Ffotograffiaeth Hanesyddol
Ffawydden (Fagus sylvatica L.), deiliach a chynffonau ŵyn bach yng Nghastell Rhiw'r-perrai a'r Cyrnol Frederick Courtenay Morgan, 1898
Dyma gopi o lun a dynnwyd gan Miss Ella K. Millar, y wraig cadw tŷ yng Nghastell Rhiw'r-perrai. Mae'r arysgrif a ysgrifennwyd wrth ymyl y ffotograff gwreiddiol fel a ganlyn "Big beech 6 foot from ground, 38 feet before gale, 1898. After gale with the limb broken off 23 feet 6 inches. Girth almost 15 feet. The figure in the photograph is Colonel Morgan". Roedd Cyrnol Frederick Courtenay Morgan, â'i deulu yn berchen ar y Castell, ac roeddent yn byw yno tan ei farwolaeth yn 1909.