Cyfle i'r cymuned

Yn aml iawn, mae gan Amgueddfa Cymru gyfleoedd cyffrous i elusennau, sefydliadau’r trydydd sector a grwpiau cymunedol weithio gyda ni mewn partneriaeth a rhannu perchnogaeth o’r amgueddfeydd.

Pan fydd cyfleoedd cymunedol yn codi, byddwn yn gofyn i grwpiau fynegi diddordeb erbyn dyddiad cau. Bydd pob datganiad o ddiddordeb yn cael ei drin yn gyfartal ac yn cael ei gyflwyno er ystyriaeth. Mae Amgueddfa Cymru yn croesawu datganiadau o ddiddordeb gan bob rhan o’r gymuned.

Does dim cyfleoedd cymunedol ar gael ar hyn o bryd. Mae Amgueddfa Cymru’n gweithio gyda chymunedau mewn sawl ffordd wahanol. I gael rhagor o wybodaeth a syniadau ar sut i gymryd rhan, beth am fwrw golwg ar ein

hastudiaethau achos
.

I gael rhagor o fanylion am waith ymgysylltu cymunedol Amgueddfa Cymru, neu i drafod sut all eich sefydliad chi weithio gydag Amgueddfa Cymru,

e-bostiwch yr adran Gwirfoddoli yma
neu ffoniwch 029 2057 3438.