Dewch I Ddarganfod Stori Cymru

English

Treftadaeth Ddiwydiannol

DE DDWYRAIN CYMRU

BAE CAERDYDD

Mae cryn dipyn o hanes Bae Caerdydd yn perthyn i’r fasnach haearn a glo, oedd yn gatalyddion ar gyfer adeiladu nifer o ddociau yn ystod y 1830au. Datblygodd y dociau’n gymuned gosmopolitaidd, gyda morwyr o bob cwr o’r byd yn ymgartrefu yng Nghaerdydd. Amcangyfrifir bod trigolion o leiaf 50 cenedl wahanol wedi ymgartrefu yma, a galwyd yr ardal yn Tiger Bay. Heddiw, mae Bae Caerdydd yn gartref i nifer o atyniadau fel Techniquest sy’n ddelfrydol i’r teulu cyfan; Crefft yn y Bae; Senedd Cymru; Canolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown; Canolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd; Canolfan Mileniwm Cymru, sy’n ganolfan gelfyddydau ryngwladol trawiadol; ynghyd ag adeilad eiconig y Pier Head.

www.cardiffbay.co.uk

AMGUEDDFA WLÂN CYMRU

Bydd stori gwlân Cymru yn eich swyno yn yr Amgueddfa hon. Ar un adeg, gwlân oedd diwydiant pwysicaf a mwyaf amlwg Cymru. Roedd pentref pert Dre-fach Felindre, ynghanol harddwch Dyffryn Teifi, yn ganolfan lewyrchus i’r diwydiant gwlân ac yn cael ei alw’n ‘Huddersfield Cymru’. Mae hen ffatri wlân y Cambrian yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i’w hadrodd. Yno, gwnaed crysau a siolau, blancedi a charthenni, a sanau gwlân i ddynion a merched, a oedd yn cael eu gwerthu yn yr ardaloedd cyfagos - ac ym mhedwar ban byd. Dilynwch y broses o ddafad i ddefnydd ac ymwelwch ag adeiladau rhestredig y ffatri a adnewyddwyd mewn modd sensitif i arddangos y Peirianwaith Hanesyddol. 

www.amgueddfa.cymru/gwlan

TAITH PYLLAU GLO CYMRU

Mae Taith Pyllau Glo Cymru yn atyniad i dwristiaid ac yn rhan o Lwybr Treftadaeth Ddiwydiannol Ewrop. Mae’n cynnig cipolwg ar fywyd y gymuned lofaol a fodolai yn yr ardal tan y 1980au. Gall teuluoedd brofi bywyd y glowyr ar daith dywys drwy un o siafftiau pwll glo Lewis Merthyr dan arweiniad cyn-löwr.

www.rctcbc.gov.uk/CY/Tourism/RhonddaHeritagePark/Home.aspx/

CAMLAS SIR FYNWY AC ABERHONDDU

Anadlwch yr awyr iach ger Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu. Mae’r gamlas yn rhedeg drwy gefn gwlad y de-ddwyrain ac mae’n un o’n dyfrffyrdd harddaf a mwyaf heddychlon sy’n dilyn llwybr afon Wysg drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

www.canalrivertrust.org.uk/cymru

PONT GLUDO CASNEWYDD

Mae Pont Gludo Casnewydd yn croesi’r afon Wysg ger yr aber, ac mae’n un o lai na 10 pont gludo sy’n parhau i gael eu defnyddio ledled y byd. Yn ogystal â bod yn ffordd o deithio, mae’r bont hefyd ar agor fel atyniad i dwristiaid – gall ymwelwyr ddringo’r tyrau a cherdded ar draws y dec uchaf am dâl bach.

www.newport.gov.uk/heritage/cy

CANOLFAN TREFTADAETH Y BYD BLAENAFON

Wedi’i leoli ar gyrion y cymoedd, yn rhannol o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae tirwedd ddiwydiannol Blaenafon yn dyst i ymdrech arwrol glowyr a gweithwyr haearn y gorffennol. Yn ymestyn dros 33 cilomedr sgwâr, mae’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae’r holl atyniadau o fewn pellter cerdded.

