Y Project
Beth yw pwrpas y gwaith ymchwil hwn?
Mae rhyfel a gwrthdaro yn gwneud llawer o bobl yn ddigartref. Maent hefyd yn dioddef trais a thrawma dychrynllyd. Er mwyn diogelu eu hunain a’u teuluoedd, yr unig ddewis yn aml yw mudo a dechrau ar eu taith fel ffoaduriaid. Gall y profiadau trawmatig hyn effeithio ar eu hunaniaeth a’u teimlad o berthyn.
Hoffem ddeall yn well sut mae ffoaduriaid yn dygymod â dechrau o’r newydd a’r effaith ar eu hunaniaeth. Rydym am recordio eu hanesion a chofnodi yr anhawsterau sydd yn eu hwynebu. Y bwriad yw cofnodi dau grŵp o ffoaduriaid ar bwyntiau gwahanol yn y broses o ymgartrefu yng Nghymru. Daeth ton ar ôl ton o ffoaduriaid yma o Sri Lanka rhwng yr 1980au a 2010, pan ddaeth y rhyfel cartre yn Sri Lanka i ben. Bu pobl o Syria yn chwilio am loches yma ers dechrau’r rhyfel cartref yn 2011. Mae cynrychiolaeth dda o’r ddau grŵp yng Nghymru.
Mae eu hanes nhw bellach yn rhan o hanes Cymru. Mae angen gwrando ar eu profiadau a’u deall. Oherwydd hyn, bydd y recordiadau sain yn cael eu harchifo yn Amgueddfa Cymru. Fe fyddant yn rhan barhaol o’r casgliadau cenedlaethol. Gyda chaniatâd y siaradwyr, fe fyddant ar gael fel adnodd dysgu heddiw ac yn y dyfodol.
Un o amcanion yr astudiaeth yw sicrhau bod cymunedau o ffoaduriaid yn cael clust pobl ddylanwadol. Mae rhoi llais iddynt yn bwysig er mwyn llunio polisïau ystyriol ac addysgu pobl yn gyffredinol. Y bwriad yw codi ymwybyddiaeth a chynnal ffoaduriaid yn eu brwydrau beunyddiol i berthyn a llwyddo.
Beth fydd yn digwydd i ganlyniadau’r project?
Bydd y project yn cynhyrchu:
- Gwybodaeth ar y we am brofiadau ffoaduriaid, at ddefnydd ymchwilwyr, athrawon, gweithwyr yn y trydydd sector, a llunwyr polisi.
- Llyfrau ac erthyglau academaidd
- Archif hanes llafar barhaol o brofiadau’r cymunedau yng nghasgliadau archif sain Amgueddfa Cymru.
- Arddangosfa ar-lein ar wefan Casgliad y Werin Cymru
- Gweithiau creadigol i’w llwyfannu yn ystod Wythnos Ffoaduriaid 2022.
Pwy sy’n trefnu ac yn ariannu’r prosiect ymchwil hwn?
Trefnydd yr ymchwil yw’r Athro Radhika Mohanram, Ysgol Saesneg, Cyfathrefu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd, ar y cyd â staff Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Noddwyd yr ymchwil gan yr Arts and Humanities Research Council.