Carreg â chroes wedi'i cherfio arni, Eglwys Sant Deti, Llanddeti

Mae'r llun hwn yn dangos un rhan o garreg o'r 9fed ganrif â chroes wedi'i cherfio arni yn y safle y sylwyd arni gyntaf ym 1872, wedi'i hadeiladu fel dau gonglfaen yn nhŵr yr eglwys ganoloesol. Adferwyd yr eglwys yn y 1870au ac ym 1912. Erbyn 1922 roedd y cerrig wedi cael eu tynnu o'r tŵr a'u gosod yn yr eglwys. Mae gan Amgueddfa Cymru gast o'r garreg yn ei chasgliad. Nash-Williams ECMW (1950) rhif 46 / Redknap a Lewis (2007) B10

Object Information:

Original Creator (External): Sir Thomas Mansel Franklen
Exact Place Name: Llanddeti
Accession Number: 25.486
Keywords: