Dewch I Ddarganfod Stori Cymru

English

Bwyd a Diod

De-ddwyrain Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Ymlaciwch ym Mwyty Oriel ar lawr gwaelod yr Amgueddfa, sy’n gweini cinio, byrbrydau, cacennau a diodydd poeth ac oer. Mae’r caffi yn croesawu’r teulu cyfan ac yn darparu bocsys brechdanau a phrydau i blant. Ceir Siop Goffi yn y Brif Neuadd hefyd sy’n gweini amrywiaeth o gacennau cartref a brechdanau a diodydd poeth ac oer - man hyfryd i fwynhau crandrwydd yr adeilad.

www.amgueddfa.cymru/caerdydd/bwyd-diod/

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Mae digon o lefydd i gael tamaid i’w fwyta yn Sain Ffagan. Y Gegin yw’r bwyty newydd lle gallwch chi fwynhau pryd blasus neu ymlacio gyda diod a chacen. Gallwch hefyd archebu bocs picnic o’r fan hon i’w fwynhau ar y safle. (*rhaid rhag-archebu). Mwynhewch bysgod a sglodion traddodiadol yn PysgOdyn neu fwynhau dewis o ginio ysgafn a chacennau yng nghaffi’r Gweithdy.

Mae te prynhawn traddodiadol ar gael o Ystafell De Gwalia - wedi ei weini ar lestri vintage wrth gwrs - ac ym Mwtri’r Castell ceir caffi bach sy’n gweini dewis o ddiodydd ynghyd â brechdanau a chacennau.  Os hoffech chi fynd â rhywbeth adref gyda chi beth am gael torth ffres o fara o Fecws Popty Derwen?

www.amgueddfa.cymru/sainffagan/ymweld/bwyd-diod/

Marchnad Dan Do Caerdydd

Gyda chynnyrch ffres o safon ac awyrgylch lleol, cynnes, y farchnad dan do Fictoraidd hon yw curiad calon Caerdydd ac mae’n cynnig profiad siopa unigryw.  Strwythur Fictoraidd trawiadol sydd i farchnad Caerdydd ac o dan nenfwd wydr eang byddwch yn dod o hyd i gyfoeth o nwyddau, o botiau a sosbenni i fara a menyn, o offer adeiladu i recordiau pop.

www.cardiffcouncilproperty.com/cy/marchnad-caerdydd

Fabalous Welshcakes

All unrhyw beth guro blas pice ar y maen syml, briwsionog, wedi eu pobi’n ffres?

Mae’r rhain wedi eu gwneud â llaw mewn pobiadau bach, gyda’r cynhwysion naturiol gorau ac yn cael eu coginio yn y dull traddodiadol - ar faen haearn bwrw!

www.fabulouswelshcakes.co.uk

Distyllfa Penderyn

Mae Distyllfa Penderyn yn cynhyrchu wisgi a gwirodydd brag sengl arobryn yng nghysgod mynyddoedd godidog Bannau Brycheiniog. Ewch i’r ganolfan ymwelwyr a’r siop sydd wedi ennill gwobrau, neu ar daith, neu ewch am ddosbarth meistr hyd yn oed.

www.penderyn.wales

Gwinllan Llanerch

Mae Gwinllan Llanerch yn cynnig profiad unigryw a heddychlon ynghanol 22 acer o gefn gwlad hardd ym Mro Morgannwg. Mwynhewch y bwyty sydd wedi ennill gwobrau, ewch ar daith rithiol o’r winllan neu cymerwch ran yn yr ysgol goginio.

www.llanerch.co.uk

Ffreutur Big Pit

Mwynhewch fwyd cartref a sgwrs yn Ffreutur y Glowyr sydd ar agor drwy’r flwyddyn (heblaw am fis Ionawr), yn gweini ystod o fwyd poeth ac oer, byrbrydau, dewis o gacennau cartref, diodydd poeth ac oer a phethau blasus. Mae bwydlen benodol i blant hefyd ar gael.

