Castell Caerdydd yw un o brif atyniadau treftadaeth Cymru ac mae’n safle o arwyddocâd rhyngwladol. Wedi’i leoli yng nghanol y brifddinas, o fewn parcdiroedd hardd, mae gan y castell bron i 2,000 o flynyddoedd o hanes sy’n aros i gael ei archwilio. Cewch weld y muriau Rhufeinig, dringo’r tŵr Normanaidd a mynd ar daith o amgylch fflatiau’r 19eg ganrif i ddarganfod ffantasi neo-Gothig, a grëwyd gan y pensaer celf William Burges gyda chyfoeth Trydydd Ardalydd Bute.
Wedi’i leoli ychydig i’r gogledd o Gaerdydd, mae Castell Coch yn edrych fel castell tylwyth teg gyda’i dyrau siâp côn wedi’u hamgylchynu gan goetiroedd. Er ei fod yn dyddio o’r 13eg ganrif, mae’r castell a welwch heddiw yn gynnyrch Adfywiad Gothig yr 19eg ganrif, wedi’i greu gan y pensaer celf William Burges, ac mae’n llawn dodrefn ac addurniadau crand.
Mae silwét digamsyniol Castell Rhaglan yn goron ar gefn gwlad gogoneddus. Dyma’r castell mwyaf mawreddog a adeiladwyd erioed gan Gymry. Mae’n gaer ac yn balas gafodd ei drawsnewid yn breswylfa fawreddog. Mae’r Tŵr Mawr yn dyddio o 1435 yn dal i fwrw’i gysgod dros y castell hwn a gynlluniwyd i greu argraff yn gymaint ag amddiffyn.
Darllenwch fwy... Gwefan swyddogol
Mwynhewch awyrgylch a strwythur trawiadol Castell Cil-y-coed, sydd wedi’i amgylchynu gan barc hardd 55 erw. Wedi’i sefydlu gan y Normaniaid, ei ddatblygu fel cadarnle brenhinol yn yr Oesoedd Canol, a’i adfer fel cartref teuluol Fictoraidd, mae gan y castell hanes rhamantus a lliwgar.
Mae Castell Cas-gwent mewn cyflwr gwych ac mae’n ymestyn ar hyd y graig galchfaen uwchben Afon Gwy – fel gwers hanes ar glogwyn! Mae cerrig y gaer odidog hon yn olrhain 600 mlynedd o hanes. Does dim lle gwell ym Mhrydain i weld sut y datblygodd cestyll i ymdopi ag arfau mwyfwy dinistriol, heb sôn am uchelgais eu perchnogion! Am dros chwe chanrif roedd Cas-gwent yn gartref i rai o ddynion cyfoethocaf a mwyaf pwerus y wlad.
Dyma’r castell mwyaf yng Nghymru – yn ail yn unig i Windsor. Mae waliau, tyrau a giatiau enfawr Castell Caerffili ynghyd ag amddiffynfeydd dŵr helaeth yn gorchuddio cyfanswm o 30 erw. Nodwedd enwocaf y castell yw’r tŵr simsan rhyfeddol sy’n gwyro mwy na thŵr Pisa hyd yn oed (diolch yn rhannol i ffrwydradau’r Rhyfel Cartref)!
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Parc Dinefwr ger Llandeilo yn ystâd 800 erw gyda phlasty yn y canol. Ar fryn yn y parc mae adfeilion Castell Dinefwr, un o geiri hynafol teyrnas y Deheubarth. Mae’n Barc Hanesyddol gradd I ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Mae Castell Aberteifi yng nghanol y dref, yn edrych dros Afon Teifi. Mae’n dyddio o ddiwedd yr 11eg ganrif ac ar ôl iddo fynd yn adfail, adferwyd y castell ar ddechrau’r 2000au gan agor i’r cyhoedd yn 2015. Mae bellach yn eiddo i Gyngor Sir Ceredigion ac yn cynnwys canolfan dreftadaeth a lleoliad ar gyfer cyngherddau awyr agored.
Cilgerran yw un o’r cestyll mwyaf trawiadol yng Nghymru. Mae ei ddau dŵr crwn gwych yn codi’n uchel uwchben ceunant dwfn Afon Teifi a nant fyrlymus Plysog.
Castell Normanaidd yw Castell Ystumllwynarth, sy’n eistedd yn fawreddog ar y bryn yn y Mwmbwls gyda golygfeydd godidog dros Fae Abertawe. Darganfyddwch gelf graffiti o’r 14eg ganrif, grisiau sy’n arwain o selerydd i neuaddau gwledda a phont wydr 30 troedfedd o uchder.
Dyma’r adfail mwyaf rhamantaidd yng Nghymru! Mae wedi’i adeiladu ar glamp o glogwyn calchfaen bron 300 troedfedd/90m uwchlaw Afon Cennen. Amlinell ddramatig Carreg Cennen yw’r brif nodwedd ar y gorwel am filltiroedd ac oddi yno cewch olygfeydd trawiadol ar draws cefn gwlad Sir Gâr. Archwiliwch yr ogof naturiol a’r coridor cul sydd wedi’i dorri i wyneb y clogwyn.
