Carreg ag arysgrif mewn llythrennau Rhufeinig ac Ogam arni, Eglwys Gymyn, Pentywyn, Sir Gaerfyrddin

Mae'r garreg hon o ddiwedd y 5ed ganrif - dechrau'r 6ed ganrif yn coffau Avitoria, merch Cunagnus. Daethpwyd o hyd iddi tua 1855 pan gafodd yr eglwys ei hadfer a chafodd ei hailddarganfod tua 1880 yn y fynwent fel stepen a'i rhoi yn y gangell. Cyn 1901 fe'i canfuwyd yng Ngardd y Ficerdy. Ymddengys fod y llun hwn wedi'i dynnu y tu mewn i'r Eglwys. Nash-Williams ECMW (1950) rhif 142

Object Information:

Original Creator (External): Sir Thomas Mansel Franklen
Exact Place Name: Pentywyn
Accession Number: 25.486