www.amgueddfa.cymru/bigpit/

Cwmni Cheddar Blaenafon

Cwmni caws teuluol ym Mlaenafon gyda sesiynau blasu ar gael ar gyfer unigolion a grwpiau bach. Mae pecyn Blasu Cymru yn cynnig sesiwn cyfarch gyda the/coffi, cyflwyniad busnes, blasu caws, taith o’r safle cynhyrchu a masnach a chinio Blasu Cymru tri chwrs.

www.chunkofcheese.co.uk

Chocolate House, ger Pontypridd

Mae’r Chocolate House wedi ei leoli ym Mharc Treftadaeth y Rhondda. Mae Anne ac Elizabeth yn gwerthu eu siocledi, sydd wedi ennill gwobrau, o siop draddodiadol o fewn yr amgueddfa ac yn cynnig gweithdai arbennig a phrofiadau moethus. Maen nhw hefyd yn rhedeg Caffi Bracchi ar y safle ac yn cynnig te prynhawn.

www.chocolate-house.co.uk

Ystafelloedd Te Treftadaeth Blaenafon

Mwynhewch gacennau ffres, bwyd poeth a diodydd yng Nghaffi Canolfan Dreftadaeth y Byd Blaenafon. Mae’r golygfeydd i fyny ac ar draws y cwm yn hyfryd a gellir eu mwynhau ym mhob tywydd - faint o gaffis sy’n cynnig golygfeydd o bwll glo, mynwent a thai glowyr Cymreig oll ar yr un pryd? Ar ddiwrnodau braf gallwch eistedd yn y gerddi ar feinciau neu wrth fyrddau picnic. 

www.visitblaenavon.co.uk/ên/VisitBlaenavon/ThingsToDo/The-Heritage-Tea-Rooms

Little Crown, Pont-y-pŵl

Ynghanol y cymoedd mae tafarn swynol y Little Crown Inn, ar safle hen fwynglawdd drifft Lefel Elled. Mae’r bwyty’n cynnig dewis blasus o fwyd cartref lleol, saith diwrnod yr wythnos.

www.thelittlecrown.co.uk

Bragdy Rhymni

Dysgwch gyfrinachau bragu Cwrw ym Mragdy Rhymni, drws nesaf i Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru.  Mwynhewch daith a sesiwn flasu. Mae croeso i blant.

www.rhymneybrewery.com

Tŷ Bedwellty

Mae Tŷ a Pharc Bedwellty yn hyfryd o fywiog ac yn adeilad hanesyddol Gradd II, sy’n cynnig ystod eang o ddigwyddiadau dathlu a gweithgareddau i’r teulu.  Lleolir y tŷ yng ngogoniant Parc Tredegar - ewch am dro drwy’r gerddi prydferth a gallwch fwynhau de prynhawn yn ystafelloedd te y tŷ tegeirian.

www.bedwelltyhouseandpark.co.uk/dining

Marchnad riverside, Glanyrafon, Caerdydd (bob dydd Sul)

Marchnad Riverside yw marchnad ffermwyr wreiddiol Caerdydd a gellir dod o hyd iddi dros yr afon i Stadiwm Principality. Cydnabyddir y farchnad fel un o atyniadau bwyd allweddol y brifddinas, ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae’r farchnad yn dilyn ochr afon Taf ac mae’n arddangos rhai o gynhyrchwyr bwyd gorau Cymru, ac yn rhan allweddol o gymuned Glanrafon.

www.riversidemarket.org.uk/riversidemarket

Ystafelloedd Te Pettigrew, Parc Bute

Mae’r ystafell de vintage hon wedi’i lleoli ym mhen deheuol Parc Bute. Tu fewn gallwch ymlacio a mwynhau pleser cael te bach mewn lleoliad gosgeiddig, neu, os oes well gennych, eisteddwch y tu allan ar y teras gan fwynhau golygfeydd hyfryd dros afon Taf.  Mwynhewch ‘de crand’ neu gacennau hyfryd wedi eu pobi’n ddyddiol ar y safle!

