Taith gerdded drwy Gymru o'r cyfnod Celtaidd hyd heddiw yw Sain Ffagan – un o amgueddfeydd awyr agored mwyaf blaenllaw Ewrop ac atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru. Dysgwch sut oedd pobl yn byw a gweithio yng Nghymru yn y gorffennol drwy ymweld â'r adeiladau hanesyddol sydd wedi eu hail-adeiladu gan gynnwys cartrefi teuluol, fferm, ysgol, eglwys, siopau, a chastell hyd yn oed!
www.amgueddfa.cymru/sainffagan
Saif Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yng nghanol dinesig urddasol y brifddinas, yn gartref i’n casgliadau celf, hanes natur a daeareg cenedlaethol. O baentiadau Argraffiadol, i ddeinosoriaid anferthol a cherrig o'r gofod hyd yn oed, mae rhywbeth at ddant pawb!
Y Senedd ym Mae Caerdydd yw canolbwynt democratiaeth a datganoli Cymru.
www.senedd.cymru/ymweld-a-ni/ein-hystad/adeilad-nodedig/
Adeilad y Pierhead yw un o olygfeydd mwyaf cyfarwydd Caerdydd. Fe’i adeiladwyd ym 1897 fel pencadlys y Bute Dock Company, ac mae bellach yn rhan o ystâd Senedd Cymru. Enw answyddogol y cloc ar yr adeilad yw "Big Ben Bach" neu "Big Ben Cymru". Heddiw, mae'r Pierhead yn gyrchfan ymwelwyr, a lleoliad digwyddiadau a chynadledda unigryw i bobl Cymru.
www.croesocaerdydd.com/highlights/pierhead/
Canolfan gelfyddydol ym Mae Caerdydd yw Canolfan Mileniwm Cymru sydd yn llwyfannu perfformiadau opera, ballet, dawnsio cyfoes, theatr, comedi, a sioeau cerdd.
Mae’r Gadeirlan hynod yma yn ganolbwynt pererindod ac ysbrydolrwydd yn Esgobaeth Llandaf ac ar gyfer Dinas Caerdydd. Mae canolfan Gristnogol ar y safle ers oes Sant Teilo yn y chweched ganrif, ond mae’r adeilad presennol yn dyddio o gyfnod y Normaniaid, tua 1120. Dinistriwyd yr Eglwys Gadeiriol ym 1941 gan un o fomiau parasiwt yr Almaen.
Siapiwyd Tŷ Tredegar gan y gymuned leol, a saif yr adeilad, y gerddi a’r parcdir yn falch wrth galon treftadaeth Casnewydd. Adeiladwyd y plasty yng nghyfnod Siarl II yn yr 17eg ganrif ond bu'n gartref i'r teulu Morgan, Arglwyddi Tredegar, am bum canrif.
www.nationaltrust.org.uk/cy_gb/t-tredegar
Atyniad ymwelwyr yw Parc Treftadaeth y Rhondda sy'n cynnig cipolwg ar fywyd y gymuned lofaol oedd yn bodoli yn yr ardal tan yr 1980au. Gall ymwelwyr brofi bywyd y glöwyr ar daith drwy un o siafftau glo glofa Lewis Merthyr dan arweiniad cyn-lowyr. Mae Parc Treftadaeth y Rhondda yn Angorfa ar Lwybr Treftadaeth Ddiwydiannol Ewrop (ERIH).
Crochendy Nantgarw yw'r unig ffatri borslen o ddechrau'r 19eg ganrif sydd wedi goroesi yn y Deyrnas Unedig. Rhwng 1813-1814 a 1817-1820 roedd porslen gorau'r byd yn cael ei gynhyrchu yma yng Nghymru gan William Billingsley, un o baentwyr a gwneuthurwyr porslen gorau ei gyfnod.
www.nantgarwchinaworksmuseum.co.uk/cy/
Adeiladwyd siambr gladdu fegalithig Tinkinswood ym Mro Morgannwg, dafliad carreg o Gaerdydd, yn yr oes Neolithig tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl. Caiff ei hadnabod hefyd fel Castell Carreg, Llech-y-Filiast a Maes y Filiast. Mae’n orchest beirianyddol gynhanesyddol ryfeddol, a’r capfaen ar ei phen gyda’r mwyaf ym Mhrydain. Mae sawl chwedl yn ymwneud â’r safle – yn ôl y sôn bydd unrhyw un sy’n treulio'r nos yma cyn Calan Mai, ar Noswyl Ifan (23 Mehefin) neu Alban Arthan yn marw, mynd yn wallgo, neu dod yn fardd.
