Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb.

Rydyn ni wir yn credu hyn. Rydyn ni'n gofalu am y casgliadau cenedlaethol ac am i chi eu mwynhau ac ymwneud â nhw, am i chi ymweld â'n safleoedd i weld digwyddiadau ac arddangosfeydd, a chanfod lle i Amgueddfa Cymru yn eich calon.

Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed dros y blynyddoedd diwethaf i wella sut mae ein casgliadau, ein harddangosfeydd a'n digwyddiadau yn cynrychioli ein cymunedau. Mae nifer o'r projectau hyn ar y gweill, a bydd hi'n bleser rhannu rhagor o wybodaeth cyn bo hir.

Rydyn ni am weithio gyda phobl Cymru i roi adlewyrchiad teg o straeon ein cenedl. I ddysgu mwy am sut i gyfrannu, cysylltwch â ni

Beth ydyn ni’n ei wneud?

Logo Dim Hiliaeth Cymru

Mae angen i ni i gyd sefyll yn erbyn hiliaeth o bob math. Ry’n ni’n ymuno â Race Council Cymru i ddweud NA wrth hiliaeth yng Nghymru

  • Mae Dad-drefedigaethu'r Casgliadau yn broject parhaus i edrych o'r newydd ar ein casgliadau, sut gyrhaeddon nhw Amgueddfa Cymru, a sut rydyn ni'n rhannu eu straeon â chi. Rydyn ni wedi cyhoeddi Siarter Dad-drefedigaethu sy'n amlinellu sut fyddwn ni'n gwneud mwy i ddadorchuddio hanesion cudd ein casgliadau.
  • Fel sefydliad, ry'n ni wedi ymrwymo i’r polisi dim goddefgarwch i hiliaeth yng Nghymru a gallwch chi wneud hefyd. Darganfyddwch fwy: www.zeroracismwales.co.uk
  • Rydym yn cydweithio â chymunedau du ar draws Cymru i adeiladu ymddiriedaeth a dealltwriaeth, a gofyn sut i wneud gweithio yn yr Amgueddfa yn ddeniadol i guraduron, cadwraethwyr, dylunwyr, technegwyr, palaeontolegwyr a llawer mwy.
  • Rydym yn adolygu casgliadau trefediagethol a hiliol a’u dehongliad gyda grwpiau cymunedol priodol ar frys.
  • Rydym wrthi’n casglu hanesion, hanesion modern, diwylliant materol a gwaith celf cymunedau du yng Nghymru ac yn adolygu’r casgliadau yma er mwyn adlewyrchu eu gwir hanes yn well.
  • Rydym yn meithrin sgiliau ac yn addysgu ein staff ym maes rhyngblethedd, BLM a chymunedau du, gan gynnwys defnydd iaith a therminoleg. Mae hyn yn cynnwys Ymddiriedolwyr, Cyfeillion, Noddwyr a Gwirfoddolwyr.
  • Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn un o’n blaenoriaethau pennaf ac rydym wedi yrwymo i barhau â’r gwaith hwn.
  • Engraifftau o brosiectau cyfredol:

  • Ail-fframio Picton: Rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar greu arddangosfa newydd i ailddehongli’r portread o Syr Thomas Picton ac i arddangos gwaith artistig newydd.
  • Lansio cylchgrawn celf digidol newydd, Cynfas, i hyrwyddo iechyd a llesiant pobl Cymru drwy’r celfyddydau a diwylliant. Mae’r rhifyn cyntaf hwn yn canolbwyntio ar Fis Hanes Pobl Dduon ac mae wedi’i olygu gan Gynhyrchydd Amgueddfa Cymru, Umulkhayr Mohamed.
  • Gweithdai ieuenctid y Panel Cynghori Is-Sahara (SSAP) i ail-ddehongli tri gwrthrych o’r casgliadau.
  • (Un)Seen (Un)Heardyn Amgueddfa Cymru. Ailddehongli oriel Rotunda Goscome John dan arweiniad y Cynhyrchydd Umulkhayr Mohamed i amlygu cynrychiolaeth a lleisiau pobl ddu.
  • Datblygu perthynas gyda threfnwyr Black Lives Matter Caerdydd i gasglu profiadau heddiw a diwylliant materol y mudiad yng Nghymru.
  • Yn ddiweddar rydym wedi derbyn nifer o blacardiau BLM a set o ddelweddau digidol a roddwyd i ni gan fyfyriwr-ffotograffydd lleol. Casglwyd y placardiau yn dilyn gwrthdystiad BLM ym mis Mehefin, gwnaeth ein Curadur Hanes Du gais or llwyfan yn gofyn i'r mynychwyr adael eu placardiau ar ddiwedd y rali er mwyn i'r Amgueddfa eu casglu.