www.pettigrew-tearooms.com

Loving Welsh Food, Caerdydd

Loving Welsh Food - y cwmni cyntaf, a’r unig gwmni i gynnig teithiau bwyd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Maent yn trefnu dyddiau blasus, gwahanol ac adloniannol sy’n arddangos bwyd a diod Cymreig a darparu cipolwg ar dreftadaeth bwyd Cymru, ei phobl, ei diwylliant a’i thraddodiadau. 

www.lovingwelshfood.uk

Seidr Hallets, Crymlyn

Busnes gwneud seidr teuluol yw Hallets ar Fferm Blaengawney, Caerffili, yn edrych dros odre Bannau Brycheiniog. Un o fragwyr seidr cyntaf y DU i fenthyg technegau gan y diwydiant gwin, sy’n rhoi ystod o flasau nodedig, clir a gloyw i’w seidr.

www.halletsrealcider.co.uk

Bragdy Tiny Rebel, Casnewydd

Wedi’i sefydlu nôl yn 2012, mae Tiny Rebel wedi ennill nifer o wobrau. Dyma’r unig fragdy yng Nghymru, a’r bragdy ifancaf erioed, i ennill Champion Beer of Britain. Gydag ystod enfawr o gwrw, o’r dewis craidd hyd at gwrw tymhorol, mae rhywbeth i bawb! Archebwch daith lawn o fragdy Tiny Rebel neu profwch eu taith rithiol sy’n cynnig cyfle gwych i ddysgu pob dim am y bragdy! Gallwch hefyd fwynhau’r cynnyrch yn nhafarn Tiny Rebel Casnewydd!

www.tinyrebel.co.uk

Gwinllan Glyndwr, Y Bont-faen

Gwinllan Glyndwr yw gwinllan sefydledig hynaf a mwyaf Cymru. Mae label y botel yn dangos Owain Glyndŵr yn marchogaeth i’r frwydr gyda Chastell Carreg Cennen yn y cefndir, ac mae’r gwinoedd yn ein hatgoffa o’r cyfnod mentrus a rhamantus hynny yn hanes Cymru. Dim ond ar rai diwrnodau y mae’r winllan ar agor ac mae talebau teithiau gwinllan ar gael.

www.glyndwrvineyard.co.uk

De Orllewin Cymru

Caffi Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Ymlaciwch ar ôl bod am dro o amgylch arddangosfeydd y Glannau yn y caffi sydd wrth galon yr Amgueddfa. Dewiswch o roliau ffres, brechdanau a brechdanau wedi eu tostio neu fwynhewch ystod eang o brydau cartref o’r fwydlen. Ceir dewis o gacennau hefyd gan gynnwys bara brith, neu gallwch ddewis hufen ia lleol sydd ar gael mewn ystod eang o flasau! Ceir opsiynau llysieuol, dietegol ac opsiynau i blant hefyd.

www.amgueddfa.cymru/gwlan/

Marchnad Dan Do Abertawe

Dewch i Farchnad Abertawe, marchnad dan do fwyaf Cymru, am damaid blasus i fwyta!   Dewiswch gig, llysiau neu fwyd môr lleol ffres - gan gynnwys cocos a bara lawr sy’n ddanteithion lleol. Neu efallai y byddai’n well gennych fwyta rhywbeth melys, gyda phice ffres ar gael yn syth o’r maen. Marchnad hanesyddol, sydd wedi ennill gwobrau, sy’n cynnig profiad siopa unigryw i dwristiaid a thrigolion.

www.swanseaindoormarket.co.uk

Hufen Ia Joe’s

Mae’r dylanwad Eidalaidd yn Abertawe yn dyddio’n ôl ganrif a mwy, a’r siop hufen iâ fwyaf eiconig yn Abertawe yw parlwr hufen iâ Joe’s ar Heol San Helen. Mae ei flas nodedig wedi bod yn ffefryn gyda chenedlaethau o drigolion ac ymwelwyr ag Abertawe fel ei gilydd.

www.joes-icecream.com

Oyster Wharf – Mumbles

Datblygiad hynod ar lan y dŵr yn y Mwmbwls yw Oyster Wharf Mumbles, yn edrych dros fae Abertawe. Gydag ystod o fwytai soffistigedig, ceir digon o ddewis o lefydd i fwyta.

