Oriel Milwyr a 'bwrdd gwthio dimeiau', Cefnmabli
![](/media/ims/630/optimised/thumb_1600/07_TMFrank_37117.5.png)
Roedd Cefnmabli yn blasty sylweddol o'r 16eg ganrif gydag ychwanegiadau diweddarach. Yn y 1920au daeth yn sanatoriwm ar gyfer twbercwlosis ac fe'i defnyddiwyd fel ysbyty tan 1983. Gadawyd y tŷ yn wag yn y 1980au a llosgwyd rhan ohono yn y '90au. Mae fflatiau wedi cymryd ei le bellach.