Cymryd Rhan

Mae’n bosib eich bod eisoes wedi dod ar draws ffoaduriaid o Syria neu Sri Lanka sy’n byw yn eich cymuned. Ydych chi’n eu hadnabod nhw’n dda? Os felly, tynnwch eu sylw at y prosiect hwn a’u cyfeirio at Taking Partneu Arabaidd fel sy’n briodol.

Os nad ydych yn eu hadnabod yn dda, ond eisiau deall mwy amdanyn nhw, yna cadwch lygad ar y wefan hon. Wrth glywed hanes bywyd rhai o’r ffoaduriaid hyn, cewch gyfle i ddeall eu profiadau yn well a gwybod beth sydd yn eu cymell i ddechrau bywyd newydd yng Nghymru.

Un o brif amcanion yr astudiaeth hon yw rhoi cyfle i’r ffoaduriaid gael clust pobl ddylanwadol. Mae’n bwysig bod y sawl sy’n penderfynu ar bolisïau yn gwrando ar eu storiau. Nod y project yw codi ymwybyddiaeth a chefnogi’r ffoaduriaid yn eu hymdrechion i berthyn a llwyddo.

Gweithgareddau eraill

Yn nes ymlaen yn y project, byddwn yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau nid yn unig ar gyfer ffoaduriaid ond y cyhoedd yn gyffredinol. Bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi ar y wefan hon ac ar wefan Amgueddfa Cymru.