Amser Bwyd

Beth yw ‘bwydydd traddodiadol Cymru’ yn eich tŷ chi? Mae danteithion fel bara brith, cawl a Welsh cakes wedi hen sefydlu eu hunain ar fwydlenni caffis a bwytai Cymru, ond pa fwydydd eraill sy’n perthyn i’r traddodiad?

Gallwch bori’r wefan hon er mwyn cael blas ar y ryseitiau oedd yn cynnal ein cyndeidiau. Cewch gwrdd â chymeriadau sydd bellach wedi hen fynd ond sydd ar gof a chadw yn archif Amgueddfa Werin Cymru. Darllen mwy

Minwel Tibbot

.

Pan ddechreuodd Minwel Tibbott weithio i Amgueddfa Werin Cymru ym 1969, maes hollol newydd oedd astudio traddodiad bwydydd. Sylweddolodd yn fuan nad trwy lyfrau oedd cael y wybodaeth. Teithiodd ar hyd a lled Cymru yn holi, recordio a ffilmio’r to hynaf o wragedd, y mwyafrif ohonynt yn eu hwythdegau. Roedd eu hatgofion yn mynd yn ôl i ddiwedd y 1800au. Y bwydydd a baratoid yn gyson yn y cyfnod hwn yw’r rhai y cyfeirir atynt heddiw fel bwydydd traddodiadol Cymru.

Beth oedd ar gael?

Bryd hynny, ychydig iawn o ddeunyddiau crai oedd ar gael i wraig y tŷ o gymharu â’r hyn sydd ar gael i ni heddiw yn yr archfarchnadoedd. Roedd tipyn o wahaniaeth rhwng cefn gwlad a’r dre hefyd. Parhai’r gymdeithas wledig i ddibynnu’n helaeth ar gynnyrch y tir a’r fferm. A chan mai gwlad fynyddig, wlyb yw Cymru, nid oedd modd tyfu llawer o wenith. Haidd a cheirch oedd y prif gnwd. Ychydig iawn o gig ffres fyddent yn bwyta – cig wedi’i halltu oedd fwyaf cyffredin. Canolbwynt y coginio oedd y tân agored a’i offer berwi, crasu a rhostio.

Os nad yw’r ffordd draddodiadol o wneud pethau yn apelio atoch chi, cewch gyfarwyddyd gan y gogyddes Rhian Gay ar sut i addasu rhai o’r ryseitiau traddodiadol at ein dant ni heddiw.