Sgubor Stryd Lydan

Ysgubor ffrâm nenfforch a phren a grëwyd trwy gysylltu dau wahanol adeilad. Mae'r rhan hynaf, sef ysgubor ffrâm nenfforch, yn dyddio o tua 1550. Codwyd adeilad ffrâm bren gerllaw tua 1600 ac fe gysylltwyd y ddau yn nes ymlaen i wneud un adeilad gyda bae mawr agored yn y canol. Gwnaed y waliau o blethwaith o ddellt castanwydd fflat wedi'u plethu trwy estyllod oedd yn rhedeg ar draws.

To o wellt gwenith sydd i'r adeilad. Mae marciau seiri i'w gweld ar lawer o'r coed, gan ddangos bod yr adeilad wedi'i wneud i ddechrau ar y llawr yn iard y saer, a'r coed wedi'u rhifo, cyn ei roi at ei gilydd ar y safle. Ar y domen gron y tu allan, mae peiriant ceffyl a ddefnyddid i yrru injan ddyrnu.

Rhif yr Eitem

50.102

Derbyniad

Donation

Original Location

Llanerch Banna, Penley, Clwyd (Sir Fflint)

Original Construction

c.1550

Moved to St Fagans

1950

Opened to the Public

1951

Oriel