Ein tîm
Radhika Mohanram
Rôl: Prif Ymchwilydd
Rwy’n Athro yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd, yn dysgu Astudiaethau Ôl-drefedigaethol a Theori Feirniadol. Siaradwr Tamil o India ydw i ac rwyf wedi byw yng Nghymru ers 2000. Mae fy ymchwil diweddaraf yn ffocysu ar rhaniad India ym 1947. Rwyf hefyd wedi gweithio ar brosiect hanes llafar yn ymwneud â’r pwnc hwn, yn canolbwyntio ar dde Cymru. Mae gen i ddiddordeb mewn astudiaethau trawma a’r cof.
Chris Weedon
Rôl: Cyd-ymchwilydd
Athro emerita ym Mhrifysgol Caerdydd ydw i. Trwy gydol fy ngyrfa, rwyf wedi canolbwyntio ar gwestiynau yn ymwneud â theori diwylliannol a gwleidyddiaeth, hunaniaeth, rhywedd, hil ac ethnigrwydd. Rwyf wedi bod yn rhan o sawl prosiect hanes llafar ers 1990, yn gweithio gyda phobl o amrywiaeth o gymunedau lleiafrifol.
Beth Thomas
Rôl: Cyd-ymchwilydd
Cyn ymddeol, bûm yn gweithio yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru am dros ddeugain mlynedd fel hanesydd llafar, archifydd sain a Cheidwad Hanes ac Archeoleg. Rwyf wedi bod ar Fwrdd Ymddiriedolwyr y Gymdeithas Hanes Llafar ers 1990. Fel un o’u hyfforddwyr achredig, rwy’n dysgu pobl o bob cefndir sut i recordio hanes llafar. Rwy’n credu’n gryf y dylai pawb gael llais yn natblygiad amgueddfa genedlaethol a’r hanes sy’n cael ei chyflwyno ynddi.
Samuel Sequeira
Rôl: Cydymaith Ymchwil
Rwy’n Gydymaith Ymchwil yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd. Testun fy noethuriaeth oedd Mudwyr o Dde Asia yn Ne Cymru. Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys hanes llafar, astudiaethau cof a gwrthdaro hunaniaethau. Cyn dod i’r Deyrnas Unedig yn 2004 i ymchwilio, roeddwn yn gweithio fel gohebydd yn India am dros ddeng mlynedd. Fy ngwaith presennol yw recordio hanes llafar ffoaduriaid o Sri Lanka yn ne Cymru.
Angham Abdullah
Rôl: Cydymaith Ymchwil
Rwy’n Gydymaith Ymchwil yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd. Un o Irac ydw i yn wreiddiol. Fe symudais i’r Deyrnas Unedig yn 2009 i wneud fy noethuriaeth ym mhrifysgol Caer Efrog. Cyn symud i’r DU, roeddwn yn darlithio mewn astudiaethau llenyddol cymharol ac yn gyfieithydd Arabeg yn y Dwyrain Canol. Mae fy ymchwil yn ffocysu ar naratifau merched Iracaidd o ryfel, dadleoli ac alltudiaeth. Mae geni brofiad hir o waith gwirfoddol gyda ffoaduriaid yn y DU, fel cyfieithydd Arabeg a gweithiwr cymdeithasol. Fy ngwaith ar hyn o bryd yw recordio hanes llafar ffoaduriaid o Syria yng Nghymru.
Sioned Hughes
Rôl: Cyd-ymchwilydd
Rwy’n bennaeth ar Adran Hanes Cyhoeddus ac Archeoleg Amgueddfa Cymru. Fy ngwaith yw gosod cyfeiriad strategol yr adran, a sicrhau bod y casgliadau yn cael eu datblygu, eu hymchwilio a’u defnyddio mewn modd hygyrch a chreadigol er lles pobl Cymru. Dros y bum mlynedd ddiwethaf, rwyf wedi arwain sawl project i ddatblygu dulliau mwy cydweithredol a chynhwysol o ddehongli casgliadau’r amgueddfa. Mae fy ffocws ar hyn o bryd ar ddatblygu casgliadau sy’n annog newid cymdeithasol.
Elen Phillips
Rôl: Cyd-ymchwilydd
Rwy’n Brif Guradur Hanes Cyfoes a Chymunedol yn Amgueddfa Cymru ble rwyf wedi bod yn gweithio mewn sawl rôl guradurol ers 2005. Yn ddiweddar, bum yn arwain ar raglen o arddangosiadau wedi’u cyd-greu ar gyfer orielau newydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys amgueddfeydd ymgyrchol; methodolegau casglu cyfoes; a mentrau crefft cydweithredol yng Nghymru yn ystod Dirwasgiad y 1930au.