Lleoliadau Ffilmio
Gofodau Diwydiannol ar gyfer Ffilm a Ffotograffiaeth
Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn llawn gofodau diwydiannol i'w defnyddio gan gynhyrchiadau ffilm a theledu, ffotograffiaeth ffasiwn, cyfweliadau a darlledu byw.
Mae'r orielau a'n Neuadd Fawr yn wrthgyferbyniad modern a slic, sy'n ddelfrydol ar gyfer sioeau panel neu raglenni trafod.
Y Stôr Gasgliadau - Trysor Cudd Hanes Cymru
Mae mwy i'w weld yn y stôr gasgliadau - warws lawn trysorau o bob math.
O jiraff i gerbyd trên (i fodel enfawr o'r cawr, John Charles), mai'r stôr gasgliadau yw'r lle delfrydol ar gyfer tynnu lluniau nwyddau a ffasiwn; ffilmio cyfweliad neu fideo cerddoriaeth.
Croeso i Bawb
Os ydych chi'n grŵp cymunedol, yn elusen gofrestredig, gorff addysg ffurfiol neu'n rhan o Lywodraeth Cymru, cewch logi ystafell am ddiwrnod am bris gostyngedig.
Cysylltwch â ni i weld sut allwn ni eich helpu.