www.oysterwharfmumbles.com

The Bay Bistro & Coffee House

Ar dopiau clogwyni Bae Rhossili, sydd wedi ennill gwobrau fel un o draethau gorau’r byd, y mae’r Bay Bistro, man prysur ar gyfer twristiaid a phobl leol. Gyda bwyd gwych, coffi gwych ac awyrgylch arbennig, dyma’r lle i ddod i gael pryd blasus ar ôl bod am dro hir neu syrffio, neu i dwymo’ch traed ar ôl bod yn yr oerfel. Yn gweini brecwast traddodiadol, salad, brechdanau, bowlenni bwdha, byrgyrs cig oen a choffi anhygoel.

www.thebaybistro.co.uk

Marchnad Caerfyrddin

Mae Marchnad Dan Do Caerfyrddin yn fan gwych i brynu picnics neu sawru rhai o flasau Sir Gâr a’r ardal ehangach. Llysiau ffres, caws arbenigol, becws, cigydd a chigoedd oer, jamiau a phicls, cacennau a wisgi Cymreig, jin a gwirodydd.

http://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/marchnadoedd/marchnad-caerfyrddin

Caffi Amgueddfa Wlân Cymru

Ar ôl ymlwybro drwy batrymau a gweadau’r amgueddfa wlân, ymlaciwch yn y caffi braf. Dewiswch o roliau ffres, brechdanau oer a brechdanau wedi eu tostio neu dewiswch o ystod eang o brydau cartref o’r fwydlen. Ceir hefyd ddewis o gacennau gan gynnwys bara brith a phice ar y maen cartref hynod flasus.

www.amgueddfa.cymru/gwlân/

Wrights Food Emporium, Llanarthne

I gael blas ar rywbeth gwahanol, ewch i Wrights. Wedi ei lleoli mewn hen dafarn hyfryd ym mhentref Llanarthne yn Nyffryn Tywi gydag ystafell de, bwyty a siop.

www.shop.wrightsfood.co.uk

Deli GinHaus Llandeilo

Galwch yn Ginhaus i arogli’r bara’n pobi, blasu samplau o gawsiau blasus, rhyfeddu at y dewis sylweddol o jin, neu ddod o hyd i fwyd lleol arbenigol ar gyfer picnic braf a blas o Gymru!

www.ginhaus.co.uk

Fforest Pizzatipi, Cei Cambria, Aberteifi

Pedwar brawd ifanc sy’n rhedeg y lleoliad pop-yp tymhorol hwn. Dyma’r lle i fod ar nosweithiau braf o haf. Pizzas ffwrn goed, awyrgylch drydanol, pabell agored, golau cannwyll, iard guddiedig ar lan yr afon: beth gewch chi well? Yn gweini bwyd tan 9pm, 5pm ar ddydd Sul

www.pizzatipi.co.uk

Fire and Ice, Arberth

Yn enwog am ei gelato atyniadol a blasus wedi ei wneud o laeth organig Cymreig a hufen dwbl organig Cymreig – rheidrwydd yw ymweld â’r siop hon ar ymweliad â’r gorllewin. Mae hefyd yn gartref i’r “sorbet seidr godidocaf” ac yn gwerthu ystod eang o seidrau, gwirodydd a chwrw crefft arbenigol. Caiff sesiynau blasu eu cynnal drwy’r flwyddyn.

www.fireandicewales.co.uk

Gwinllan White Castle

Mae Gwinllan White Castle wedi ei leoli yng nghefn gwlad hyfryd Sir Fynwy ac yn cynhyrchu gwin Cymreig.

www.whitecastlevineyard.com

Siop Fferm Cwmcerrig, Sir Gaerfyrddin

Siop fferm a gril sydd wedi ennill gwobrau, gyda dewis enfawr o fwyd a diod lleol gan gyflenwyr gorau Cymru.

www.cwmcerrigfarmshop.co.uk

Grape and Olive Abertawe (ar frig adeilad talaf Cymru)

