Wythnos Addysg Oedolion yn Amgueddfa Cymru | 2025

Ystafell glyd gyda llawr coch, waliau a llenni gwyrdd, byrddau a chadeiriau pren, lle tân a lluniau wedi'u fframio ar y waliau.

Menyw wedi gwisgo yn dillad Rhufeinig yn trafod defnyddiau llysieuol gydag ymwelwyr

Fis Medi eleni bydd Amgueddfa Cymru yn dathlu Wythnos Addysg Oedolion unwaith eto ar draws pob un o'n saith amgueddfa gyda rhaglen amrywiol o gyfleoedd i oedolion sy'n dysgu.

Cefnogir y gweithgareddau hyn gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn rhan o ymgyrch Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru. Paid Stopio Dysgu - Wythnos Addysg Oedolion

Rhaglen:

Amgueddfa Wlân Cymru | Meddwlgarach, Cerddoriaeth a Chrefft | Medi 30, 1:00yp-3:00yp

Dathlwch Wythnos Addysg Oedolion yn Amgueddfa Wlân Cymru gyda'r Barddones, Helen Cook a'r Delynores, Delyth Jenkins. Rhaid archebu lle.

Archebu tocyn

Canllawiau mynediad i grwpiau - Amgueddfa Wlan Cymru

_____________________________________________________________________________________________________________________________________________

Amgueddfa Lechi Cymru | Taith Tu Ôl i'r LlenCanolfan Gasgliadau Llandygai  | Medi 16 ac 19, 1:00yp-2:30yp

Ymunwch â ni am daith am ddim o Ganolfan Gasgliadau Llandygai, lle mae holl gasgliadau Amgueddfa Lechi Cymru’n cael eu storio tra mae’r amgueddfa ar gau i ailddatblygu. Bydd cyfle i ddysgu mwy am y broses o gofnodi, threfnu a symud miloedd o wrthrychau, yn ogystal a chael golwg agosach ar greiriau difyr! Rhaid archebu lle.

Archebu tocyn

_____________________________________________________________________________________________________________________________________________

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Grŵp Sgetsio Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Medi, 16, 1:00yp-3:00yp

Ymunwch â’n grŵp braslunio anffurfiol newydd i archwilio golygfeydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd trwy ddarlunio. Mae croeso i bob lefel sgil, ac mae deunyddiau darlunio ar gael os oes angen. Galw heibio.

Mae'r grŵp hwn yn cwrdd bob wythnos, gan dderbyn aelodau newydd trwy gydol y flwyddyn.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Meddylgarwch yn yr Orielau Celf | Medi 17 a 19 11:00am

Ara' Deg: Cyflwyniad i Feddylgarwch yn yr Orielau Celf. Sut y gallwn ddefnddio celf i wella ein iechyd meddwl. Rhaid archebu lle.

Archebu tocyn

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Taith Dysgwr Cymraeg | September 18

Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gyfer taith wedi’i chynllunio’n arbennig ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Cewch eich tywys o amgylch yr orielau celf yn Gymraeg i weld casgliad celf genedlaethol Cymru, gyda chyfle i fagu hyder wrth sgwrsio gyda siaradwyr Cymraeg eraill a dysgu geirfa newyddBydd y daith hon yn cynnig cyfle i chi ymarfer eich Cymraeg mewn awyrgylch gyfeillgar a chefnogol gan eich galluogi i ddysgu a mwynhau beth bynnag eich lefel. 

  • 10:00yb – 11:00yb | Mynediad a Sylfaen 
  • 11:30yb – 12:30yp | Canolradd ac Uwch

Rhaid archebu lle.

Archebu tocyn

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Taith drwy Ganolfan Ddarganfod Clore yn | Medi 18, 1:00yp-3:00yp

Taith am ddim i ymwelwyr dall neu sydd â nam ar eu golwg yng Nghanolfan Ddarganfod Clore. Bydd cyfle i ymlacio mewn gofod rhyngweithiol poblogaidd, dysgu mwy am gasgliadau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a thrin a thrafod gwrthrychau go iawn.

Mae 1 tocyn yn yn rhoi'r hawl i chi ddod a thywysydd fel cwmni. Rhowch wybod os ydych yn bwriadu dod â thywysydd, ddod â chi tywys, neu os hoffech i'r amgueddfa ddarparu tywysydd ar eich cyfer. Rhaid archebu lle.

