Dewch I Ddarganfod Stori Cymru

English

Teuluoedd ac Antur

DE DDWYRAIN CYMRU

SAIN FFAGAN AMGUEDDFA WERIN CYMRU

Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn wibdaith o amgylch Cymru – o’r cyfnod Celtaidd hyd heddiw – yn un o amgueddfeydd awyr agored mwyaf blaenllaw Ewrop. Dyma atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru. Darganfyddwch sut roedd pobl yn byw ac yn gweithio yng Nghymru’r gorffennol drwy ymweld â rhai o’r adeiladau hanesyddol sydd wedi’u hail-godi yma, gan gynnwys cartrefi teuluol, fferm, ysgol, siopau ac eglwys. Gall teuluoedd ymweld â’r tair oriel dan-do, gan weld hanes ar waith; ac archwilio’r tiroedd helaeth; a chwarae yn yr Iard, lle chwarae a ysbrydolwyd gan gasgliadau’r Amgueddfa. I’r rhai hŷn a dewr ymhlith eich grŵp, mae profiad rhaffau uchel CoedLan ble gallwch ddringo, neidio, camu a siglo eich ffordd drwy’r coed fry uwchben adeiladau Sain Ffagan, cyn cymryd y wifren wib yn ôl i dir cadarn. Mae cwrs rhaffau llai hefyd i’r rhai sydd ddim digon hen ar gyfer y profiad llawn.

www.amgueddfa.cymru/sainffagan

AMGUEDDFA GENEDLAETHOL CAERDYDD

Wedi’i lleoli yng nghanol canolfan ddinesig gain Caerdydd, mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gartref i gasgliadau cenedlaethol celf, hanes natur a daeareg Cymru. O baentiadau’r Argraffiadwyr i ddeinosoriaid enfawr a cherrig o’r gofod, mae rhywbeth yma i ddiddanu pawb! Ewch ar daith anhygoel yn Esblygiad Cymru o’r cychwyn cyntaf hyd heddiw. Darganfyddwch sut y datblygodd bywyd yng Nghymru a pha ddeinosoriaid oedd yn crwydro’r tir. Mae digon o ffyrdd i deuluoedd archwilio’r amgueddfa gan gynnwys llwybrau celf, digwyddiadau, a sesiynau yng Nghanolfan Ddarganfod Clore lle mae cyfle i drin a thrafod ffosilau, arfau o’r Oes Efydd, trychfilod a llawer mwy!

www.amgueddfa.cymru/caerdydd

AMGUEDDFA CAERDYDD

Yn adeilad hardd a hanesyddol yr Hen Lyfrgell, mae orielau hwyliog a rhyngweithiol yn adrodd hanes Caerdydd; o dref farchnad fechan yn y 1300au, i un o borthladdoedd mwyaf y byd ar ddechrau’r 20fed ganrif, a’r brifddinas gosmopolitaidd sydd gennym heddiw. Mae’r amgueddfa yn llawn straeon, gwrthrychau, ffotograffau a ffilm sy’n adrodd hanes Caerdydd drwy lygaid y rhai a greodd y ddinas – ei phobl. I deuluoedd mae yna weithdai amrywiol, a sesiynau ‘Dwylo ar Hanes’ gyda chyfle i drin a thrafod gwrthrychau.

www.amgueddfacaerdydd.com

TECHNIQUEST

Canolfan wyddoniaeth a darganfod ym Mae Caerdydd yw Techniquest. Mae yno amrywiaeth o weithgareddau, a phob math o brofiadau gwyddonol a thechnolegol anhygoel – gan gynnwys planetariwm, sioeau theatr gwyddoniaeth, a gweithgareddau i blant bach.

www.techniquest.org

CANOLFAN DŴR GWYN RHYNGWLADOL CAERDYDD

Wedi’i lleoli yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ym Mae Caerdydd, mae Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn cynnig syrffio dan do, peiriant tonnau, rafftio dŵr gwyn i’r teulu, canŵio, caiacio, padlfyrddio, rhaffau uchel, afonfyrddio, wal ddringo, cerdded ceunant, ynghyd â gwersi a chyrsiau.

www.dgrhc.com

TAITH PYLLAU GLO CYMRU

Mae Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda yn atyniad i dwristiaid ac yn rhan o Lwybr Treftadaeth Ddiwydiannol Ewrop. Mae’n cynnig cipolwg ar fywyd y gymuned lofaol a fodolai yn yr ardal tan y 1980au. Gall teuluoedd brofi bywyd y glowyr ar daith dywys drwy un o siafftiau pwll glo Lewis Merthyr dan arweiniad cyn-löwr.

