Dewch I Ddarganfod Stori Cymru

English

Celf, crefft a chreadigrwydd

DE DDWYRAIN CYMRU

AMGUEDDFA GENEDLAETHOL CAERDYDD

Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, cewch weld paentiadau gwych, darluniau, cerfluniau, arian a cherameg o Gymru a’r byd, gan gynnwys un o gasgliadau gorau Ewrop o gelf argraffiadol. O’r hen feistri i gelf gyfoes, rydych chi’n siŵr o ddod o hyd i rywbeth i’ch ysbrydoli.

www.amgueddfa.cymru/caerdydd

CASTELL CAERDYDD

Castell Caerdydd yw un o brif atyniadau treftadaeth Cymru ac mae’n safle o arwyddocâd rhyngwladol. Wedi’i leoli yng nghanol y brifddinas, o fewn parcdiroedd hardd, mae gan y Castell bron i 2,000 o flynyddoedd o hanes. Ewch ar daith o amgylch fflatiau’r 19eg ganrif i ddarganfod ffantasi neo-Gothig, a grëwyd gan y pensaer celf William Burges gyda chyfoeth Trydydd Ardalydd Bute.

www.castell-caerdydd.com

CANOLFAN GELFYDDYDAU CHAPTER

Mae Canolfan Gelfyddydau Chapter yn lleoliad bywiog yn ardal Treganna, Caerdydd, sy’n cynnig celf gyfoes yn ei orielau, perfformiadau byw, sinema, bar a chaffi prysur.

www.chapter.org

FFOTOGALLERY

Ffotogallery yw asiantaeth ffotograffiaeth genedlaethol Cymru gydag arddangosfeydd a digwyddiadau yn yr oriel a phrojectau mewn mannau eraill.

www.ffotogallery.org

CASTELL COCH

Mae Castell Coch yn un o hoff adeiladau pobl Cymru - yn codi’n odidog o goedwig hynafol Fforest Fawr fel darlun o stori tylwyth teg, gyda’i dyrrau mawr siap côn eiconig yn awgrym hudolus o’r ysblander oddi mewn. Gyda’i holl addurniadau a dodrefn crand, mae’r castell hwn yn gampwaith heb os.

www.cadw.gov.wales

AMGUEDDFA AC ORIEL GELF CASNEWYDD

Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd yn arddangos hanes Casnewydd o’r cyfnod cynhanesyddol i’r 20fed ganrif ac mae’r arddangosfeydd dros dro yno bob amser yn cynnig rhywbeth newydd i’w archwilio!

www.newport.gov.uk

ORIEL 39

Yn ardal y Rhath, Caerdydd mae Oriel sy’n cael ei rhedeg gan artistiaid i arddangos a hyrwyddo’r celfyddydau gweledol cyfoes.

www.g39.org

Abertawe a’r de-orllewin

AMGUEDDFA ABERATWE

Amgueddfa Abertawe yw’r amgueddfa hynaf yng Nghymru ac mae’n drysorfa o hanes Abertawe. Mae’r casgliadau’n cynnwys pob math o wrthrychau, o fymi Eifftaidd i gegin Gymreig, a arddangosir mewn chwe oriel. Mae llawer o arddangosfeydd dros dro sy’n newid bob blwyddyn ac mae’r Amgueddfa yn rhan o Art UK – menter ar y cyd rhwng y BBC a sefydliadau, casgliadau ac amgueddfeydd eraill o bob rhan o’r DU.

www.swanseamuseum.co.uk

ORIEL GELF GLYN VIVIAN

Sefydlwyd Oriel Gelf Glyn Vivian ym 1911 ac mae’n oriel Edwardaidd hardd sy’n cynnig ystod eang o wrthrychau; o greiriau a chelf a roddwyd yn wreiddiol gan Richard Glynn Vivian (1835–1910), i gelf yr 21ain ganrif. Ym 1854, etifeddodd Richard Glynn Vivian ei gyfran yng ngweithiau copr enwog Abertawe, oedd yn berchen i’w deulu.

www.glynvivian.co.uk

ORIEL MISSION

Mae Oriel Mission yn Abertawe yn oriel fach sy’n llawn trysorau hyfryd a gwaith celf trawiadol, ac yn lleoliad arbennig i wneuthurwyr a dylunwyr. Mae’n arddangos gwaith crefftwyr Cymreig a Phrydeinig, ac yn gwerthu celf fforddiadwy, gemwaith, ategolion, nwyddau i’r cartref, llyfrau ac anrhegion.