Mae Big Pit yn cynnig y profiad unigryw o fynd o dan y ddaear i ddysgu am gloddio am lo. Paratowch i fynd 90 medr (300 troedfedd) o dan ddaear i weld rhan o’r pwll glo gwreiddiol. Gallwch weld sut beth oedd bywyd i’r miloedd o ddynion oedd yn gweithio yn y pyllau. Mae ymwelwyr yn gwisgo’r un offer – helmed, lamp cap, gwregys, batri a ‘hunan achubwr’ – a ddefnyddiwyd gan y glowyr. Os nad ydych yn dymuno mynd o dan ddaear, mae digonedd i’w weld ar yr wyneb hefyd.
Lleolir Amgueddfa Pont-y-pŵl mewn hen stablau Sioraidd, ac mae’n gartref i gasgliad o arteffactau lleol gan gynnwys casgliad anhygoel o’r llestri Japanwaith a gynhyrchwyd yn y dref o ganol y ddeunawfed ganrif. Mwynhewch ddysgu mwy am Barc Pont-y-pŵl, bywyd domestig Fictoraidd, dodrefn gwledda Glantorfaen, eglwysi a chapeli, hanes masnachol, gwneud clociau, brwydr Rorke’s Drift a Thorfaen ddiwydiannol.
Lleolir yr amgueddfa ar lawr gwaelod Theatr y Metropole ar Stryd y Farchnad. Mae'n rhan hanfodol o unrhyw ymweliad ag Abertyleri, ac yn adnodd amhrisiadwy i bobl leol sydd am ddysgu rhagor a mwynhau a deall treftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol gyfoethog yr ardal.
www.abertilleryanddistrictmuseum.org.uk
Saif Amgueddfa Y Fenni ar dir ‘adfeilion’ hen gastell Normanaidd mewn porthdy a adeiladwyd gan Ardalydd Y Fenni. Mae'r arddangosiadau'n adrodd stori'r dref farchnad hanesyddol hon o gynhanes hyd at heddiw.
Gwledda a gwaed – bywyd mewn caer Rufeinig! Archwiliwch weddillion y pwll nofio awyr agored anferth, fyddai unwaith wedi dal mwy nag 80,000 galwyn o ddŵr. Camwch i’r ystafelloedd cyfyng lle byddai’r milwyr yn cysgu ac yn storio eu harfau – yr unig farics Rhufeinig sy'n dal i'w weld yn Ewrop – a cherddwch drwy'r porth gogleddol i'r amffitheatr Rhufeinig mwyaf cyflawn ym Mhrydain a dychmygwch sŵn 6,000 o bobl yn udo am waed.
Camwch nôl mewn amser yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a phrofi bywyd ar gyrion pellaf Ymerodrath Rhufain. Cymru oedd ffin bellaf yr Ymderodraeth ac yn AD 75, adeiladodd y Rhufeiniaid gaer yng Nghaerllion fyddai'n gwarchod y rhanbarth am dros 200 mlynedd. Dysgwch sut y concrodd y Rhufeiniaid y byd, a gweld eu heffaith ar ein bywydau hyd heddiw. Gwelwch arddangosfeydd ac arteffactau sy'n dangos sut oedd y Rhufeiniaid yn byw, ymladd ac addoli, a mwynhewch seiniau ac arogleuon yr Ardd Rufeinig hardd.
Mae Pont Gludo Casnewydd, sy’n croesi Afon Wysg yng nghanol y ddinas, yn un o 10 pont o’r fath sy'n dal mewn defnydd dros y byd. Yn ogystal â bod yn gyswllt trafnidiaeth byw, mae'r bont hefyd yn atyniad twristiaid a gall ymwelwyr dalu i ddringo'r tyrrau a cherdded ar draws y dec uchaf.
www.newport.gov.uk/heritage/cy/Homepage.aspx
Yn 2002 dadorchuddiwyd llong fasnach o’r bymthegfed ganrif yng nghanol Casnewydd. Heddiw, mae'r llong yn dal mewn darnau wrth i'r prennau gael eu diogelu, ond pan fydd y broses hon wedi ei chwblhau, caiff ei hail-greu mewn gofod arddangos parhaol. Er mwyn dysgu rhagor am y llong gallwch ymweld â'r Ganolfan ar un o'n diwrnodau agored rheolaidd.
Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd yn adrodd hanes y ddinas o'r cyfnod cynhanesyddol hyd heddiw, ynghyd ag arddangosfeydd dros-dro sy’n cynnig rhywbeth newydd bob tro!
Fferm ger Cwmbran yw Amgueddfa a Maenor Llanyrafon sy’n cynnwys arddangosiadau gwyddoniaeth a thechnoleg a hanes cymdeithasol.
Fila Sioraidd urddasol, wedi'i leoli yn nyffryn coediog Aeron, arhosodd Llanerchaeron yn rhyfeddol o ddigyfnewid am dros 200 mlynedd. Mae'r ystâd yn cynnwys fferm, gerddi muriog a llyn ac yn enghraifft brin o fonedd Cymreig hunangynhaliol y 18fed ganrif. Y fila, a gynlluniwyd yn yr 1790au, yw'r enghraifft fwyaf cyflawn o waith cynnar John Nash.
Amgueddfa Abertawe yw’r hynaf yng Nghymru, ac mae'n drysorfa o hanes cyffredin ac anghyffredin Abertawe ddoe a heddiw. Lleolir yr amgueddfa mewn dau adeilad – yr Amgueddfa wreiddiol ar Heol Ystumllwynarth a'r sied dramiau ar Sgwâr Dylan Thomas yn y Marina.
www.swanseamuseum.co.uk/?lang=cy
Agorwyd Canolfan Dylan Thomas ym 1995 gan gyn-arlywydd yr UDA, Jimmy Carter, ac mae bellach yn gartref llenyddol a diwylliannol dinas a sir Abertawe. Mae'r arddangosfa barhaol wedi ei neilltuo i un o feirdd mwyaf dylanwadol Cymru, Dylan Thomas, ac ar yr un pryd mae’n cynnig llwyfan ar gyfer sgwennwyr newydd a sefydledig. Mae'r ganolfan yn rhoi llwyfan i raglen lenyddol a chelfyddydol y ddinas, gyda chalendr o ddigwyddiadau prysur a ffyniannus.
Casgliad mwyaf Cymru o henebion Eifftaidd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’r Ganolfan Eifftaidd yn cynnig rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau, sgyrsiau, a gweithgareddau ar gyfer pob oed.
Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn defnyddio technoleg ryngweithiol i ddod â hanes 300 mlynedd a mwy o ddiwydiant ac arloesi yng Nghymru yn fyw o flaen eich llygaid. Mewn hen warws restredig ar y glannau wedi’i chysylltu ag adeilad newydd, cyfoes o lechi a gwydr cewch weld y cerbydau, y deunyddiau a'r rhwydweithiau, a'r 'pethau mawr' a gyfrannodd gymaint at hanes diwydiannol ein cenedl. Byddwch yn ail-fyw hanes mewn cyfuniad cyffrous o’r hen a’r newydd yng nghanol datblygiadau diweddaraf ardal forwrol y ddinas.
Yng nghalon Parc Gwledig Padarn wrth droed Yr Wyddfa, mae Amgueddfa Lechi Cymru yn dod â hanes y diwydiant llechi yng Nghymru yn fyw. Ewch i weld y gweithdai peirianneg gwreiddiol gan gynnwys yr olwyn ddŵr enfawr, camwch i dai'r chwarelwyr a gwyliwch ein crefftwyr yn hollti'r llechi yn ein harddangosiadau dyddiol.
Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru: www.llechi.cymru
Portmeirion yw'r pentref glan-môr twristiaid adnabyddus a gynlluniwyd yn yr arddull Eidalaidd rhwng 1925 ac 1975 gan y pensaer o Gymru, Syr Clough Williams - Ellis. Dyma fu lleoliad sawl ffilm a drama, gan gynnwys y rhaglen deledu o'r 1960au The Prisoner. Ymgollwch yng ngolygfeydd hudol y pentref a mwynhau’r gerddi prydferth wrth grwydro i lawr at lan y môr.
Amgueddfa ac oriel gelf yw Storiel sy'n gartref i gasgliad lleol unigryw a rhaglen o arddangosfeydd newidiol.