www.rctcbc.gov.uk/CY/Tourism/RhonddaHeritagePark/Home.aspx

BIG PIT AMGUEDDFA LOFAOL CYMRU

Mae Big Pit yn bwll glo go iawn ac yn un o brif amgueddfeydd glofaol Prydain. Cewch fentro 300 troedfedd o dan y ddaear gyda glöwr a gweld sut beth oedd bywyd i’r miloedd o ddynion a oedd yn gweithio yn y pyllau. Yn ôl ar yr wyneb, gallwch fynd ar daith rithiol o amgylch pwll glo modern yn yr orielau, mwynhau’r arddangosfeydd yn y Baddondai Pen Pwll, a chrwydro hen adeiladau’r pwll.

www.amgueddfa.cymru/bigpit

Y BATHDY BRENHINOL

Mae Profiad y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant yn rhoi cipolwg unigryw ar un o ddiwydiannau hynaf Prydain – creu arian! Ymysg yr uchafbwyntiau mae taith o gwmpas y ffatri, arddangosfa ryngweithiol a chyfle i fathu darn arian eich hun.

www.royalmint.com

GWLYPTIROEDD CASNEWYDD

Saif Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd rhwng aber afon Hafren ac afon Wysg ar arfordir y de. Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n berchen ar y safle, a nhw sy’n ei reoli ar y cyd ag RSPB Cymru. Mae’n fwyaf adnabyddus am ei amrywiaeth o adar gwlypdir, o'r titw barfog hardd i'r crëyr bach copog gosgeiddig! Yn yr hydref, gallwch weld y nico yn bwydo a'r drudwy yn nythu, a cadwch lygad am bibydd y mawn, y pibydd coesgoch a phioden y môr yn chwilota’n y mwd.

www.rspb.org.uk/reserves-and-events/reserves-a-z/newport-wetlands/

FFERM GYMUNEDOL GREENMEADOW

Mae gan Fferm Gymunedol Greenmeadow amrywiaeth o anifeiliaid prin a phedigri i chi eu cyfarfod. Mae’r gweithgareddau yn cynnwys arddangosfeydd godro a reid ar y tractor a’r trelar, ynghyd â digwyddiadau tymhorol ac yn ystod gwyliau ysgol.

www.greenmeadowcommunityfarm.org

TEITHIAU CWCH BAE CAERDYDD

Dewiswch daith 15 munud o gwmpas y Bae, neu fordaith awr drwy gatiau’r morglawdd allan i Fôr Hafren i weld golygfeydd hardd yr arfordir a’i fywyd gwyllt, neu ymweld ag ynys hardd Echni.

www.bayislandvoyages.co.uk/

ZIP WORLD YNG NGLOFA TŴR, RHIGOS

Dyma bedwerydd safle Zip World ledled y byd, a’r cyntaf yn ne Cymru. Mae’n gartref i wifren wib Phoenix, a’r Tower Coaster. Wedi’i leoli yn hen bwll glo’r Tŵr ger Rhigos, mae gan y safle olygfeydd godidog ac anturiaethau lu i’w cynnig.

www.zipworld.co.uk

DE ORLLEWIN CYMRU

RHEILFFORDD GWILI

Rheilffordd dreftadaeth Gymreig yw hon, yn dechrau o Gyffordd Abergwili (ger Caerfyrddin) ac yn teithio ar hyd pedair milltir a hanner o hen lein Caerfyrddin i Aberystwyth.

www.gwili-railway.co.uk

RHEILFFORDD CWM RHEIDOL

Mae Rheilffordd Cwm Rheidol yng nghanolbarth Cymru yn rhoi blas o ysbryd anturus dechrau’r 20fed ganrif. Ers agor ym 1902, mae miliynau wedi mwynhau golygfeydd arbennig y daith hon drwy goetiroedd hynafol i Bontarfynach, cartref y rhaeadrau enwog, sy’n swatio ym mynyddoedd godidog Elenydd. Gwrandewch ar sŵn yr injan stêm bwerus wrth iddi weithio’n galed i ddringo 700 troedfedd (200m) dros 12 milltir o Aberystwyth i Bontarfynach, a chadwch lygad am adar ysglyfaethus fel y barcud coch a’r bwncath yn hofran yn uchel uwch y dyffryn.

www.rheidolrailway.co.uk

*Un o drenau bach arbennig Cymru: www.greatlittletrainsofwales.co.uk

DAN YR OGOF

System ogofâu 17 cilometr o hyd yw Dan yr Ogof, ger Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae yno amrywiaeth anhygoel o stalagmidau a stalactidau. Ymysg yr atyniadau eraill i deuluoedd mae trac cartio Jwrasig; lle chwarae dan do sy’n llawn llithrennau, rhaffau, twneli a phontydd; pentref Oes yr Haearn; a fferm Fictoraidd.