Mwynhewch y profiad o fwyta ar frig adeilad talaf Cymru - y Grape & Olive - yn Nhŵr Meridian. Gyda’r golygfeydd gorau yn ne Cymru, sy’n edrych dros Fae Abertawe draw at Pier y Mwmbwls a nôl dros y ddinas ac i lawr yr arfordir - mae’n berffaith ar gyfer achlysuron arbennig.

www.sabrain.com/pubs-and-hotels/south-wales/swansea/grape-olive-swansea

Cegin Deli Delights, Aberteifi

Cyrsiau coginio, gwyliau coginio preswyl, gan gynnwys cyrsiau teuluol sy’n cynnwys creu siocled a thryffls, cyflwyniad i patisserie, tapas, pobi sawrus teuluol, pobi i ddathlu gŵyl a choginio i blant.

www.delidelightswales.co.uk

Fishing and Foraging Wales - Sir Benfro

Pysgota, chwilota a gwledda yw’r nod gyda’r profiad bwyd hyfryd hwn ar arfordir Cymru.   Pysgotwch am ddraenog y môr ar arfordir hudolus Sir Benfro gydag arweinydd pysgota môr cymwysedig, dysgwch i chwilota’n gynaliadwy ac yn gyfrifol ar hyd un o arfordiroedd prydferthaf y byd a gloddestwch ar fwyd unigryw wedi ei ysbrydoli gan y tirlun Cymreig!

www.fishingandforagingwales.co.uk

Caws Cenarth

Mae Caws Cenarth wedi cael ei greu ar y fferm yng Nghwm Cuch ers 1986 ac yn cynnwys caws enwog Perl Wen a Pherl Las. Ewch i’r hufenfa, gwyliwch y caws yn cael ei greu a mwynhewch daith i flasu’r caws.

www.cawscenarth.co.uk

Caws Teifi

Caiff Caws Teifi ei greu ar fferm organig deuluol sydd wedi bod yn cynhyrchu caws arbenigol ers 1982, ac wedi ennill nifer o wobrau. Caiff y caws ei greu o laeth amrwd lleol. Mae siop fferm ar y safle ac mae ganddynt raglen o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.

www.teificheese.co.uk

Fungi Forays, ger Rhaeadr Gwy

Saffari madarch gwyllt yng nghoedwigoedd Cymru. Mae gan Gymru hinsawdd berffaith ar gyfer madarch gwyllt ac mae Fungi Forays yn cynnig teithiau i edrych am fadarch bwytadwy. Mae’r diwrnod yn gorffen gyda phryd o fwyd yn cynnwys madarch, ynghyd â sesiwn flasu a chadw, mewn parlwr godro wedi ei addasu o’r 17eg ganrif.

www.fungiforays.co.uk

Cegin Deli Delights, Aberporth

Ychydig funudau o’r arfordir, mae Deli Delights yn cynnig gweithdai hanner diwrnod a diwrnodau llawn, dosbarthiadau meistr a chyrsiau coginio preswyl, sy’n cynnwys llety.  Dewiswch o ystod o bynciau, gan gynnwys cyflwyniad i patisserie, creu siocled a thryffls, pobi sawrus a phobi Cymreig.

www.delidelightswales.co.uk

Black Mountains Smokery, Crughywel

Profwch bysgod, cig a chaws sydd wedi eu mygu’n draddodiadol ac wedi ennill gwobrau, a mwynhewch daith o’r ystafell fygu, gydag arddangosiadau a sesiynau blasu wedi eu harwain gan diwtor (ar gael i hyd at 12 person ar ddyddiau Mercher o fis Mawrth hyd at fis Medi am 11am. Gellir trefnu teithiau preifat ar adegau eraill yn ôl y gofyn)

www.smoked-foods.co.uk

Gogledd Cymru

Caffi Ffowntan - Amgueddfa Lechi Cymru

Mae caffi Ffowntan yn gweini amrywiaeth o fwydydd, o frechdanau hyd at gawl cartref a chacennau, danteithion a bwydydd poeth. Caiff popeth ei greu ar y safle, neu yn lleol, gan ddefnyddio’r cynhwysion gorau a chynnyrch Cymreig lle bo hynny’n bosibl. Mae bwydlen benodol i blant a bocsys bwyd ar gael. Mae byrddau picnic ar gael tu allan i’r caffi.

