Ffermdy Hendre'r-ywydd Uchaf
Tŷ neuadd â ffrâm nenfforch yw hwn. Fe'i codwyd ym 1508, tua diwedd yr Oesoedd Canol, ac mae'n nodweddiadol o ffermdai safonol Cymru yn y cyfnod hwnnw. Ceir pum rhan i'r adeilad. Gwartheg a cheffylau oedd yn byw yn y ddwy isaf, roedd gweithdy yn y rhan ganol a neuadd agored ac ystafell wely yn y ddwy uchaf. Ffrâm goed sydd i'r waliau allanol ac mae'r paneli wedi'u llenwi â phlethwaith o gyll a dwb clai.
Mae'r paneli dwb a'r gwaith coed wedi'u gwyngalchu yn ôl arfer yr Oesoedd Canol. Mae'r lle tân agored yng nghanol y neuadd a'r mwg yn dianc trwy'r to a'r ffenestri di-wydr. Symudwyd yr adeilad i'r Amgueddfa ym 1954.
Rhif yr Eitem
57.42
Derbyniad
Donation, 1952
Original Location
Llangynhafal, Clwyd (Sir Ddinbych)
Original Construction
1508
Moved to St Fagans
1956
Opened to the Public
1962