Hafan y Blog

Dydd Sadwrn i Deuluoedd Tŷ Hafan

Antonella Chiappa, Hwylusydd Addysg, 15 Mawrth 2024

Mae Amgueddfa Cymru wedi dechrau partneriaeth gyda Hosbis Plant Tŷ Hafan i roi cyfle i blant a phobl ifanc sydd â salwch sy’n cyfyngu ar eu bywyd, a’u teuluoedd, i ymgysylltu â’n hamgueddfeydd a’u casgliadau. 

Fel rhan o’n rhaglen addysg i deuluoedd, rydyn ni’n cynnal Dydd Sadwrn i Deuluoedd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Fel rhan o’r Diwrnodau i Deuluoedd, gall teuluoedd Tŷ Hafan gymryd rhan yn y chwarae, gweithgareddau a phrofiadau synhwyraidd, llwybrau a chrefftau. Mae llawer yn meddwl fod amgueddfeydd yn llefydd anhygyrch ac anodd i ymweld â nhw, ond nod Dydd Sadwrn i Deuluoedd yw ennyn diddordeb teuluoedd a dangos iddyn nhw beth sydd gan yr amgueddfa i’w gynnig.

Mae Dydd Sadwrn i Deuluoedd yn cael ei gynnal bob deufis a gyda thema sy’n seiliedig ar gasgliadau’r amgueddfa, o waith celf Argraffiadol sydd yn ein horielau a sbesimenau pryfeteg yng Nghanolfan Darganfod Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, i helfa drychfilod, cân yr adar a thai crwn Oes yr Haearn yn Sain Ffagan. Mae rhai enghreifftiau o ddiwrnodau gweithgareddau diweddar yn cynnwys ‘Dan y Môr’, ‘Antur yr Hydref’ a ‘Diwrnod Darganfod Deinosoriaid’! 

Mae elfennau synhwyraidd wrth wraidd pob un o’n diwrnodau i deuluoedd, er mwyn sicrhau fod y teulu cyfan yn mwynhau eu hymweliad, yn creu atgofion gyda’i gilydd a gyda lle diogel i sgwrsio, cwrdd â theuluoedd eraill a chrwydro’r amgueddfa. 

Diolch i bob un o deuluoedd a staff Tŷ Hafan a’u hysbryd anhygoel a phositif.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.