www.showcaves.co.uk

FOLLY FARM

Yn Folly Farm cewch weld dros 750 o anifeiliaid yn y sw a chael cyfarfod pob math o ffrindiau fferm blewog a phluog yn y sgubor. Mae 17 gwahanol reid yn y ffair a gallwch fwynhau wyth ardal chwarae antur. 120 erw o hwyl!

www.folly-farm.co.uk

YR LC

Canolfan hamdden yng nghanol dinas Abertawe yw’r LC. Mae’r pwll nofio yn cynnwys peiriant tonnau, sleidiau dŵr, peiriant syrffio, yn ogystal â phyllau bach a sesiynau nofio i’r plant lleiaf. Os nad yw’r dŵr yn eich denu, mae yma le chwarae mawr a wal ddringo 30 troedfedd.

www.thelcswansea.com

AMGUEDDFA GENEDLAETHOL Y GLANNAU

Yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, cewch brofi golygfeydd a synau dros 300 mlynedd o ddiwydiant ac arloesedd yng Nghymru, gan ddefnyddio technoleg ryngweithiol arloesol sy’n rhoi’r gorffennol ar flaenau eich bysedd. Wedi’i leoli mewn warws rhestredig gwreiddiol sy’n gysylltiedig ag adeilad llechi a gwydr hynod fodern, dyma’r lle i ddarganfod y drafnidiaeth, y deunyddiau a’r rhwydweithiau a oedd mor bwysig i hanes diwydiannol ein cenedl. Mwynhewch yr hanes gyda chymysgedd syfrdanol o’r hen a’r newydd yn ardal forwrol gyffrous y ddinas.

www.amgueddfa.cymru/glannau

PLANTASIA

Tŷ gwydr mawr cyhoeddus yw Plantasia, sydd wedi’i leoli ym mharc manwerthu Parc Tawe, Abertawe. Camwch drwy goeden enfawr i goedwig law go iawn a threuliwch y diwrnod yn archwilio’r byd bywiog a hudolus hwn. Cewch gropian drwy’r isdyfiant, dod wyneb yn wyneb â chrocodeiliaid a dringo’n uchel yn y canopi gyda’r parotiaid! Rhowch eich dychymyg ar waith yn y profiad trofannol hwn i’r teulu cyfan.

www.plantasiaswansea.co.uk

GOGLEDD CYMRU

AMGUEDDFA LECHI CYMRU

Wedi’i leoli yng nghanol Parc Gwledig Padarn wrth droed yr Wyddfa, mae Amgueddfa Lechi Cymru yn amgueddfa fyw sy’n adrodd hanes y diwydiant llechi yng Nghymru. Ymwelwch â gweithdai gwreiddiol y chwarel sy’n cynnwys olwyn ddŵr enfawr; crwydrwch drwy dai’r chwarelwyr; a gwyliwch ein crefftwyr yn hollti llechi’n gelfydd.

www.amgueddfa.cymru/llechi

*Rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru: www.llechi.cymru

RHEILFFORDD LLYN LLANBERIS

Mwynhewch daith 5 milltir mewn trên stêm ar hyd Llyn Padarn yng nghanol Eryri. Mae’r daith yn mynd â chi heibio hen Gastell Dolbadarn ac olion y chwareli llechi. O Lanberis aiff y trên trwy Barc Gwledig Padarn i Benllyn, ar hyd hen reilffordd y chwarel, gan gynnig golygfeydd gwych o fynydd uchaf Cymru, yr Wyddfa.

http://lake-railway.co.uk/hafan.html

*Un o drenau bach arbennig Cymru: www.greatlittletrainsofwales.co.uk

*Rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru: www.llechi.cymru

RHEILFFORDD YR WYDDFA

Ewch ar y trên bach i ben yr Wyddfa fawr - rheilffordd rac a phiniwn sy’n rhedeg o bentref Llanberis i gopa mynydd uchaf Cymru, 1085 medr uwch lefel y môr.

https://snowdonrailway.co.uk/cy/hafan/

*Un o drenau bach arbennig Cymru: www.greatlittletrainsofwales.co.uk

CEUDYLLAU LLECHI LLECHWEDD

Mae Antur Mynydd Llechwedd yn eich tywys ar brofiad gwirioneddol unigryw drwy chwarel hanesyddol. Mwynhewch daith gyffrous i gopaon uchaf y safle 2,000 erw, i weld tirwedd unigryw’r chwarel, neu fentro ar y daith enwog yn ddwfn i grombil y mynydd ar reilffordd gebl fwyaf serth Ewrop.

www.llechwedd.co.uk/cy

*Rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru: www.llechi.cymru

ZIP WORLD

Paratowch ar gyfer profiad gwirioneddol unigryw a chyffrous - y wifren wib gyflymaf yn y byd. Does dim sy’n cymharu â’r profiad o blymio fel hebog dros Chwarel y Penrhyn a golygfeydd godidog Dyffryn Ogwen, ar gyflymder o dros 100 milltir yr awr.