www.amgueddfa.cymru/llechi

Pete’s Eats Llanberis

Yn enwog fel caffi’r dringwyr gydag awyrgylch wych a seigiau sylweddol, mae’n rhaid ymweld â Pete’s Eats wrth fynd i Llanberis. Mae ystod wych o brydau llysieuol yn y caffi ynghyd â gril cymysg, brechdanau bacwn a phaneidiau enfawr o de a choffi!

www.petes-eats.co.uk

Cadwaladers

Dechreuodd stori Hufen Iâ Cadwaladers ym 1927, gyda’r teulu yn creu ac yn gwerthu eu rysáit cyfrinachol o hufen iâ fanila o ffenest siop y pentref yng Nghricieth. Mae’r rysáit yn parhau’n gyfrinach heddiw gyda’r un blas hufennog ac unigryw, ac er bod Cadwaladers wedi dechrau yng ngogledd Cymru, mae eu siopau bellach ar gael drwy’r wlad felly peidiwch â methu’r blas Cymreig unigryw hwn.Cricieth, Betws y Coed, Porthmadog, Dinbych-y-pysgod, Porthcawl, Cei’r Fôr-forwyn Caerdydd, Ynys y Barri

www.cadwaladers.co.uk

Gwinllan a Pherllan Pant Du

Mae Gwinllan a Pherllan Pant Du wedi ei leoli ar lethrau Dyffryn Nantlle, Eryri, ac yn cynnwys Caffi a siop fechan ar y safle lle y gellir prynu gwin, seidr a sudd afal Pant Du!  Gyda golygfeydd o’r Wyddfa a’r mynyddoedd cyfagos, byddwch chi’n canfod dewis gwych o brydau cartref poeth ac oer ar y fwydlen, ynghyd â dewis o brydau plant a chacennau cartref blasus. Mae te prynhawn hefyd ar gael.

www.pantdu.co.uk

Canolfan Arddio Fron Goch

Canolfan arddio deuluol yw Fron Goch, gyda bwyty a chaffi sydd wedi ennill gwobrau, yn gweini brecwast, cinio poeth, cawl cartref, baguettes a llwyth o gacennau a choffi gan gynnwys te prynhawn. Hefyd ar y safle mae siop fferm Hooton’s Homegrown.

www.frongoch-gardencentre.co.uk

Caffi Swellies

Wedi’i enwi ar ôl darn o Afon Menai rhwng Pont Britannia a Phont Menai sy’n nodedig o anodd ei dramwyo yn ddiogel, mae Caffi Swellies yn lleoliad hyfryd ger y dŵr gyda choffi gwych a bwyd gwerinol syml blasus ym mhentref y Felinheli, ger Bangor.

www.the-swellies.business.site

Bushcraft Snowdonia

Mae ystod o brofiadau ar gael o fewn amgylchedd awyr agored naturiol Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r sgiliau ‘ymarferol’ hwyliog yn cynnwys chwilota am fwyd, cigyddiaeth, sgiliau cyllell, a choginio byw yn y gwyllt.

www.bushcraftsnowdonia.co.uk

Cwrw LlŶn, Nefyn

Yn nhref hardd Nefyn, profwch unig fragdy annibynnol Pen Llŷn neu cymerwch olwg yn siop y bragdy a’r bar.

www.cwrwllyn.cymru

Halen Môn

Dewch i ddysgu pam mai Halen Môn yw’r peth gorau i roi blas i unrhyw bryd gyda thaith ‘tu ôl i’r llenni’ o’r cwt halltu a’r ganolfan ymwelwyr sy’n para 60 munud ac yn gorffen gyda sesiwn blasu halen. Ceir siop anrhegion ar y safle a chaffi pop-yp tu allan yn edrych dros Afon Menai.