Yr Ysgwrn yw cartref teuluol y bardd Hedd Wyn ac mae'n adlewyrchu cyfnod o hanes cymdeithasol, diwylliannol ac amaethyddol ar droad yr 20fed ganrif. Mae bywyd a marwolaeth Hedd Wyn yn gynrychioladol o genhedlaeth gyfan o ddynion ifanc o Gymru, Prydain ac Ewrop, a roddodd eu bwydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r lleoliad heddychlon ynghanol tirlun mawreddog a hardd yn hynnig cyfle perffaith i fyfyrio.
Mae Amgueddfa Lloyd George ym Mhenrhyn Llŷn yn adrodd hanes y bachgen o bentref bach Llanystumdwy ddaeth yn Brif Weinidog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn ddiwygiwr a newidiodd ein bywydau ni gyd drwy gyflwyno diwygiadau cymdeithasol sylfaenol fel Yswiriant Gwladol a Phensiwn Gwladol. Ewch i’r bwthyn lle magwyd Lloyd George, wedi ei adfer fel y byddai pan oedd yno’n blentyn rhwng 1864-1880.
Cartref plentyndod brenhines ein llên, Kate Roberts, yw Cae’r Gors. Llywiwyd ei dychymyg gan ei magwraeth yn y tyddyn chwarelwr cyffredin ar lechweddau diwydiannol unigryw Dyffryn Nantlle ger Caernarfon. Arhosodd ei magwraeth gyda hi ymhell wedi iddi adael yn 18 oed, ac mae ei llyfrau, ei chlocsiau a’i chlogyn yno yn atgof o’r cyfnod rhyfeddol hwn yn hanes diwydiannol Cymru.
www.cadw.llyw.cymru/ymweld/lleoedd-i-ymweld/caer-gors
Mae Ynys Llanddwyn yn hafan hudolus, a’i thwyni tonnog, ei chreigiau miniog a’i hadeiladau hanesyddol yn ddihangfa ramantus berffaith. Adeiladwyd y capel presennol yn yr 16eg ganrif ar hen safle capel gwreiddiol Dwynwen, santes cariadon Cymru, a gellir gweld yr adfeilion hynny gerllaw.
www.naturalresources.wales/days-out/places-to-visit/north-west-wales/newborough/?lang=cy
Un o olygfeydd mwyaf godidog Ynys Môn yw creigiau ynys Lawd ar Ynys Gybi, pwynt mwyaf gorllewinol Môn rhyw dair milltir i’r Gorllewin o Gaergybi. Adeiladwyd y goleudy ym 1809 ar waelod clogwyn serth mae’n rhaid disgyn dros 400 gris i’w cyrraedd. Mae’r clogwyni yn warchodfa wych i adar gydag guillemots, razorbills a’r pâl yn bridio ar y clogwyni eiconig.
www.rspb.org.uk/reserves-and-events/reserves-a-z/south-stack-cliffs
Mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte yn cludo Camlas Llangollen ar draws dyffryn Afon Dyfrdwy ac yn Safle Trefatadaeth y Byd. Beth am gerdded ar ei hyd, neu godi’ch traed a gadael i’r cychod hir wneud y gwaith?
www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk
Daw enw Treffynnon o brif atyniad y dref – ffynnon sanctaidd fydenwog Santes Gwenffrewi, un o Saith Rhyfeddod Cymru. Mae’r Ffynnon yn adeilad rhestredig Gradd I, a honnir taw hon yw cyrchfan bererinion hynaf Prydain a’i bod wedi croesawu Pererinion ac ymwelwyr ers 1300 o flynyddoedd.
Lleolir Erddig ar darren uwchlaw afon droellog Clywedog, filltir i’r de o Wrecsam. Saif y plasty gwledig a adeiladwyd yn ystod y 17eg a’r 18fed ganrif mewn ystâd 1,900 erw, sy’n cynnwys parc pleser wed’i dirlunio a gwrthgloddiau castell mwnt a beili Normanaidd. Disgrifiwyd Erddig fel y plasty gorau ym Mhrydain am gyfleu darlun cyflawn o fywyd ei drigolion, yn foneddigion a staff. Mae’r casgliad, ynghyd ag ystafelloedd y gweision, golchdy go iawn, becws, melin lifio ac efail yn rhoi cip ar fywyd gweision a morynion rhwng y 18fed a’r 20fed ganrif. Mae’r ystafelloedd gorau yn cynnwys dodrefn, tecstiliau a phapur wal cain, ac mae’r ardd furiog sydd wedi ei hadfer yn llawn yn un o’r gerddi pwysicaf sydd wedi goroesi o Brydain y 18fed ganrif.