www.missiongallery.co.uk

ORIEL CWM CYNON

Mae gan Amgueddfa ac Oriel Cwm Cynon gasgliad heb ei ail sy’n adrodd hanes Cwm Cynon o’r cyfnod cynhanesyddol hyd heddiw. Mae dwy oriel hefyd sy’n cynnal arddangosfeydd amrywiol, yn amrywio o waith artistiaid lleol i arddangosfeydd sy’n trafod materion cyfoes. Mae siop wych hefyd yn gwerthu gwaith celf a chynnyrch lleol, a chaffi gydag amrywiaeth o brydau blasus.

www.cynonvalleymuseum.wales

ORIEL A CHANOLFAN YMWELWYR ORIEL Y PARC

Draw yn Nhyddewi mae Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc. Partneriaeth yw hon rhwng Amgueddfa Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ble mae arddangosfeydd o’r casgliadau cenedlaethol yn cyfuno â gwasanaethau i ymwelwyr er mwyn dathlu’r dirwedd, gyda gwaith Graham Sutherland yn chwarae rhan flaenllaw.

www.pembrokeshirecoast.wales/oriel-y-parc

Gogledd Cymru

CASTELL PENRHYN

Mae cyfoeth o weithiau celf wedi’u lleoli yng Nghastell Penrhyn, Bangor gan gynnwys Catrina Hooghsaet gan Rembrandt a Chwarel Lechi’r Penrhyn gan Henry Hawkins.

www.nationaltrust.org.uk/penrhyn-castle

STORIEL

Tra byddwch ym Mangor, ewch ar daith i Storiel – amgueddfa ac oriel gelf sy’n cynnwys casgliad lleol unigryw a rhaglen newidiol o arddangosfeydd.

www.storiel.cymru

PLAS NEWYDD

Ym Mhlas Newydd ar Ynys Môn, cewch ryfeddu at furlun ysblennydd Rex Whistler – cynfas enfawr sy’n adrodd hanes cariad merch y Marcwis a gweithiwr lleol. Mae lleoliad dychmygol y paentiad o fynyddoedd, harbyrau, trefi a phobl yn rhoi cipolwg ar oes sydd wedi hen ddarfod.

www.nationaltrust.org.uk/plas-newydd-country-house-and-gardens

ORIEL MÔN

Mae Oriel Môn yn Llangefni yn amgueddfa a chanolfan gelfyddydau sy’n rhoi cyflwyniad i hanes a diwylliant yr ynys. Mae casgliad parhaol yr oriel yn cynnwys gweithiau gan amrywiaeth o artistiaid Cymreig poblogaidd gan gynnwys Charles F. Tunnicliffe a Syr Kyffin Williams.

www.orielmon.org

ORIEL FFIN Y PARC

Os fyddwch chi yn ardal Llanrwst, Dyffryn Conwy, ewch i oriel hardd Ffin y Parc – oriel fodern a sefydlwyd yn 2010, ac sydd wedi tyfu’n gyflym i fod yn un o orielau celf mwyaf llwyddiannus Cymru. Mae’r artistiaid yn amrywio yn eu harddulliau a’u pynciau, ond maent yn rhannu gwreiddiau a chysylltiadau Cymreig cryf ac mae’r safle’n cynnal deuddeg arddangosfa y flwyddyn.

www.welshart.net

ACADEMI FRENHINOL CAMBRIA, CONWY

Mae Academi Frenhinol Cambria, Conwy yn sefydliad unigryw yng Nghymru – elusen annibynnol sy’n cefnogi celf ac artistiaid o Gymru, lle mae celf yn cael ei hannog, ei gwneud, ei harddangos a’i thrafod. Mae gwaith yn cael ei arddangos a’i werthu yn yr Oriel, lle caiff artistiaid newydd o safon eu hyrwyddo. Mae’r Academi hefyd yn cynnal arddangosfeydd hanesyddol ac yn lleoliad bywiog ar gyfer addysg, grwpiau a dosbarthiadau.

www.rcaconwy.org

PLAS GLYN Y WEDDW

Adeiladwyd Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog ym 1857 a sefydlwyd oriel gelf yno ym 1896. Heddiw mae’r oriel yn cynnal arddangosfeydd gan artistiaid lleol – cymerwch eich amser i grwydro drwy’r tŷ hyfryd yn hamddenol.

www.oriel.org.uk