Sri Lanka

Er taw eu hiaith Sinhaleg a’u crefydd Bwdhaidd yw prif elfennau hunaniaeth y Sinhaliaid, a’r iaith Tamil a’r grefydd Hindŵ sy’n diffinio’r Tamiliaid, mae gan y ddwy boblogaeth dipyn yn gyffredin o ran nodweddion cast traddodiadol, tylwyth, cwltiau crefyddol poblogaidd, arferion, ac yn y blaen. Ond mae eu siarterau chwedlonol a’u dealltwriaeth bleidiol o’u gorffennol bellach wedi creu rhaniad rhyngddynt.
S.J.Tambiah

Tua 500 CC
Dechreua pobl Indo-Ariaidd fudo i Sri Lanka o dir mawr India.
273 - 232 CC
Daw Bwdhaeth i Sri Lanka o ddwyrain India a datblyga’n rhan allweddol o hunaniaeth ac undod y Sinhaliaid.
200 CC - 1255
Ymosoda pobl Drafidaidd o dde India ar Sri Lanka ac ymgartrefu yno. Yn eu plith mae’r Tamiliaid, sy’n cyfanheddu gogledd a dwyrain yr ynys.
1300 - 1400
Sefydlir teyrnas Damilaidd yn Jaffna, yng ngogledd Sri Lanka. Dechreua estyn i’r de i diriogaethau Sinhalaidd. Dyma ddechrau traddodiad o wrthdaro rhwng y ddwy garfan – Sinhaliaid Bwdhaidd a Thamiliaid Hindŵaidd.
1505
Dyma’r Portiwgaliaid yn cyrraedd Sri Lanka. Er mwyn cadw pwerau India draw, mae brenhinoedd Sri Lanka yn falch iawn o’u cymorth. Erbyn 1619, ymddengys fod y Portiwgaliaid yn rheoli teyrnas Sinhala a hefyd teyrnas Jaffna. Daw cenhadon Catholig yn rhan sefydlog o’r gymdeithas a gwelir y mwyafrif o’r boneddigion yn troi’n Gatholigion.
1602
Gofynna brenin Sinhalaidd Kandy, unig deyrnas annibynnol Sri Lanka, i’r Iseldirwyr ei helpu i ymladd y Portiwgaliaid. Wedi sawl gwrthdaro, ym 1645 sefydlir ffiniau rhwng tiriogaeth y Portiwgaliaid a thiriogaeth Iseldiraidd yn Sri Lanka. Yr Iseldirwyr sy’n rheoli Sri Lanka hyd at 1796. Yn ystod y cyfnod hwn, daw cenhadon Protestanaidd, Calfinaidd i’r ynys.
1796
Dyma Brydain yn trechu’r Iseldirwyr a dechrau rheoli Sri Lanka o Madras yn India. Ar ôl gorchfygu teyrnas Kandy ym 1818, Prydain sy’n rheoli’r ynys gyfan. Y Prydeinwyr sy’n cyflwyno amaethyddiaeth gyfalafol y planhigfeydd i Sri Lanka. Saesneg yw’r iaith swyddogol.
1900 - 1948
Ceisia cymunedau Bwdhaidd a Hindŵaidd Sri Lanka wrthsefyll Cristnogaeth a rheolaeth drefedigaethol. Gwelir ymgais gan fudiad cenedlaethol byrhoedlog Cyngres Genedlaethol Ceylon i uno sefydliadau Sinhalaidd a Thamil.
1948
Daw Sri Lanka yn wlad annibynnol. I ddechrau, y Blaid Genedlaethol Unedig sy’n rheoli, yn cynrychioli pob grwp ethnig a lleiafrifol. Ond oherwydd anfodlodrwydd poblogaidd, mae cenedlaetholdeb Sinhalaidd yn tyfu o dan arweiniad S.W.R.D. Bandanaraike.
1956 - 1972
Dyma’r BGU yn colli’r etholiadau a daw Plaid Rhyddid Sri Lanka i rym o dan Bandanaraike. Pasiwyd deddfwriaeth yn datgan mai Sinhala yw’r unig iaith swyddogol a Bwdhaeth yw’r crefydd cenedlaethol. Wedi sawl llywodraeth gan genedlaetholwyr Sinhalaidd, llwyddant i ddod â sefydliadau addysg o dan reolaeth y wladwriaeth a chyfyngu ar gyfleoedd y lleiafrif Tamil. Dyma hau hadau mudiad gwleidyddol ymhlith y bobl Tamil am annibyniaeth.
1972
Daw Sri Lanka yn weriniaeth.
1983
Mae drwgdybiaeth rhwng y cymunedau Sinhala a Thamil yn arwain at derfysg a rhyfel cartre. Caiff grwpiau milwriaethus o ymwahanwyr eu ffurfio megis Teigrod Rhyddid Tamil Eelam - y Teigrod Tamil. Eu nod yw sefydlu mamwlad Tamil.
1983 - 2009
Amcangyfrifir bod nifer marwolaethau oherwydd y rhyfel cartre yn Sri Lanka rhwng 70,000 a 80,000. Dechreua Tamiliaid Sri Lanka fudo yn eu miliynau – rhai i India ac eraill i wledydd yn Ewrop ac America. Gosodir y Tamiliaid sydd wedi aros yn Sri Lanka mewn gwersyllfeydd ymhell o’u cartrefi.
2009
Gorchfygir y Tamiliaid milwriaethus a daw’r rhyfel i ben. Yn ôl amcangyfrifon, mae tua 887,000 o bobl Tamil erbyn hyn wedi ffoi i bob rhan o’r byd.
Sri Lankans in the UK
Cyn y Rhyfel Cartre yn yr 1980au, elît addysgedig o Sri Lanka oedd yn mudo i’r Deyrnas Unedig. Roeddent yn gymysgedd o bobl Sinhala a phobl Tamil.
O’r 1980au ymlaen, y Deyrnas Unedig oedd prif gyrchfan Tamiliaid yn dianc o Ryfel Cartre Sri Lanka. Erbyn 1991, pobl o Sri Lanka oedd y gymuned were the sixth biggest Asian community in the UK with 39,000 migrants. By the 2011 census, this had increased to 125,717.
1,325 of this number lived in Wales.