Ffilmio ar Leoliad
![](/media/35963/thumb_1600/cardiff_venue.jpg)
Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gyfleus ac unigryw - yn llawn lleoliadau amrywiol ar gyfer ffilm, teledu a ffotograffiaeth.
![](/media/37363/thumb_1600/DW-12_Ep10_15144.jpg)
Gofodau Nodweddiadol
Mae gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ofodau cyfoes, mawr; orielau moethus; ystafelloedd wedi'u haddurno'n glasurol a storfeydd casgliadau hynod. I weld sut y gallwn ni weddu i'ch briff a'ch cyllid,
Ebostiwch y tîm.![](/media/37358/thumb_1600/DW-12_Ep10_15155.jpg)
Ymweld â'r Safle
'Dyn ni'n falch o fod wedi gweithio gyda rhai o raglenni mwyaf y BBC, fel Sherlock a Doctor Who, yn ogystal a nifer helaeth o gwmnïau annibynnol ar raglenni panel, cyfweliadau, perfformiadau a rhaglenni dogfen.
I weld beth sydd ar gael ar y safle, gan gynnwys stafelloed nad sydd ar agor i'r cyhoedd:
Trefnwch ymweliad. Diolch i BBC Cymru Wales am ddefnydd o luniau o ffilmio Doctor Who.![](/media/35787/Screen-Shot-2015-07-23-at-14.32.12.png)
Darlledu Digwyddiadau Byw
Ar gyfer digwyddiadau byw a darllediadau allanol, mae modd llogi ein Neuadd Fawr ar gyfer seremonïau gwobrau a lawnsiadau.
Mae lle i 340 o bobl ar theatr ein safle, sydd wedi ei addurno'n syml mewn steil clasurol.
![](/media/35936/venue_hire_cardiff_art.jpg)
Cyfweld, Perfformio a Fideos Cerddoriaeth
Yn ein orielau cyfoes fe ddewch o hyd i ofodau glân, enfawr, sy'n llawn celf a gosodweithiau unigryw.
Cysylltwch â ni i weld beth allwch chi ei wneud yno.![](/media/35937/venue_hire_cardiff_gallery.jpg)
Cefnogwch Ni
Rydym ni'n darparu mwy o gyfleon addysg anffurfiol nag unrhyw sefydliad arall yng Nghymru, a'n gofalu am dros bum miliwn o wrthrychau hanesyddol a gwyddonol.
Wrth logi lleoliad ffilm, rydych yn cefnogi ein gwaith fel elusen, wrth i ni ddarparu cyfleon, arddangosfeydd a digwyddiadau i dros hanner miliwn o ymwelwyr bob flwyddyn.
![](/media/35940/venue_hire_gallery1.jpg)
Newyddion a'r Wasg
I weld be' sy' 'mlaen yn yr Amgueddfa, neu i gysylltu â Swyddfa'r Wasg, ymwelwch â
Newyddion a'r Wasg.