Gofalwyr
Diwrnod Hawliau Gofalwyr
A ydych chi’n un o’r 400,000 o oedolion a phobl ifanc sy’n ofalwyr yng Nghymru? Neu ydych chi wedi bod yn ofalwr yn y gorffennol? Os felly, hoffem glywed oddi wrthych.
Ar Ddydd Iau 26 Tachwedd 2020, Diwrnod Hawliau Gofalwyr, rydym yn cynnal digwyddiad ar-lein i’n gofalwyr:
- lansio ein harolwg i ofalwyr a fydd ar agor tan 17 Rhagfyr.
- rhannu sesiynau ‘blasu’ byr ar-lein o ddigwyddiadau diweddar, ar gael i’w gwylio tan 10 Rhagfyr.
- cyflwyno trafodaeth fyw er mwyn cael barn gofalwyr.
Gellir canfod manylion llawn a dolenni at yr holl bethau hyn isod.
Arolwg Gofalwyr
Mae ein harolwg yn amlinellu rhywfaint o’r syniadau sydd gennym ar hyn o bryd ynglŷn â pha gyfleoedd y gallwn eu cynnig i ofalwyr a sut y byddwn yn mynd ati i’w darparu. Rydym yn awyddus iawn i glywed syniadau eraill gan ofalwyr neu gyn-ofalwyr, a gadael i chithau ein harwain o ran pa feysydd gwaith y dylem eu blaenoriaethu’n gyntaf.
Diolch i bawb sydd wedi ymateb i’r arolwg gofalwyr. Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich barn yn fawr.
Byddwn ni’n adrodd ar y prif gasgliadau a’n cynlluniau at y dyfodol erbyn diwedd Ionawr 2021.
Mae’r arolwg bellach ar gau, mae croeso i chi e-bostio unrhyw sylwadau neu gwestiynau ar sut i groesawu a chefnogi gofalwyr at: gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk
Digwyddiad ar-lein a Sesiynau blasu
Mae’n bosib na fyddwch yn ymwybodol o’r ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau sy’n cael eu cynnal gennym ar hyn o bryd. Rydym wedi trefnu digwyddiad Facebook y gallwch ymuno ag ef a thrwy’r dydd ar 26 Tachwedd byddwn yn rhannu enghreifftiau byr a bachog o’r hyn y mae ein hamgueddfeydd yn eu gwneud er mwyn i chi allu gwylio neu gymryd rhan. Bydd y rhain ar gael am bythefnos tan 10 Rhagfyr.
Diwrnod Hawliau Gofalwyr: Digwyddiad Facebook
Trafodaeth fyw ar Ddydd Iau 26 Tachwedd
Rydym yn trefnu trafodaeth fyw ar-lein lle gallwch ofyn cwestiynau i ni a hefyd rannu unrhyw syniadau sydd gennych. Mae hon yn agored i bob gofalwr neu gyn-ofalwr, gallwch aros am faint bynnag y dymunwch. I ddweud diolch am wneud amser i ddod i siarad â ni, bydd pob person sy’n bresennol yn derbyn tocyn am ddim ar gyfer un o’n digwyddiadau ar-lein.
I ymuno â ni, neu i gael gafael ar ragor o fanylion ynglŷn â strwythur y sesiwn, ewch i’r ddolen Eventbrite sy’n cynnwys y manylion llawn. Bydd angen i chi archebu tocyn Eventbrite am ddim er mwyn dod i’r sesiwn. Mae tocynnau ar gael er mwyn cymryd rhan yn Saesneg neu’n Gymraeg (bydd angen i ni gael gwybod ychydig ddyddiau ymlaen llaw os oes rhywun wedi archebu tocyn iaith Gymraeg er mwyn i ni allu cadarnhau cyfieithydd ar y pryd).