Derwen Caerhyder (Quercus robur x sessiliflora) gyda dyn wrth ei bôn, Llanhenwg, tua'r 1930au
![](/media/ims/375/optimised/thumb_1600/16_NTrees_58.39.76.Cf.1.png)
Delwedd o Dderwen Caerhyder, y mae darnau ohoni i'w gweld hyd heddiw. Cafodd y goeden ei henwi ar ôl y cae y mae'n sefyll ynddo - 'Rhyder'. Pan dynnwyd y llun tua'r 1930au honnir mai dyma'r dderwen fwyaf o ran ei chylchfesur yn ne Cymru.