Amgueddfa Cymru a Llywodraeth Cymru

Cyfuno: Creu cyfleoedd drwy ddiwylliant

Mae Amgueddfa Cymru yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i drechu tlodi trwy ddiwylliant a threftadaeth, a sicrhau iechyd a lles gwell. Dyma’r prif bynciau a deddfau sy’n effeithio ar waith Amgueddfa Cymru. Cliciwch ar y dolenni am fwy o fanylion.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae’r Ddeddf hon yn ymwneud â gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol y genedl. Mae’r fideo a’r canllaw i bobl ifanc yn rhoi cyflwyniad i’r Ddeddf. Mae Yr Hanfodion yn nodi’n cyfrifoldebau ni fel corff cyhoeddus a enwir, ac yn amlinellu’r nodau, dulliau o weithio a’r gweithdrefnau monitro.

Cyfuno: Trechu tlodi trwy ddiwylliant

Nod rhaglen Cyfuno yw cael gwared ar rwystrau fel bod modd i bawb elwa ar gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol. Gall cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol ein helpu i feithrin sgiliau, ymgysylltu, magu hunanbarch a dyheadau. Mae Amgueddfa Cymru’n gwneud cyfraniad allweddol tuag at hyn. Rydym ni’n adrodd ar ein gwaith bob chwarter.

Strategaeth Tlodi Plant

Nod Llywodraeth Cymru yw dileu tlodi plant erbyn 2020. Mae’r strategaeth yn cynnwys pum amcan allweddol er mwyn mynd i’r afael â thlodi plant a gwella’r canlyniadau ar gyfer teuluoedd incwm isel yng Nghymru:

  • Lleihau nifer y teuluoedd sy’n byw mewn cartrefi lle nad oes neb yn gweithio
  • Cynyddu sgiliau rhieni a phobl ifanc sy’n byw mewn cartrefi ar incwm isel
  • Lleihau’r anghydraddoldebau sy’n bodoli o ran iechyd, addysg a sefyllfa economaidd plant a theuluoedd trwy wella’r canlyniadau ar gyfer y bobl dlotaf
  • Defnyddio pob opsiwn posibl i greu economi a marchnad lafur gref sy’n cefnogi’r agenda trechu tlodi a lleihau tlodi mewn gwaith yng Nghymru
  • Helpu teuluoedd sy’n byw mewn tlodi er mwyn cynyddu lefelau incwm teuluoedd trwy gynnig cyngor am ddyled ac arian, cymryd camau i fynd i’r afael â’r premiwm tlodi a gweithredu i leihau effeithiau diwygiadau lles.

Mae rhagor o wybodaeth am y strategaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.