www.halenmon.com

Y Siop Siocled yn Fferm Foel

Mae Fferm Siocled Ynys Môn wedi ei leoli ar safle Fferm Foel lle gallwch chi weld y siocledwr arbenigol yn creu siocledi blasus yn ei weithdy. Mae’r siop yn cynnig dewis hyfryd o siocledi wedi eu gwneud â llaw, o siocledi cyfandirol traddodiadol, pralinau, ffondantau a gwirodydd siocled, hyd at wrthrychau siocled difyr fel anifeiliaid siocled.

www.foelfarm.co.uk/chocolate-shop/

Melin Llynnon

Melin flawd yw Melin Llynnon ar gyrion pentref Llanddeusant, Ynys Môn. Dyma’r felin wynt hynaf sy’n dal i droi yng Nghymru. Mwynhewch un o gacennau anhygoel y perchennog / pobydd yng nghaffi’r felin neu prynwch far o siocled neu fotel o jin Melin Llynnon yn y siop

www.melinllynon.co.uk

Distyllfa Aber Falls

Mae Distyllfa Aber Falls dafliad carreg o Rhaeadr Fawr, rhaeadr enwog Abergwyngregyn. Caiff y wisgi ei ddistyllu, ei fotelu a’i aeddfedu yn y ddistyllfa, gan ddefnyddio cynhwysion Cymreig neilltuol o’r ardal leol. Ceir hefyd cyfres o jin a gwirodydd unigryw, wedi eu gwneud â llaw. Mae’r Ganolfan Ymwelwyr ar agor ar gyfer teithiau o’r ddistyllfa.

www.aberfallsdistillery.com

Blas Ar Fwyd, Llanrwst

Mae Blas ar Fwyd yn ganolbwynt ar gyfer bwyd Cymru - yn arbenigo mewn bwyd a diod o safon ers 1988. Ewch i’r siop ar stryd fawr Llanrwst, sydd â deli a siop win, a chaffi o’r enw Amser Da. Gweinir ystod eang o gynnyrch yn y delicatessen, gan gynnwys caws gafr, dafad a gwartheg, sy’n pori’n naturiol ac yn rhydd ar fryniau ucheldiroedd Cymru.

www.blasarfwyd.com

Canolfan Fwyd Cymreig Bodnant, Conwy

Ynghanol Dyffryn Conwy, mae Canolfan Fwyd Cymreig Bodnant yn drysor amheuthun.  Prynwch fwyd wedi ei gynhyrchu’n lleol yn y siop fferm gan gynnwys o’r cigydd a’r becws, bwytewch ym Mwyty Hayloft neu Ystafell De Furnace neu dysgwch i fynd ati ar eich liwt eich hunan yn yr Ysgol Goginio neu’r Ysgol Win!

www.bodnant-welshfood.co.uk/food-and-drink

Y Tŷ Hyll

Y Tŷ Hyll, ger Betws y Coed, yw arlwy eiddo blaenllaw Cymdeithas Eryri yn cynnig gweithgareddau natur a chadwraeth i bobl o bob oed, gan ysbrydoli cariad at natur ac am harddwch a threftadaeth wyllt Eryri. Mwynhewch baned cartref blasus a chacennau yn ystafell de Pot Mêl, a dysgwch mwy  am hanes y bwthyn unigryw hwn ar yr un pryd.

www.snowdonia-society.org.uk/cy/ty-hyll

Siop Fferm Ystâd Y Rhug, Corwen

Fferm organig, siop fferm, cyfanwerthwr a chigydd manwerthu yw siop Fferm Ystâd y Rhug, gyda chaffi, gwasanaeth cludfwyd a gyrru-drwyddo wedi ei leoli ar yr A5 yng Nghorwen. Mae Rhug yn gwerthu ystod eang o gynnyrch gan gynnwys cigoedd organig, pasteiod, caws, cwrw, gwin a gwirodydd. Yn ogystal, mae yno gasgliad gofal croen Harddwch Gwyllt Ystâd y Rhug, ac ystod eang o anrhegion eraill.

 www.rhug.co.uk/shop