Hafan y Blog

Archwilio Natur yn Sain Ffagan!

Hywel Couch, 26 Ebrill 2011

Wedi misoedd o gynllunio a pharatoi, lansiwyd project Archwilio Natur yn Sain Ffagan yn swyddogol yn gynharach y mis hwn. Ar 2 Ebrill, cynhaliwyd diwrnod yn llawn gweithgareddau natur a bywyd gwyllt. Roedd y tywydd yn wych a bu cannoedd o ymwelwyr â’r amgueddfa wrthi yn edrych ar adar, gwylio ystlumod, archwilio’r pwll ac yn gwneud gweithgareddau celf a chrefft. Rwy’n gobeithio i bawb fwynhau’r diwrnod cymaint ag y gwnaethon ni! Hoffwn ddiolch i bawb alwodd draw, yn enwedig Daniel, sy’n torri’r rhuban ar y guddfan adar yn y ffotograff.

 

Gan fod y gwanwyn gyda ni ers tipyn bellach, mae Sain Ffagan yn llawn bywyd gwyllt unwaith eto! Mae’r ystlumod pedol lleiaf wedi dychwelyd i’r Tanerdy, fe gyfrais i 25 ohonyn nhw ddoe! Yn ddiweddarach yn yr haf bydd y benywod yn geni eu cenawon gan taw dyma eu man clwydo mamolaeth. Beth am ddod draw i’r Tanerdy a’u gwylio ar y camera is-goch arbennig?

 

Mae’r pyllau yn y Tanerdy’n llawn bywyd unwaith eto. Mae’r fadfall dd?r, y cychwr bolwyn, hirheglyn y d?r, gwas y neidr a llawer mwy yno yn eu cannoedd. Mae’n si?r taw’r Tanerdy yw’r adeilad gorau am fywyd gwyllt ar y safle. Dychwelodd y gwenoliaid sy’n clwydo yno dros yr haf yr wythnos ddiwethaf. Mae’n wych gallu gweld cymaint o fywyd gwyllt mor agos.

 

Fel rhan o’n project Archwilio Natur, byddwn yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol misoedd y gwanwyn a’r haf, o deithiau cerdded boreol i weld yr adar i deithiau yn yr hwyr i weld yr ystlumod. Cadwch lygad ar wefan yr Amgueddfa am ragor o wybodaeth.

 

Gan fod y Tanerdy yn lle mor dda am fywyd gwyllt, bydda i’n treulio’r diwrnod yno ar ddydd Sadwrn 30 Ebrill. Dewch draw i ddysgu mwy am yr ystlumod, y madfallod d?r a’r bywyd gwyllt arall sydd wedi ymgartrefu yn yr adeilad hwn!

http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/digwyddiadau/?event_id=4792

Hywel Couch

Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.