Carreg ag arysgrif Ladin arni, Llansantffraid (Scethrog)

Cofnodwyd yr arysgrif hon o'r 6ed ganrif yn gyntaf gan un o gynorthwywyr Edward Llwyd ym "Mhentre Yskythrog" yng nghanol y briffordd. Erbyn 1777 roedd yn garreg filltir ar ochr y ffordd. Yng nghanol y 19eg roedd yn gorwedd mewn gwrych ychydig dros 4 milltir i'r de o Aberhonddu; mae'n debyg mai yma y tynnwyd ei llun tua 1889. Mae bellach yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog. Nash-Williams ECMW (1950) rhif 68 / Redknap a Lewis (2007) B35

Object Information:

Original Creator (External): Sir Thomas Mansel Franklen
Exact Place Name: Llansantffraid
Other Numbers: 37119/11
Keywords: carreg