Yn ôl yr hynafiaethydd Rice Meyrick, roedd colomendy yng Nghastell Sain Ffagan yn y 1580au ond allwn ni ddim bod yn siwr mai'r un adeilad oedd hwnnw. Slawer dydd, roedd colomennod yn bwysig am eu cig ffres ac roedd eu tom yn cael ei ddefnyddio i wrteithio gerddi. Mae'r colomendy hwn yn addurnol yn ogystal ag yn ymarferol ac mae'r lantern ffenestrog ar frig y to pyramidaidd yn gadael goleuni i mewn. Gellir dringo ysgol haearn o'r llawr daear i lofft y colomennod uwchben ac mae agoriad yn y to i'r adar ddod i mewn.

Rhif yr Eitem

Original Location

Castell Sain Ffagan

Original Construction

18th century

Opened to the Public

1946