Croes, Merthyr Mawr

Gelwir y groes hon o'r 11eg ganrif yn garreg yr Ellyll yn lleol gan y dywedir bod ysbrydion yn gysylltiedig â hi. Mae'r llun yn dangos cefn y groes. Safai'n wreiddiol mewn cae o'r enw Kaer Groes, neu 'Cae'r Ellyll', ond fe'i symudwyd yn y 1830au i dir Tŷ Merthyr Mawr. Fe'i dangosir yma y tu allan i Gapel Sain Roch o'r 15fed ganrif, ar dir y tŷ. Mae bellach yng nghapel Sain Roch. Nash-Williams ECMW (1950) rhif 240 / Redknap a Lewis (2007) G99

Object Information:

Original Creator (External): Sir Thomas Mansel Franklen
Exact Place Name: Merthyr Mawr
Accession Number: 25.486
Keywords: carreg