GRAFT broject garddio yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Mae GRAFT yn broject garddio cydweithredol rhwng menter 14-18 Now, yr artist Owen Griffiths ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Roedd y cymal cyntaf rhwng Ionawr a medi 2018 yn rhychwantu'r un cyfnod â pherfformiad theatr Nawr yr Arwr. Nod y project oedd llunio gardd yn yr iard rhwng muriau'r Amgueddfa all gael ei gweld drwy ffenestri mwyafrif yr orielau.

Cyfrannodd nifer o grwpiau cymunedol at y gwaith adeiladu, o Ofal Diwrnod West Cross i fyfyrwyr hŷn o ardaloedd difreintiedig a Chymunedau'n Gyntaf y ddinas. Mae pobl hen ac ifanc wedi bod yn cydweithio i ddysgu sgiliau newydd megis trin coed a metel, a garddio, a chyfle i weithio tuag at gymwysterau. Mae pob cyfrannwr yn wirfoddolwr a bob dydd Gwener byddan nhw'n cyfarfod i weithio, gwneud ffrindiau a magu hyder. Doedd rhai erioed wedi bod i'r Amgueddfa cyn hyn, a nifer heb feithrin sgiliau ymarferol.

Mae'r ardd yn fan i dyfu bwyd mewn modd cynaliadwy ac organig, gan greu tirlun bwytadwy i sbarduno cyfraniad a thrafodaeth. Caiff llysiau a blodau eu cynhyrchu a'u rhoi i nifer o grwpiau lleol sy'n darparu ar gyfer pobl mewn angen megis Matts House, Ogof Adullam a chanolfan ffoaduriaid Abertawe.

"Yn ei hanfod, stori yw Graft. Stori am harddwch, am ychwanegu at hud Abertawe, am greu cysylltiadau trwy weithio fel tîm, am gyfeillgarwch ac am roi gyda chalon hapus, nid am ennyd na thymor, ond i greu gwaddol ar gyfer y gymuned."

Anca Polgar, Gwirfoddolwr GRAFT