Sgwrsio â chi

Arddangosfa Hollti a Naddu Llechi

Bedwyr Williams (ganwyd 1974)
Bard Attitude
Prynwyd gyda chefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Derek Williams, 2009
© Bedwyr Williams
Wrth i ni gynllunio ar gyfer dyfodol Amgueddfa Cymru, rydyn ni'n cynnal sgyrsiau â'n cymunedau am ein camau nesaf. Rydyn ni'n ystyried sut i wella eich profiad gyda ni a gwneud ein casgliadau mor hygyrch â phosibl.
Rydyn ni'n canolbwyntio ar y canlynol:
Gwefan newydd ar gyfer celf gyfoes
Rydyn ni'n creu gwefan newydd i rannu ein casgliad celf gyfoes â phobl Cymru, ac rydyn ni angen eich help chi! Trwy lenwi ein holiadur, byddwch yn ein helpu i lunio'r wefan newydd hon, a gallech chi ennill gwobr. Paentiadau o bobl neu frasluniau syml? Hoffem ni wybod sut rydych chi'n meddwl y gallwn ni roi mwy o sylw i gelf gyfoes o'r casgliad. Rhowch wybod i ni trwy lenwi’n holiadur
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Rydyn ni'n gweithio gyda chwmni Rural Office for Architecture a Ways of Working, sefydliad dan arweiniad artistiaid, i ailystyried y profiad amgueddfaol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd cyfres o weithdai yn cael eu cynnal gyda grwpiau cymunedol ar ddyddiau Llun yn ein geogromen tan Ionawr 2022. Gall pawb gymryd rhan yn ystod yr wythnos trwy ychwanegu eich syniadau at y cardiau tu allan i'r geogromen. Fe allwch chi hyd yn oed ychwanegu eich cwestiynau eich hunain at y rhestr.