Ffoi o’u cynefin i fywyd newydd yng Nghymru
Petai rhaid i chi ffoi o’ch mamwlad i wlad estron, sut byddai hynny’n effeithio ar eich hunaniaeth? Sut mae ffoaduriaid yn addasu i gartre a diwylliant newydd? A beth sydd rhaid i ni yng Nghymru ddeall er mwyn eu cynnal trwy’r broses?
Mae prosiect ymchwil newydd o’r enw FFOADURIAID CYMRU: BYWYD WEDI TRAIS yn bwriadu ateb y cwestiynau hyn.
Mae Prifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Cymru yn cydweithio er mwyn cofnodi profiadau dwy gymuned o ffoaduriaid yng Nghymru. Bu Tamiliaid o Sri Lanka yn byw ac yn gweithio yma ers tair cenhedlaeth. Dim ond dechrau ymgartrefu yma mae ffoaduriaid o’r rhyfel yn Syria.
Mae eu hanes nhw bellach yn rhan o hanes Cymru. Ein bwriad yw dysgu o’u profiadau a sicrhau y bydd eu storïau ar gof a chadw ar gyfer y cenedlaethau a ddêl.