Cystadleuaeth Celf Gemau Leonardo da Vinci

Yr enillwr, Owain Bull

Eleni, i nodi 500 mlynedd ers marwolaeth Leonardo da Vinci, rydym yn arddangos deuddeg o ddarluniau gorau'r athrylith yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Fel rhan o ddathliadau Leonardo, cynhaliodd Prifysgol De Cymru gystadleuaeth 'Dyfeisio ac Anatomeg 2D a 3D' i fyfyrwyr Celf Gemau. Y briff i'r myfyrwyr oedd creu dyluniad cysyniadol o gymeriad 2D neu 3D yn seiliedig ar anatomeg a dychymyg, neu ddyluniad yn seiledig ar ddyfeisio a dychymyg.

Dyma ddetholiad o waith y myfyrwyr, gan gynnwys gwaith yr enillydd, sef Owain Bull - myfyriwr ail flwyddyn BA Celf Gemau.

Enillwr: Owain Bull

Mwy o Waith