Mae gan Gastell Penfro hanes hir a diddorol. Mae’r golygfeydd o’i dyrau yn arbennig ac mae safle amddiffynnol naturiol y castell, ar bentir creigiog sy’n edrych dros Aberdaugleddau, yn amlwg ar unwaith. Mae’n nodedig fel yr unig gastell ym Mhrydain i gael ei adeiladu dros ogof naturiol, ogof fawr o’r enw’r Wogan. Mae Castell Penfro yn bwysig am sawl rheswm, gan gynnwys y ffaith mai yma y cafodd Harri Tudur (Harri VII yn ddiweddarach) ei eni ym 1457!
Saif Castell Oxwich yn ysblennydd uwchlaw ehangder braf Bae Oxwich. Nid castell mohono mewn gwirionedd, ond plasty Tuduraidd godidog a adeiladwyd gan dad a mab uchelgeisiol. Mae’r arddull ffug-filwrol i’w gweld ym mhobman, ond dringo ysgol cymdeithas oedd y nod, nid amddiffyn. Y tu allan i’r cwrt mae olion colomendy enfawr gyda 300 o nythod. Roedd hwn yn darparu cig ffres drwy gydol y flwyddyn i’r castell – ond hefyd yn gyfle i frolio statws y teulu.
Y tu ôl i’r bensaernïaeth neo-Normanaidd anhygoel a’r crandrwydd Fictoraidd, mae hanes tywyll i Gastell Penrhyn. Fe wnaeth teulu’r Penrhyn eu ffortiwn o Chwarel Lechi Penrhyn gerllaw, ond hefyd o blanhigfeydd siwgr yn Jamaica. Defnyddiodd crefftwyr lleol eu doniau i greu dodrefn mewn derw, eboni, marmor a hyd yn oed llechi o chwarel y Penrhyn, ac mae’r manylion arnynt yn cynnwys bwystfilod, wynebau a phatrymau cain.
Os am bensaernïaeth fawr, ddramatig mae’n anodd curo Castell Caernarfon – un o adeiladau mwyaf gogoneddus yr Oesoedd Canol. Mae’r gaer, ynghyd â chestyll eraill Edward I yng Nghonwy, Biwmares a Harlech, yn Safle Treftadaeth y Byd.
Mae’n debyg mai hwn yw’r lleoliad mwyaf trawiadol ar gyfer unrhyw un o gestyll Edward I yng ngogledd Cymru (mae’r pedwar wedi’u dynodi’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.) Mae ei ddyluniad ‘waliau o fewn waliau’ clasurol yn creu amddiffynfeydd naturiol bygythiol. Hyd yn oed pan gafodd ei roi dan warchae gan wrthryfel Madog ap Llewelyn, daliodd y castell yn gadarn – diolch i’r ‘Ffordd o’r Môr’. Roedd y llwybr hwn o 108 cam yn codi’n serth i fyny wyneb y graig, ac yn caniatáu i amddiffynwyr y castell gael bwyd a dŵr o longau. Mae Castell Harlech yn haws i’w oresgyn heddiw gyda phont droed ysblennydd yn eich tywys i mewn!
Cafodd Castell Cricieth ei godi – a’i ddinistrio – gan rai o dywysogion pwerus Cymru. Yn sefyll ar graig uwch y môr rhwng dau draeth, mae’n bwrw’i gysgod ar dref hardd Cricieth, ac oddi yno cewch olygfeydd ysblennydd o Fae Ceredigion – castell i gipio’r dychymyg!
Mae’r gaer hon, gyda’i chymesuredd bron yn berffaith, yn gampwaith – er na chafodd erioed ei gorffen. Hwn oedd yr olaf o’r cadarnleoedd brenhinol a grëwyd gan Edward I yng Nghymru. Roedd pedwar cylch o amddiffynfeydd, yn cynnwys muriau uchel a ffos gyda’i doc ei hun. Roedd y waliau allanol yn frith o ddolenni saeth – 300 ohonynt.
Mae Dolbadarn yn gastell Cymreig, yn codi’n syfrdanol uwchben dyfroedd Llyn Padarn a Pheris, gan warchod Bwlch Llanberis. Roedd unwaith yn rhan hanfodol o amddiffynfeydd teyrnas Gwynedd. Mae’n debyg mai Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) a’i cododd ar ddiwedd y 12fed ganrif neu ddechrau’r 13eg ganrif. Erbyn heddiw mae’r tŵr crwn cadarn yn cynnig golygfeydd gwych o chwareli llechi’r ardal.
Castell canoloesol, caer a phlasty mawreddog ger y Trallwng yw Castell Powys. Mae’r castell yn adnabyddus am ei diroedd helaeth a deniadol, yn cynnwys gerddi ffurfiol, terasau, parcdir a pharc ceirw. Mae hefyd yn cynnwys Amgueddfa Clive – sy’n gartref i fwy na 1,000 o eitemau o India a Dwyrain Asia wedi’u casglu gan Clive o India a’i fab.
Caer filwrol oedd Castell y Waun yn wreiddiol, a’i leoliad wedi’i ddewis yn ofalus i wneud y mwyaf o’i amddiffynfeydd. Wedi’i adeiladu ar fryn creigiog ym mhen dyffryn Ceiriog, roedd y tyrau gwylio yn rhoi golwg strategol dros fryniau a dyffrynnoedd yr ardal. Heddiw mae’r castell yn enwog am ei erddi, gyda gwrychoedd ywen, borderi blodau, gerddi cerrig a therasau o fewn parc a grëwyd yn y 18fed ganrif.