Taith gerdded drwy Gymru o'r cyfnod Celtaidd hyd heddiw yw Sain Ffagan – un o amgueddfeydd awyr agored mwyaf blaenllaw Ewrop ac atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru. Ar agor i'r cyhoedd ers 1948, saif yr amgueddfa ar dir a gerddi godidog Castell Sain Ffagan, maenordy o ddiwedd yr 16eg ganrif a roddwyd i bobl Cymru gan Iarll Plymouth. Yn amgylchynu'r Castell mae tir a gerddi hardd, gan gynnwys Gardd Eidalaidd a gardd teim. Mae pyllau pysgod, ffynhonnau, celli merwydden, gwinwydd a gardd rosod yn dod ag amrywiaeth a chyfoeth o liw i dir yr Amgueddfa.
www.amgueddfa.cymru/sain-ffagan
Ynys fechan yw Echni, llai na hanner milltir o led, sy'n drysor cudd ym Môr Hafren. Mae’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Gwarchodfa Natur Leol gyda golygfeydd helaeth o arfordiroedd Cymru a Lloegr.
www.cardiffharbour.com/flatholm/
Mae Gerddi Dyffryn yn gorchuddio mwy na 55 erw ac yn hafan heddychlon ar gyrion Caerdydd. Gydag uchafbwyntiau tymhorol drwy gydol y flwyddyn mae'r gerddi'n cynnwys y casgliad pren gorau yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Crwydrwch drwy ystafelloedd gardd cyfeillgar gan gynnwys yr Ardd Pompeii, y Cwrt Palmant, y Pwll Adlewrychu a’r Ardd Ganoldirol. Mae yno hefyd dŷ gwydr a choedfa fawr hefyd sy'n cynnwys coed o bob cwr o'r byd yn ogystal â man chwarae boncyffion sy'n berffaith i blant ac oedolion.
www.nationaltrust.org.uk/dyffryn-gardens
Saif gwarchodfa natur leol Llynnoedd Garn ar hen domen a phwll glo, ond yn dilyn cynllun adfer helaeth mae bellach yn ardal hardd gyda llynnoedd a glaswelltiroedd yn darparu cynefin a thir bridio amrywiol ar gyfer amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Wrth grwydro’r llynnoedd cadwch lygad am yr ehedydd a’r myniar, y pibydd coesgoch a’r gwyach bach, a’r hwyiaid wrth gwrs. Mae'n fan cychwyn gwych ar gyfer teithiau cerdded drwy'r Tirlun Diwydiannol gyda nifer o leoedd ar gyfer picnic.
www.visitblaenavon.co.uk/en/VisitBlaenavon/ThingsToDo/GarnLakes
Mae Tŷ a Pharc Bedwellty yn lleoliad rhestredig Gradd II hynod fywiog a hanesyddol, sy'n cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau dathlu a gweithgareddau teuluol. Lleolir y tŷ a’i erddi hardd ym mharc prydferth Tredegar.
www.bedwelltyhouseandpark.co.uk
Mae Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn drysor cudd go iawn – hafan i fywyd gwyllt a ffefryn gyda cherddwyr, beicwyr, a phobl sy'n caru natur. Mae'n un o'r dyfrffyrdd hardd a heddychlon sy'n dilyn Dyffryn Wysg drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r rhan ogleddol yn rhan o Lwybr Troed Hir Llwybr Taf, llwybr 55 milltir i’w gerdded neu ei feicio sy’n dechrau ym Masn Aberhonddu a gorffen yng Nghaerdydd.