CANOLFAN Y PEDWAR LOC AR DDEG

Mae Canolfan y Pedwar Loc ar Ddeg wedi’i lleoli ar frig cyfres unigryw o 14 loc, sef Lociau Cefn, un o ryfeddodau peirianyddol y Chwyldro Diwydiannol. Mae’n cynnig canolbwynt rhagorol ar gyfer mynd am dro ar hyd llwybr camlas Sir Fynwy a Brycheiniog, sydd hefyd yn rhan o’r llwybr beicio cenedlaethol.

www.mbact.org.uk

MERTHYR TUDFUL A CHASTELL CYFARTHFA

Yn sgil y Chwyldro Diwydiannol, daeth Merthyr Tudful yn ganolfan cynhyrchu haearn. Erbyn dechrau’r 1800au hon oedd tref fwyaf poblog Cymru gyda phobl leol ac ymfudwyr yn dod o bob cwr o’r byd i weithio yn y gwaith haearn oedd yn eiddo i deuluoedd Guest a Crawshay. Adeiladwyd Castell Cyfarthfa gan William Crawshay II ym 1824, a dyma oedd cartref y teulu, yn edrych dros y dyffryn a’r gwaith haearn. Bellach mae’n amgueddfa lle y gall ymwelwyr ddysgu mwy am hanes y dref, gan gynnwys hanes locomotif stêm cyntaf y byd a adeiladwyd gan Richard Trevithick ym 1804.

www.visitmerthyr.co.uk/cy/

DE ORLLEWIN CYMRU

AMGUEDDFA GENEDLAETHOL Y GLANNAU

Yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, cewch brofi golygfeydd a synau dros 300 mlynedd o ddiwydiant ac arloesedd yng Nghymru, gan ddefnyddio technoleg ryngweithiol arloesol sy’n rhoi’r gorffennol ar flaenau eich bysedd. Mwynhewch yr hanes gyda chymysgedd syfrdanol o’r hen a’r newydd yn ardal forwrol gyffrous y ddinas.

www.amgueddfa.cymru/abertawe/

GWAITH COPR HAFOD MORFA – COPPEROPOLIS

Ar un adeg, roedd Gwaith Copr Hafod Morfa wrth galon y Chwyldro Diwydiannol. Adeiladwyd y gweithiau yn sgil y galw am gopr yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, a gyrrwyd y gwaith yn ei flaen gan wyddoniaeth. Câi’r gweithfeydd eu bwydo gan Gamlas Abertawe ar un ochr ac Afon Tawe ar y llall – roedd y naill yn darparu glo rhad o byllau Cwm Tawe Uchaf, tra bod y llall yn dod â mwyn copr o Gernyw, Ynys Môn a thu hwnt er mwyn bwydo ffwrneisi’r gwaith. Daeth Abertawe yn borthladd diwydiannol o bwysigrwydd byd-eang, a chafodd yr enw ‘Copperopolis’ yn sgil hyn.

www.hafodmorfacopperworks.com/cy/

Y COPPER JACK – CWCH CYMUNEDOL ABERTAWE

Mae’r Copper Jack yn cynnal teithiau rhwng Marina Abertawe a Stadiwm Liberty. Taith o awr a hanner yw hi, sy’n eich tywys i fyny afon Tawe, a heibio rhai o adfeilion diwydiannol Abertawe, fel gwaith copr y Graig Wen a’r Hafod.

www.scbt.org.uk/copper-jack/

RHEILFFORDD GWILI

Rheilffordd dreftadaeth Gymreig yw hon, yn dechrau o Gyffordd Abergwili (ger Caerfyrddin) ac yn teithio ar hyd pedair milltir a hanner o hen lein Caerfyrddin i Aberystwyth.

www.gwili-railway.co.uk

RHEILFFORDD DYFFRYN RHEIDOL (ABERYSTWYTH)

Mae Rheilffordd Cwm Rheidol yng nghanolbarth Cymru yn rhoi blas o ysbryd anturus dechrau’r 20fed ganrif. Ers agor ym 1902, mae miliynau wedi mwynhau golygfeydd arbennig y daith hon drwy goetiroedd hynafol i Bontarfynach, cartref y rhaeadrau enwog, sy’n swatio ym mynyddoedd godidog Elenydd. Gwrandewch ar sŵn yr injan stêm bwerus wrth iddi weithio’n galed i ddringo 700 troedfedd (200m) dros 12 milltir o Aberystwyth i Bontarfynach, a chadwch lygad am adar ysglyfaethus fel y barcud coch a’r bwncath yn hofran yn uchel uwch y dyffryn.

www.rheidolrailway.co.uk

Un o drenau bach mawr Cymru: www.greatlittletrainsofwales.co.uk

GOGLEDD CYMRU

AMGUEDDFA LECHI CYMRU

Wedi’i leoli yng nghanol Parc Gwledig Padarn wrth droed yr Wyddfa, mae Amgueddfa Lechi Cymru yn amgueddfa fyw sy’n adrodd hanes y diwydiant llechi yng Nghymru. Ymwelwch â gweithdai gwreiddiol y chwarel sy’n cynnwys olwyn ddŵr enfawr; crwydrwch drwy dai’r chwarelwyr; a gwyliwch ein crefftwyr yn hollti llechi’n gelfydd.

