Cystadlaethau
Ewch â'ch tocyn Loteri Cenedlaethol i'n siopau amgueddfa am ostyngiad o 20% rhwng 23 Tachwedd - 1 Rhagfyr

Fferm Oes Haearn Bryn Eryr yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Mae pob tocyn Loteri Cenedlaethol yn cefnogi gwaith gwych Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Maen nhw wedi ein helpu i greu hanes yn Sain Ffagan, creu canllaw adnabod newydd ar gyfer malwod dŵr croyw, adfer offer weindio Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru - a llawer mwy.
I ddweud 'diolch o galon' i holl chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, cewch 20% o ostyngiad yn ein siopau amgueddfa rhwng y 23 Tachwedd - 1 Rhagyfr. Yn ogystal a hyn mae 50% o ostyngiad ar y profiad realiti rhithwir Antur: Y Ddaear yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Dangoswch eich tocyn Loteri Genedlaethol wrth y til i gael eich gostyngiad.
Darllen y Telerau ac Amodau llawn.