Saif Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd rhwng Aber Afon Hafren ac Afon Wysg ar arfordir De Cymru. Perchnogion y warchodfa yw Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n ei reoli mewn partneriaeth ag RSPB Cymru, ac mae’n fwyaf adnabyddus am ei hamrywiaeth o adar gwlypdir, o'r titw ffa hardd i'r crëyr bach copog brawychus! Yn yr hydref, gellir gweld y nico yn bwydo a'r drudwy yn nythu, a cadwch lygad am bibydd y mawn, y pibydd coesgoch a phioden y môr yn chwilota’n y mwd.
www.rspb.org.uk/reserves-and-events/reserves-a-z/newport-wetlands/
Saif Fferm Gymunedol Greenmeadow mewn dros 120 erw ac mae yno amrywiaeth eang o anifeiliaid pedigri a brîd prin i’w cyfarfod yn agos. Mae gweithgareddau dyddiol yn cynnwys arddangosiadau godro a teithiau tractor a threlar, yn ogystal â gweithgareddau ychwanegol yn ystod gwyliau'r ysgol a digwyddiadau tymhorol gydol y flwyddyn.
www.greenmeadowcommunityfarm.org
Dinefwr – gwlad hudolus o rym a dylanwad am 2,000 o flynyddoedd a mwy a lle eiconig yn hanes Cymru. Yn y 12fed ganrif, roedd y Castell ym meddiant Yr Arglwydd Rhys, rheolwr teyrnas hynafol Deheubarth. Gwelodd ei deyrnasiad gyfnod prin o heddwch a sefydlogrwydd a arweiniodd at flodeuo diwylliant, cerddoriaeth a barddoniaeth Cymru.
www.nationaltrust.org.uk/dinefwr/
www.cadw.gov.wales/visit/places-to-visit/dinefwr-castle/
Mae ystâd Llanerchaeron yn cynnwys fferm, gerddi cysgodol, llyn, a rhandir Sioraidd prydferth yng nghesail coediog Dyffryn Aeron. Fe’i cynlluniwyd yn y 1790au, ac mae'n enghraifft gyflawn o waith cynnar John Nash. Mae ganddo iard ei hun gyda llaethdy, golchdy, bragdy a thŷ halltu sy’n rhoi profiad llawn o fywyd y byddygions a’r gweison. Mae gerddi cysgodol y gegin, y lawnt bleser, y llyn addurnol a’r parcdir yn berffaith am deithiau cerdded tawel.
www.nationaltrust.org.uk/llanerchaeron
Mae’r gerddi yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, yn atyniad ymwelwyr a chanolfan ymchwil a chadwraeth botaneg, ac yn gartref i dŷ gwydr un-rhychwant mwyaf y byd sy'n 110 m (360 troedfedd) o hyd a 60 m (200 troedfedd) o led. Mae’r 568 erw o gefn gwlad hardd hefyd yn cynnwys Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain, amrywiaeth hudolus o erddi thematig a gwarchodfa natur genedlaethol.
Daeth Aberglasni yn enwog wedi ymddangos ar gyfres deledu'r BBC A Garden Lost in Time ar ôl cael eu hadfer. Heddiw, mae'n un o erddi gorau Cymru. Y canolbwynt yw’r Ardd Elizabethaidd sydd wedi'i hadfer yn llawn – yr unig enghraifft o’i bath sy’n goroesi yn y DU heddiw. Gall ymwelwyr grwydro deg erw i fwnhau amrywiaeth o ugain o erddi – o‘r ffurfiol a’r coediog, i’r egsotig a’r modern. Mae’r plasty rhestredig Gradd II* hefyd wedi'i adfer yn llawn.
System ogofâu 17 cilometr o hyd yw Dan yr Ogof, yn cynnwys amrywiaeth anhygoel o ddiferfeini a fferfeini. Gall teuluoedd fwynhau'r trac cartio Jwrasig neu Faes Chwarae Antur Barney – paradwys antur dan do o sleidiau, dringfeydd rhaffau, twneli a llwybrau uchel. Mae yno bentref o Oes yr Haearn a Fferm Fictoraidd hefyd.
Dyma hafan gwlyptir agored sy’n gyfoeth o fyd natur. Crwydrwch y paradwys anghyffredin a gweld fflamingos ffantastic neu fwydo’r gwyddau a’r hwyaid! Gyda gwlyptiroedd yn llawn golygfeydd a synau natur, mae digon i’w weld a’i wneud!
www.wwt.org.uk/wetland-centres/llanelli/experience/
Tŷ gwydr mawr cyhoeddus yw Plantasia wedi'i leoli ym mharc manwerthu Parc Tawe, Abertawe. Camwch drwy goeden enfawr i mewn i goedwig-law go iawn a threuliwch y diwrnod yn darganfod y byd bywiog a hudolus hwn. Cropiwch drwy'r prysgwydd, dod wyneb yn wyneb â chrocodeil, a dringo’n uchel i’r canopi gyda'r parotiaid! Profiad trofannol byw i’r teulu cyfan ymgolli.