www.zipworld.co.uk/

*Rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru: www.llechi.cymru

GELLI GYFFWRDD

Antur yn y goedwig yw Gelli Gyffwrdd, gydag atyniadau anhygoel a gweithgareddau hwyliog i’r teulu. Ewch am sblash ar yr unig lithren dŵr ym Mhrydain sydd wedi ei phweru gan ynni’r haul, neidiwch ar fwrdd y ‘roller coaster’ cyntaf yn y byd i gael ei bweru gan bobol, neu gwibiwch lawr y cwrs sled hiraf yng Nghymru! Bydd plant wrth eu boddau yn bownsio ar y Giant Jumper, yn archwilio tyrrau yn y coed, diosg eu sgidiau a’u sannau i fynd ar Daith Troednoeth neu anelu am aur efo bwa a saeth.

www.greenwoodfamilypark.co.uk

PORTMEIRION

Portmeirion yw’r pentref Eidalaidd enwog a ddyluniwyd ac a adeiladwyd gan un o benseiri enwocaf Cymru, Syr Clough Williams–Ellis, rhwng 1925 a 1975. Mae wedi bod yn lleoliad i sawl ffilm a drama, gan gynnwys y rhaglen eiconig o’r 1960au, The Prisoner. Crwydrwch drwy’r dirwedd hudolus a geir ym mhob rhan o’r pentref a’r gerddi hardd wrth i chi ymlwybro i lawr tua’r môr.

www.portmeirion.cymru

PARC ANTUR ERYRI

Wedi’i leoli yng nghanol harddwch Dyffryn Conwy, mae gan Barc Antur Eryri dair ardal unigryw i’w mwynhau. Dysgwch syrffio ar lagŵn syrffio mewndirol cyntaf y byd, mwynhewch ogofâu dan do a chwrs rhwystrau ninja, a chymerwch ran mewn anturiaethau awyr agored yn cynnwys gwifren wib, wal ddringo a thrac beicio.

www.adventureparcsnowdonia.com/

SŴ MÔR MÔN

Dyma acwariwm unigryw gyda dros 40 tanc yn arddangos y gorau o fywyd gwyllt moroedd Prydain! Dewch o hyd i greaduriaid diddorol o bob math, gan gynnwys octopws, cimychiaid, ceffylau môr, llysywod conger a slefrod môr!

www.angleseyseazoo.co.uk

MWYNGLAWDD COPR SYGUN

Dyma antur danddaearol gyffrous mewn hen fwynglawdd copr. Cewch grwydro ar eich liwt eich hun drwy dwneli gwyntog sy’n llawn stalactidau a stalagmidau gwych!

www.syguncoppermine.co.uk

RHEILFFORDD UCHELDIR CYMRU

Rheilffordd Ucheldir Cymru yw’r ffordd orau i fwynhau harddwch Eryri! Teithiwch o Gaernarfon i Feddgelert – un o bentrefi mwyaf prydferth Eryri, lle gallwch ymweld â bedd y ci chwedlonol – neu ewch ymlaen i borthladd hanesyddol Porthmadog, sydd yn llawn siopau a chaffis.

www.whr.co.uk

Un o Drenau Bach Arbennig Cymru - www.greatlittletrainsofwales.co.uk

RHEILFFORDD FFESTINIOG

Mae taith ar Reilffordd Ffestiniog yn rhoi teimlad o ‘hanes symudol’ go iawn! Mae’r rheilffordd yn rhedeg am 13.5 milltir o Borthmadog i dref chwarel hanesyddol Blaenau Ffestiniog. Adeiladwyd y trac rhwng 1833 a 1836 (gyda’r rhan olaf a Thwnnel Moelwyn ger Tanygrisiau yn cael eu cwblhau ym 1842), ac mae’n dringo ac yn troelli ei ffordd o lefel y môr i uchder o 700 troedfedd, gan gynnig golygfeydd ysblennydd o Eryri.

www.festrail.co.uk

*Un o Drenau Bach Arbennig Cymru: www.greatlittletrainsofwales.co.uk

*Rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru: www.llechi.cymru

RIB-RIDE

Os ydych chi’n edrych am gyflymder ac adrenalin - yna mae Rib-Ride i chi!

Mwynhewch daith gyffrous i Ynys Seiriol ar hyd Afon Menai, gan basio tai lliwgar tref Biwmares neu ewch i weld golygfeydd ysblennydd o gastell Caernarfon ac ynys Llanddwyn. Os yn teimlo’n anturus, beth am daith ar Velocity - RIB teithwyr cyflymaf y byd!

www.rib-ride.co.uk