Croes, Castell Caeriw

Dangosir y groes hon o ddiwedd y 10fed - dechrau'r 11eg ganrif yn ei lleoliad presennol uwchlaw'r ffordd gyferbyn â'r Carew Inn, i'r dwyrain o Gastell Caeriw (sydd i'w weld yn y cefndir). Mae gan Amgueddfa Cymru ddau gast o'r garreg yn ei chasgliad: un a wnaed ym 1901 ac un a wnaed yn y 1960au. Nash-Williams ECMW (1950) rhif 303 / Edwards (2007) P9

Object Information:

Original Creator (External): Sir Thomas Mansel Franklen
Exact Place Name: Caeriw
Accession Number: 25.486
Keywords: carreg