Sai Castelll Penrhyn ar y tir mawr, uwchlaw’r Fenai yng nghysgod copaon Eryri, gyda golygfeydd o’r chwarel a’r porthladd lle allforiwyd y llechi i bedwar ban byd. Mae yma ystafelloedd moethus enfawr, grisiau gothig a chelf gain, a’r cyfan wedi'i amgylchynu gan barcdir coediog braf i’w grwydro, a gardd furiog sy'n rhagddyddio'r Castell ac yn darparu hafan dawel i ymlacio.
www.nationaltrust.org.uk/Penrhyn-Castle
Plas Newydd yw cartref hynafol Marcwis Ynys Môn ar lan Afon Menai. Mae’r plas yn gartref i furlun enwog Rex Whistler a gallwch ddysgu hefyd am hanes y teulu. Mwynhewch olygfeydd gwych o fynyddoedd Eryri, gardd wanwyn, gardd helyg, teras haf a hydrangeas lliwgar, a cadwch lygad am y wiwer goch sydd wedi dychwelyd dir y plas.
www.nationaltrust.org.uk/Plas-newydd
Gardd fyd-enwog llawn llecynnau tawel, lawntiau ysgubol, terasau mawreddog a choetir cyfoethog. Cafodd ei meithrin dros 150 o flynyddoedd gan gasglu planhigion o bedwar ban byd nes dod yn hafan hardd yng nghysgod Carneddau Eryri sy’n wledd i'r synhwyrau. Rhaid i chi weld y bwa laburnum ysblennydd bob gwanwyn!
www.nationaltrust.org.uk/bodnant-garden
Parc gweithredol, byw yw Parc Cenedlaethol Eryri sy’n ymestyn dros 823 milltir sgwâr o dirwedd amrywiol, Yn ogystal â bod yn Barc Cenedlaethol mwyaf Cymru, mae’n gartref i fynydd uchaf Cymru, y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru, ac yn gartref i dros 26,000 o bobl. Ymwelwch â'i hardaloedd mwy gwledig neu un o'i phentrefi prydferth fel Betws y Coed a Beddgelert. Mae Eryri yn llawn diwylliant a hanes lleol, gyda mwy na hanner ei phoblogaeth yn siarad Cymraeg.
Plas Tan y Bwlch yw Canolfan Astudiaethau Amgylcheddol Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r gerddi sy’n amgylchynnu’r plasty Gothig Fictoraidd yn rhyfeddol, ac yn gartref i rai o’r coed mwyaf o’u bath ym Mhrydain, gan gynnwys Cedrwydden Goch Japan. Yng nghysgod y waliau mae casgliad rhododendron ac azaelea sy’n blodeuo’n y gwanwyn, gan gynnwys twnnel rhododendron 120 mlwydd oed.
www.snowdonia.gov.wales/study-centre
Portmeirion yw'r pentref twristiaeth arfordirol enwog a ddyluniwyd ac a adeiladwyd yn yr arddull Eidalaidd gan y pensaer enwog o Gymru, Syr Clough Williams-Ellis, rhwng 1925 a 1975. Mae wedi bod yn lleoliad sawl ffilm a drama, gan gynnwys sioe deledu The Prisoner yn y 1960au. Crwydrwch ar hyd strydoedd y pentref hudolus a mwynhau’r gerddi hardd ar eich ffordd i lawr i’r traeth.
Un o drysorau cudd Ynys Môn yw’r gerddi hardd ym Mhlas Cadnant sydd wedi’u hadfer mor gynnil. Crwydrwch y gerddi hanesyddol a'r parcdir hardd, neu ewch am dro hamddenol i lawr at raeadrau diarffordd Afon Cadnant. Mae’n un o gyfrinachau gorau’r Gogledd oedd ar restr fer Gwobr Gardd y Flwyddyn Tai Hanesyddol 2019