Mawrth bydd y disgyblion yn arsylwi ac yn cofnodi tyfiant a blaguro.
- Mae ysgolion sy'n cwblhau'r astudiaeth yn derbyn tystysgrifau Gwyddonwyr Gwych ac yn cael cyfle i ennill taith i amgueddfa neu ganolfan wyddoniaeth.
'Mae'n bleser cydweithio â Edina Trust, sy'n noddi'r astudiaeth ar draws y DU'

Dyma Beth Sydd Angen i Chi Wneud
1
Dewiswyd ysgolion ar gyfer 2023-24
2
Derbyn pecyn adnoddau yn gynnar ym mis Hydref
3
Plannwch eich bylbiau ym mis Hydref a chymerwch gofnodion tywydd o fis Tachwedd i fis Mawrth
4
Cofnodwch eich data tywydd a data blodau i'r wefan i ennill gwobrau
Crynodeb
Nifer yr ysgolion wnaeth gymryd rhan eleni
Tymheredd cyfartalog yr holl ysgolion
°C
Glawiad cyfartalog yr holl ysgolion
mm
Cyfanswm y data a gasglwyd eleni
Blog Blodau
1 Tachwedd 2023
19 Hydref 2023
Adnoddau Athrawon
Canlyniadau
Tudalennau gwaith
- Enwi rhannau o'r planhigyn cenhinen pedr (PDF)
- Fy Nghrocws (PDF)
- Fy Nghennin Pedr (PDF)
- Enwi rhannau o'r planhigyn crocws (PDF)
- Tystysgrif mabwysiadu (PDF)
- Labelu'r bylbiau (PDF)
- Gwnewch lyfryn origami bach eich hun! (Sut i wneud) (PDF)
- Enwi rhannau o'r blodyn crocws (PDF)
- Enwi rhannau o'r planhigyn crocws (PDF)
- Gwnewch lyfryn origami bach eich hun! (Fersiwn llenwi'r bylchau) (PDF)
- Adnodd i liwio a labelu crocws (PNG)
- Adnodd i liwio a labelu Cennin Pedr (PNG)
Adnoddau eraill
- Ymarfer gwastraffu ynni (PPT)
- Bygythiad Byd-eang! (PPT)
- Yr Argyfwng Ynni (PPT)
Cynllun tymor a siartiau wal
Calendr o Wythnosau pan Fydd Ysgolion yn Casglu Data Tywydd
2023
-
30 Hyd – 3 Tach
-
6 Tach – 10 Tach
-
13 Tach – 17 Tach
-
20 Tach – 24 Tach
-
27 Tach – 1 Rha
-
4 Rha – 8 Rha
-
11 Rha – 15 Rha
-
18 Rha – 22 Rha
2024
-
8 Ion – 12 Ion
-
15 Ion – 19 Ion
-
22 Ion – 26 Ion
-
29 Ion – 2 Chwe
-
5 Chwe – 9 Chwe
-
19 Chwe – 23 Chwe
-
26 Chwe – 1 Maw
-
4 Maw – 8 Maw
-
11 Maw – 15 Maw
-
18 Maw – 22 Maw
-
25 Maw – 29 Maw
