Parti Nadolig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Lawr lwythwch ein pamffled Parti Nadolig

Beth am gynnal eich parti Nadolig 2024 yn lleoliad mwyaf hanesyddol Caerdydd?

Yng nghanol y ddinas mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gyda’i Phrif Neuadd eiconig, ei grisiau marmor ysblennydd a’i nenfwd uchel godidog yn barod i’ch croesawu chi.

Gyda lle i hyd at 270 o bobl ar gyfer swper a dawns, neu 320 ar gyfer swper ffurfiol, bydd hi’n noson Gymreig Nadoligaidd i’w chofio i chi a’ch gwesteion o dan y gromen.

Mae dyddiadau’n brin, felly cysylltwch am fwy o wybodaeth, i drefnu ymweliad â’r safle ac i archebu’r lleoliad ar gyfer eich parti Nadolig.

Cysylltwch a ni