www.amgueddfa.cymru/llechi

Rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru - www.llechi.cymru

YSBYTY CHWAREL DINORWIG

Adeiladwyd Ysbyty Chwarel Dinorwig, sydd dafliad carreg o Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, ym 1860. Roedd yn cael ei gynnal, mwy na heb, gan gyfraniadau ariannol y chwarelwyr eu hunain. Y syniad oedd y byddai cael ysbyty yn agos i’w gwaith yn caniatáu iddynt ddychwelyd i’r gwaith cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt gael triniaeth. Roedd yn un o’r adeiladau cyntaf yn yr ardal i gael dŵr poeth ac oer a thrydan, ac roedd yn gartref i un o beiriannau pelydr-x cyntaf Gogledd Cymru.

www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Residents/Leisure-parks-and-events/Parks-and-green-spaces/Padarn-Country-Park

Rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru: www.llechi.cymru

RHEILFFORDD LLYN LLANBERIS

Mwynhewch daith 5 milltir mewn trên stêm ar hyd Llyn Padarn yng nghanol Eryri. Mae’r daith yn mynd â chi heibio hen Gastell Dolbadarn ac olion y chwareli llechi. O Lanberis aiff y trên trwy Barc Gwledig Padarn i Benllyn, ar hyd hen reilffordd y chwarel, gan gynnig golygfeydd gwych o fynydd uchaf Cymru, yr Wyddfa.

www.lake-railway.co.uk

Un o drenau bach Cymru: www.greatlittletrainsofwales.co.uk

Rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru: www.llechi.cymru

NANT GWRTHEYRN

Mae Nant Gwrtheyrn yn gartref i Ganolfan Iaith a Threftadaeth. Dyma lecyn hudolus mewn hen bentref chwarel ar arfordir gogleddol Llŷn. Mae’r ganolfan yn arbenigo mewn cyrsiau i oedolion sydd eisiau dysgu Cymraeg. Mae bryngaerau’r Nant, creithiau’r dirwedd ac adfeilion strwythurau’r chwareli, yn tystio i’r diwydiant fu yma.

www.nantgwrtheyrn.org

MWYNGLAWDD COPR SYGUN

Dyma antur danddaearol gyffrous mewn hen fwynglawdd copr ger Beddgelert. Mae’r gwaith wedi cau ers dros ganrif, ond cafodd ei adnewyddu a’i agor fel atyniad twristaidd ym 1986. Cewch grwydro ar eich liwt eich hun drwy dwneli gwyntog sy’n llawn stalactidau a stalagmidau gwych!

www.syguncoppermine.co.uk

RHEILFFORDD FFESTINIOG

Mae taith ar Reilffordd Ffestiniog yn rhoi teimlad o ‘hanes symudol’ go iawn! Mae’r rheilffordd yn rhedeg am 13.5 milltir o Borthmadog i dref chwarel hanesyddol Blaenau Ffestiniog. Adeiladwyd y trac rhwng 1833 a 1836 (gyda’r rhan olaf a Thwnnel Moelwyn ger Tanygrisiau yn cael eu cwblhau ym 1842), ac mae’n dringo ac yn troelli ei ffordd o lefel y môr i uchder o 700 troedfedd, gan gynnig golygfeydd ysblennydd o Eryri.

www.festrail.co.uk

Un o drenau bach arbennig Cymru: www.greatlittletrainsofwales.co.uk

Rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru: www.llechi.cymru

FFWRNAIS DYFI

Wedi’i hadeiladu tua 1755, mae’r ffwrnais chwyth siarcol hon, a gafodd ei defnyddio i fwyndoddi mwyn haearn, yn un o’r enghreifftiau gorau o’i bath ym Mhrydain. Dim ond tua 50 mlynedd o fywyd gafodd y ffwrnais cyn iddi gael ei gadael ond mae’r olwyn ddŵr sydd yno’n awr yn dod o gyfnod pan gafodd yr adeilad ail wynt fel melin lifio.

www.cadw.llyw.cymru/ymweld/lleoedd-i-ymweld/ffwrnais-dyfi

TEYRNAS GOPR AMLWCH

Ar un adeg Mynydd Parys ger Amlwch oedd mwynglawdd copr mwyaf y byd, a daeth y dref i gael ei hadnabod fel “y deyrnas gopr”. Yn harbwr Amlwch,  yng Nghanolfan y Deyrnas Copr,  cewch ddysgu am waith y ‘Copper Lady’, y cloddiwr, y mwyndoddwr a llawer mwy. Wedyn ewch am dro i fyny llwybrau lliwgar a garw Mynydd Parys.

www.copperkingdom.co.uk/#Cymraeg