Archebu tocyn

Canllawiau Mynediad i Grwpiau - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

_____________________________________________________________________________________________________________________________________________

Dim lle ar ôl | Sain Ffagan | Un Llaw yn dy BocedGweithdy Tecstilau Creadigol gyda’r Artist Gwadd Vivian Ross-Smith | Medi 15, 11:00yb-1:00yp

Ymunwch â’r artist Vivian Ross-Smith am weithdy tecstilau, wedi’i ysbrydoli gan bocedi. Mae Vivian wedi bod yn ymchwilio i bocedi a’u straeon, a bydd y gweithdy hwn yn tynnu ar gasgliad yr Amgueddfa o bocedi a’u brodwaith addurniadol. Gan ystyried hanesion yr hyn sy’n eich pocedi, byddwch yn creu darn o frodwaith i fynd adref gyda chi. Rhaid archebu lle.

Archebu tocyn

Sain Ffagan | Bore i Ddysgwyr Cymraeg | Gwesty’r Vulcan | Medi 12, 10:00yb-1:00yp

Dewch i Sain Ffagan am fore o sgwrsio yn Gymraeg. Byddwn yn rhannu hanes Gwesty’r Vulcan, ac yn dweud sut y cafodd y dafarn ei symud i’r amgueddfa. Byddwn yn cael cwis tafarn ar thema’r Vulcan...yn y Vulcan!

Dewch draw i ymarfer eich Cymraeg, a chwrdd â dysgwyr eraill. Bydd cyfle i gael golwg ar yr adnoddau dysgu Cymraeg sydd yn Sain Ffagan, a’r cyfleoedd eraill i ddysgu.

Mewn partneriaeth â Dysgu Cymraeg Caerdydd a Menter Caerdydd.

Archebu tocyn

Sain Ffagan | Grŵp Sgetsio Sain Ffagan | Medi 12, 10:30yb-12:00yp

Ymunwch â’n grŵp braslunio anffurfiol newydd i archwilio golygfeydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru trwy ddarlunio. Mae croeso i bob lefel sgil, ac mae deunyddiau darlunio ar gael os oes angen. Rhaid archebu lle.

Archebu tocyn

Sain Ffagan | Taith Natur Feddylgar | Medi 17, 18, ac 19, 2:00yp-3:00yp

Ymunwch â ni am dro meddylgar o amgylch Sain Ffagan i archwilio byd natur. Cwrdd wrth y Ddesg Addysg (llawr cyntaf y prif adeilad), lle gallwch archebu eich lle am ddim. 

Archebu tocyn

Canllawiau Mynediad i Grwpiau - Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

_____________________________________________________________________________________________________________________________________________

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru | Teithiau Sain Ddisgrifiad | Ar gael o ddydd Mercher i ddydd Gwener

Dewch i fwynhau taith sain ddisgrifiad yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, a dysgu mwy am fywyd yng Nghaerllion oes y Rhufeiniaid. E-bostiwch learning.romans@museumwales.ac.uk i drefnu apwyntiad.

Archebu tocyn

Canllawiau Mynediad ar gyfer Grwpiau - Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

_____________________________________________________________________________________________________________________________________________

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau | Gweithdy Animeiddio Dementia Gyfeillgar | Medi 22 a 26, 10:00am-2:00pm

Ymunwch â ni ac Artist, Al Reffell am weithdy animeiddio ‘stop-frame’ Dementia gyfeillgar. Yn cymryd le dros ddau ddiwrnod, byddem yn defnyddio eitemau sydd yn ystyrlon i chi, ynghyd ag eitemau o ein casgliadau i greu animeiddiad.

Mae llefydd yn gyfyngedig ac mae archebu yn hanfodol. I archebu lle, cysylltwch â ni trwy e-bostio mims@museumwales.ac.uk 

_____________________________________________________________________________________________________________________________________________

Hygyrchedd: Mae ein gofod addysg yn gwbl hygyrch. Cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk ymlaen llaw i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.

Cefnogir y gweithgareddau hyn gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn rhan o ymgyrch Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru. Paid Stopio Dysgu - Wythnos Addysg Oedolion